fonds GB 0210 FFYNHON - CMA: Cofysgrifau Eglwys Ffynhonnau, Llanefydd

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 FFYNHON

Teitl

CMA: Cofysgrifau Eglwys Ffynhonnau, Llanefydd

Dyddiad(au)

  • 1854-1996 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.058 metrau ciwbig (14 cyfrol) + 2 eitem + ??? bocs (Ionawr 2005)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Codwyd y capel cyntaf ym 1795. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1826 ac yna codwyd yr adeilad presennol ym 1861. Decheuwyd yr achos gydag Ysgol Sul a gynhaliwyd yn fferm Ffynhonnau cyn symud i un o'r adeiladau allanol. Ym 1976 ffurfwyd gofalaeth newydd trwy ymuno Ffynhonnau, Cefn Berain a Llanefydd gyda'r Fron a'r Brwcws, Dinbych. Yna, yn dilyn adrefnu pellach, daeth Ffynhonnau yn rhan o ofalaeth Llansannan. Y mae'r achos bellach wedi dod i ben.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan y Parch. Ifor ap Gwilym, Ysgrifennydd Henaduriaeth Dyffryn Clwyd, Ebrill 2001; CMA 2001/1, 0200500238, 0200501132

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r capel, yr Ysgol Sul ac a gweithgareddau diwylliannol. Mae yn cynnwys llyfrau'r eglwys, 1951-1969, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-1975, llyfrau'r Eisteddleoedd, 1908-1996, llyfrau cyfrifon,1861-1984, llyfrau casgliad chwarterol,1940-57,llyfr banc, 1928-1953, llyfr llythyrau aelodaeth,1945-1985 a chofrestr aelodau cymdeithas ddirwestol y capel, 1905-1956. Ceir hefyd lyfrau cofnodion a chyfrifon yr Ysgol Sul, 1854-1985, a llyfr cofnodion pwyllgor yr Eisteddfod, 1964-1967.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LlGC yn dair adran: cofnodion y capel, yr Ysgol Sul a gweithgareddau diwylliannol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LlGC.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Cofrestr bedyddiadau, 1811-1837, yw Archifdy Gwladol, PRO: RG4/3872 (v)[D/47] (copi meicroffilm yn LlGC). Ceir cofrestr arall, 1810-1824, yn Archifdy Sir Ddinbych a cheir adroddiadau blynyddol y capel, 1950-1972, yn LlGC. Hefyd, ceir cwpan cymun a chostrel ymhlith yr eitemau a gedwir yn y Greirfa.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004200323

GEAC system control number

(WlAbNL)0000200323

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ebrill 2001.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Merfyn Wyn Tomos.

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: Evans, R. H., Hanes Henaduriaeth Dyffryn Clwyd (Dinbych, 1986).

Ardal derbyn