Ffeil AA/2 - Cerddi i Dic Jones

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

AA/2

Teitl

Cerddi i Dic Jones

Dyddiad(au)

  • [2004], 2009-2010 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

1 amlen + 1 bocs maint arbennig

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cerddi a ysgrifenwyd i Dic Jones gan, ymysg eraill, y Prifeirdd Idris Reynolds, Gerallt Lloyd Owen a Ceri Wyn Jones. Yn gynwysedig ceir addasiad o un o gerddi Ceri Wyn Jones, 'Deryn Du yr Hendre', a gomisiynwyd ar gyfer Côr Unebol Ar Ôl Tri (y gerddoraeth gan Gareth Glyn), ac englynion gan Pat (Neill) ar achlysur Dic Jones yn ennill gradd MA er anrhydedd oddi wrth Prifysgol Cymru. Arysgrifir tudalen flaen y copi cerddoriaeth i Siân, gweddw Dic Jones, gan Ceri Wyn Jones.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Am Idris Reynolds, gweler Papurau Idris Reynolds (Dic Jones) o fewn yr archif hon.

Ganed Gerallt Llwyd Owen yn Llandderfel a'i fagu ym mhentref cyfagos Sarnau. Fe'i cyflwynwyd i grefft y gynghanedd gan ei athro ysgol, Bob Lloyd (Llwyd o'r Bryn). Bu'n Feuryn Ymryson y Beirdd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer ac hefyd yn Feuryn rhaglen Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru o 1979 hyd 2010. Ennillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd ym 1962, 1965 a 1969, Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cricieth 1975 am ei awdl 'Afon' a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 am ei awdl 'Cilmeri', a ystyrir yn un o'i gampweithiau. (https://bywgraffiadur.cymru/article/c11-OWEN-LLO-1944#?c=0&m=0&s=0&cv=5&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1579922%2Fmanifest.json&xywh=908%2C124%2C913%2C788).

Ganed Ceri Wyn Jones yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford a'i fagu yno, yn Aberteifi ac ym Mhen y Bryn yng nghogledd Sir Benfro. Dysgodd grefft y gynghanedd gan y Prifardd T. Llew Jones. Ennillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Bala 1997 am ei awdl 'Gwaddol', Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 am ei awdl 'Lloches' a Choron Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 am gyfres o gerddi ar y testun 'Yn y Gwaed'. Bu'n Fardd Plant Cymru o 2003 hyd 2004 ac yn 2012 fe'i penodwyd yn Feuryn cystadleuaeth eisteddfodol Talwrn y Beirdd. (https://cy.wikipedia.org/wiki/Ceri_Wyn_Jones)

Ganed y cyfansoddwr a'r darlledydd radio Gareth Glyn (g. Gareth Glynne Davies) ym Machynlleth ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen. Cyfansoddodd ystod eang o weithiau cerddorol, gan gynnwys cerddoriaeth leisiol a cherddorfaol a cherddoriaeth ar gyfer y teledu. Bu'n cyflwyno'r rhaglen Post Prynhawn ar Radio Cymru o 1978 hyd 2013. (https://en.wikipedia.org/wiki/Gareth_Glyn)

Am Gôr Ar Ôl Tri gweler, er enghraifft: https://www.facebook.com/groups/4158944770/; https://www.facebook.com/tudalenaroltripage/; https://www.tivysideadvertiser.co.uk/news/20607558.cardigans-ar-ol-tri-dedicate-eisteddfod-win-wyn-y-vet/

Am y bardd, awdur a'r beirniad Pat Neill, gweler, er enghraifft: https://www.barddas.cymru/tlws/tlws-pat-neill/; https://www.peoplescollection.wales/items/1892576

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Dic Jones = Dic Jones Papers (Bocs 1 & 3) AA/2