Clippings.

Taxonomy

Code

Scope note(s)

Source note(s)

Display note(s)

Hierarchical terms

Clippings.

Equivalent terms

Clippings.

Associated terms

Clippings.

10 Archival description results for Clippings.

10 results directly related Exclude narrower terms

A. Osmond Williams press cuttings

  • GB 0210 MSOSMAMS
  • Fonds
  • [1900]-[1910]

Four scrapbooks, compiled [1900]-[1910], containing press cuttings and letters, [1869], 1893-1910, relating to the political career of A. Osmond Williams, MP, and to his son Lieut. Osmond T. D. Williams.
The scrapbooks were evidently compiled by a member of A. Osmond Williams' family, probably his sister Alice or his mother Annie; with a few exceptions the cuttings are dated no later than early 1904, coinciding with Annie's death in June of that year.

Letters of Charles Ashton, &c.,

  • NLW MS 4939C.
  • File
  • 19 cent.

Letters, 1893-1897, from Charles Ashton, Dinas Mawddwy, to Hubert Smith, Bournemouth (sometime town clerk of Bridgnorth), and press cuttings, 1899, relating to Charles Ashton, etc.

Ashton, Charles, 1848-1899.

Llyfr lloffion

Llyfr nodiadau yn cynnwys torion o'r wasg, yn bennaf o erthyglau Evan Roberts yn Y Seren, 1932-1937 (tt. 1-107 yn bennaf), gyda rhai torion rhydd, 1927-1937. Ceir yn ogystal nifer o erthyglau yn llaw Evan Roberts ar gychwyn a diwedd y gyfrol, gan gynnwys 'Hen Chwaraeon neu Gampau'r Cymry' (ff. 1-13).

Llyfr lloffion

Llyfr cyfrif yn cynnwys torion o'r wasg, [1941]-[1952], o erthyglau gan Evan Roberts ('Ysgubau o Ysgrepan y Lloffwr a ymddangosodd yn Y Seren Gan Evan Roberts, Llandderfel (Ieuan Derfel)' y tu mewn i'r clawr blaen). Mae yna restr cynnwys ar gychwyn y gyfrol (ff. i verso-ii).

Llyfr lloffion

Cofrestr ar gyfer [?Ysgolion Sul], 1875-1885, wedi ei ail-bwrpasu yn ddiweddarach fel llyfr lloffion, yn cynnwys torion o'r wasg, [c. 1890]-1900, ynglŷn â gyrfa, priodas a marwolaeth T. E. Ellis, a hefyd barddoniaeth Cymraeg a Saesneg a newyddion cyffredinol. Mae yna dorion wedi eu pastio i mewn yma ac acw, ac eraill yn rhydd yn y gyfrol (nawr mewn amlen archifol).

Llyfr lloffion

Llyfr ysgrifennu yn cynnwys torion o'r wasg, 1924-1930, yn bennaf o erthyglau Evan Roberts, gan gynnwys ei golofn 'Ysgubau o Ysgrepan y Lloffwr' yn Y Seren.

Llyfr lloffion

Cyfrol yn dwyn y teitl 'Pedwerydd llyfr Scraps o ysgrifau cyhoeddedig gan Evan Roberts, Llandderfel' (f. i), yn cynnwys torion o'r wasg, 1938-[1941], yn bennaf o'i golofn 'Ysgubau o Ysgrepan y Lloffwr' yn Y Seren, yn eu mysg cyfresi o erthyglau ar 'Hen Ysgolion Bro Derfel Sant', I-XVI (ff. 5-26), 'Hanes Plwyf Llandderfel', I-XXII (ff. 59-89), a 'Hen Etholiadau Seneddol Meirionydd', I-VII (ff. 91-101).

Torion o'r wasg

Copïau a thorion o wahanol bapurau newydd, yn cynnwys Y Cymro, Y Cyfnod, ac eraill, 1931-1967, nifer yn cynnwys eitemau yn ymwneud ag Evan Roberts ac ambell i erthygl ganddo.
Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys 'Hynodion Hen Gymeriadau Llandderfel gan Evan Roberts', llyfryn yn cynnwys llungopiau, [?20 gan., hwyr], o'i erthyglau yn Cymru, 71 (1926) a 72 (1927).

Y Seren

Rhifynnau cyfan a thorion o'r Seren, [1924]-1955, y mwyafrif yn cynnwys ysgrifau gan Evan Roberts, yn bennaf ei golofn 'Ysgubau o Ysgrepan y Lloffwr'.

Papurau amrywiol S.R.

Papurau amrywiol, [c. 1807]-1884, wedi eu tynnu o ddyddiaduron S.R. (NLW 14035-60A) yn LlGC a'u trefnu, [c. 1940], yn fras yn bedwar grwp. = Miscellaneous papers, [c. 1807]-1884, removed from the diaries of S.R. (NLW 14035-60A) at NLW and arranged, [c. 1940], broadly into four groups.
Maent yn cynnwys papurau ariannol yn ymwneud a'i ymfudo i Tennessee, 1840, 1856-1870 (ff. 1-11); torion papur newydd, 1876-1884 (ff. 12-45); papurau ariannol yn dyddio o'i gyfnod yng Nghonwy, 1873-1883 (ff. 46-70); a darnau o farddoniaeth a rhyddiaith yn Saesneg, [c. 1807]-[1823] (ff. 75-79). = They include financial papers relating to of his emigration to Tennessee, 1840, 1856-1870 (ff. 1-11); newspaper cuttings, 1876-1884 (ff. 12-45); financial and other papers dating from his time in Conwy, 1873-1883 (ff. 46-70); and items of poetry and prose in English, [c. 1807]-[1823] (ff. 75-79).