fonds GB 0210 SILLANF - CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloam, Llanfrothen,

Identity area

Reference code

GB 0210 SILLANF

Title

CMA: Cofysgrifau Eglwys Siloam, Llanfrothen,

Date(s)

  • 1862, 1886-1915, 1939-1993. (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

1 bocs; 0.029 metrau ciwbig.

Context area

Name of creator

Administrative history

Dechreuodd yr achos yn Siloam yn 1757 gyda nifer fechan yn ymgynnull ym Mhandy'r Ddwyryd. Dechreuodd yr Ysgol Sul tua 1796 yn Hafodty, ond cafodd cartref sefydlog rhwng 1814 ac 1834 yn adeilad yr ysgol oedd yn yr Hen Felin. Tua 1815 sefydlwyd eglwys yno ac yn 1833 prynwyd tir ac adeiladwyd capel. Yn 1858 ehangwyd y capel. Wedi i'r adeilad fynd yn rhy fach adeiladwyd capel newydd ac fe'i hagorwyd ym Mehefin 1866. Caeodd y capel yn 1993.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Y Parch. J. E. Wynne Davies; Aberystwyth; Adnau; Mawrth 2004; 0200403030.

Mrs Gwladys Evans; Wrecsam; Rhodd; Medi 2010

Content and structure area

Scope and content

Cofysgrifau Eglwys Siloam (MC), Llanfrothen, Sir Feirionnydd, gan gynnwys llyfrau cofnodion cyfarfodydd y capel a'r pwyllgor adeiladu, 1886-1915, 1939-1993; llyfrau cyfrifon casgliad y Weinidogaeth, 1955-1985, a llyfr y Trysorydd, 1962-1988, ynghyd â thrwydded priodas, 1862, ystadegau'r capel, 1969-1992, a llyfryn yn cynnwys hanes y capel rhwng 1866 a 1966. = Records of Siloam Calvinistic Methodist Church, Llanfrothen, Merionethshire, including minute books of chapel meetings and the building committee, 1886-1915, 1939-1993; ministry collection books, 1955-1985, and treasurer's book, 1962-1988; together with a marriage licence, 1862, chapel statistics, 1969-1992, and a volume including the history of the chapel between 1866 and 1966.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd yr archif yn LlGC yn ddwy gyfres: cofnodion a chyfrifon; a thair ffeil: trwydded priodas; ystadegau; hanes Eglwys Siloam.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

Script of material

Language and script notes

Cymraeg oni nodir yn wahanol.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir papurau'n ymwneud â Chapel Siloam, Llanfrothen, yn yr Archifdy Gwladol: genedigaethau a bedyddiadau Ysgoldy Llanfrothen, 1818-1820, microffilm o gofrestri 1810-1837; Prifysgol Cymru Bangor: llyfr adroddiadau ar gyfer Ysgol Sul Eglwys Siloam, 1878-1886; yn LlGC: CMA EZ1/145/1-15 (cyfrifon, biliau, ystadegau, bonion tystysgrifau trosglwyddo aelodaeth, cardiau post), 1866-1985; CMA EZ3/164, gwaith ymchwil R. O. Williams ar gyfer 'Hanes Eglwys Siloam, Llanfrothen, 1866-1966' a theipysgrif; NLW MS 1040B, llyfr cyfrifon Eglwysi Siloam a Cheunant, 1864 ac 1871; NLW MS 19259A (Bob Owen MSS), llyfrau nodiadau: 'Cofnodion Cyfarfod Ysgol [M. C.] Deudraeth', 1922-1923, a chofnodion Cyfarfod Ysgol Siloam [Llanfrothen], 23 Medi 1945; NLW MS 19279B (Bob Owen MSS), cofnod o bregethwyr, testunau ayyb, 1865-1885, yn ardal Croesor C. M. Chapel, Llanfrothen (Siloam), Penrhyndeudraeth & Ffestiniog a gadwyd gan W. T. Williams, Tŷ Capel, Croesor; Casgliad Bob Owen (Croesor), 2/23, 6/16, 6/61-65, 17/1/2-6, 17/1/15, 21/28, 25/51, 26/12; Casgliad Evan Williams, 2-4, papurau'n ymwneud â'r Ysgol Sul a'r achos yn Llanfrothen; Mortimer PG 4453; CMA LZ/43, medal Ysgol Sul; ynghyd ag adroddiadau blynyddol 1906, 1908.

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004323605

GEAC system control number

(WlAbNL)0000323605

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Hydref 2011.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd. Defnyddiwyd y ffynonellau ganlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Hanes Eglwys Siloam Llanfrothen 1866-1966 gan R. O. Williams (rhif /3 yn yr archif hon); Cronfa CAPELI LlGC; a gwefan Coflein (www.coflein.gov.uk), edrychwyd 14 Hydref 2011;

Accession area

Related people and organizations

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: CMA: Capel Siloam, Llanfrothen.