Identity area
Type of entity
Corporate body
Authorized form of name
Cronfa Goffa Saunders Lewis
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Ym 1989 ffurfiwyd cronfa genedlaethol i goffáu John Saunders Lewis (1893-1985), ysgolhaig a beirniad llenyddol, ac un o wŷr disgleiriaf Cymru ei gyfnod. Ar Mehefin 3ydd cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa Saunders Lewis. Yr ymddiriedolwyr, a swyddogion Pwyllgor Rheoli yr Apêl oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd (Cadeirydd), Dr Meredydd Evans (Ysgrifennydd), Ms Ann Ffrancon (Ysgrifennydd Cynorthwyol), a Mr Alun Creunant Davies (Trysorydd), ynghyd â Mr Emyr Humphreys a'r Esgob Daniel Mullins. Ar Hydref 18fed y flwyddyn honno, yn Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, cynhaliwyd cynhadledd i'r Wasg a oedd hefyd yn gyfarfod lawnsio'r Apêl Ariannol gyda'i nod o gasglu £150,000 ar gyfer amcanion addysgol y Gronfa. Bwriad penodol Ymddiriedolwyr y Gronfa oedd buddsoddi'r arian a gasglwyd er mwyn defnyddio'r llogau i ariannu ysgoloriaethau, gwerth rhwng £14,000 a £16,000 y flwyddyn, a oedd yn agored i Gymry ifainc o dan bymtheg ar hugain mlwydd oed. Yr oedd yr ysgoloriaethau i'w dal am gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer gwaith ymchwil neu waith creadigol yn un o'r meysydd canlynol: cysylltiadau llenyddol, drama, ffilm, y celfyddydau cain ac adeileddau gwleidyddol. Ar gyfer y gwaith hwn yr oedd yn rhaid i'r deiliad dreulio'r cyfan, neu ran, o'r amser yn ymchwilio mewn sefydliadau addysgol neu artistig perthnasol yng ngwledydd Ewrop Gyfandirol. Amod arall oedd i ganlyniadau'r ymchwil gael eu cyflwyno yn Gymraeg. Cyflwynwyd yr ysgoloriaeth gyntaf ym 1993, blwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Saunders Lewis.