Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1859-2006 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.092 metrau ciwbig (29 cyfrol, 7 ffolder, 1 amlen)Mae rhannau o'r fonds yn cynnwys cyfrolau gyda chloriau sy'n rhydd. Gweler disgrifiadau ffeil.
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Codwyd Eglwys Philadelphia yn 1802. Eglwys anenwadol ydoedd hi y pryd hynny. Derbyniwyd Philadelphia yn aelod llawn gan y Methodistiaid yn 1804.
Cafwyd adeilad newydd yn 1829 a chredwyd y gallai ddal 800 o bobl. Un o weinidogion amlycaf Philadelphia oedd y Parchedig Thomas Levi. Adnewyddwyd y capel yn 1935 pan osodwyd pedair ffenest gwydr lliw yn y capel. Rhestrwyd Capel Philadelphia gan CADW fel adeilad cofrestredig ar raddfa II. Ym mis Mai 2002 cynhaliwyd cyfarfodydd dathlu dau canmlwyddiant yr achos. Ar 19 Ionawr 2003 cynhaliwyd gwasanaeth datgorffori'r eglwys.
Roedd y capel yn rhan o Ddosbarth Llansamlet yn Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd gan Mr John R. Davies, Treforus, Mehefin 2002 a Mai 2003.; 0200208371, 0200305605
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus, yn ymwneud ag ochr weinyddol y capel, materion ariannol a'r Ysgol Sul. Ceir yn eu plith cofrestri bedyddiadau, 1859-1990, cofrestri aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Methodistiaid Calfinaidd, 1899-1914, llyfr cyhoeddiadau pregethwyr, 1889-1933, llyfr cofnodion eglwysig, 1899-1950, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-2002, llyfrau cyfrifon, 1917-2003, llyfr yr eisteddleoedd, 1913-1939 a chofrestri'r Ysgol Sul, [1881]-1952, ynghyd â thaflenni ystadegol, 1969-2002, llythyrau'n ymwneud ag ymdrechion i gyllido'r gwaith atgyweirio ar yr adeilad, 1991-1995, adroddiad pensaernïol, 1996, ar gyflwr yr eglwys, a nodiadau ymchwil, [2002], am hanes yr achos.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yr archif yn LlGC yn dair cyfres: cofnodion gweinyddol, cofnodion ariannol a chofnodion yr Ysgol Sul; ac yn ddwy ffeil: hanes yr achos; a phapurau amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC 2001-.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Text
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Rhagfyr 2002 a Mehefin 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y disgrifiad gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: 'Cyfarfod Dathlu Canmlwydd a Hanner Eglwys Philadelphia, Treforus (Glam.) ym mis Mai 1952' yn CMA H43/3, rhaglen Philadelphia, Treforus. Cyfarfodydd dathlu dau canmlwyddiant yr achos yn cynnwys hanes yr achos gan John Richard Davies, 2002, ac CMA: Cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus.