Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1910-2016 (Creation)
Level of description
Fonds
Extent and medium
2.899 metrau ciwbig (199 bocs, 70 cyfrol, 55 ffeil, 2 ffolder)
Context area
Name of creator
Administrative history
Mudiad i blant a phobl ifanc yw Urdd Gobaith Cymru, sydd yn trefnu gwahanol weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r bwriad o feithrin y Gymraeg a diwylliant Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922, yn dilyn lansio apêl gan Ifan ab Owen Edwards, y golygydd, (1895-1970) yn Cymru'r Plant. Erbyn diwedd y flwyddyn honno roedd gan yr Urdd 720 o aelodau, gan gynyddu i dros 5000 erbyn 1927. Trefnwyd yr aelodau lleol yn adrannau ac aelwydydd, a sefydlwyd yr adran gyntaf yn Nhreuddyn, sir y Fflint, yn 1922. Erbyn 1927 yr oedd dros 80 o adrannau. Mae gan yr Urdd 50,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed yn awr. Ar y cychwyn gweinyddwyd y cyfan gan Edwards a'i wraig, ac yn 1932 datblygodd yr Urdd yn Gwmni Urdd Gobaith Cymru [Corfforedig] gyda chyhoeddi ei Memorandwm ac Erthyglau Cwmni y flwyddyn honno. Trefnodd yr Urdd ei gwersyll haf gyntaf yn 1928 yn Llanuwchllyn, sir Feirionnydd. Dilynwyd hyn yn 1932 gan sefydlu canolfan breswyl barhaol yn Llangrannog. Ceredigion. Ychwanegwyd ati gan Lan-llyn ar lannau Llyn Tegid, sir Feirionnydd, yn 1950. O 1932 ymlaen trefnodd yr Urdd gystadlaethau chwaraeon, y cyntaf yn Llanelli. Trefnodd yr Urdd fordeithiau hefyd rhwng 1933 a 1939, y cyntaf yn cludo 500 o aelodau i Sgandinafia. Ers 1925 y mae'r Urdd wedi darlledu Neges Heddwch ac Ewyllys Da oddi wrth Ieuenctid Cymru at Ieuenctid y Byd bob blwyddyn. Datblygiad pwysig a noddwyd gan yr Urdd oedd agor yr Ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Lluest, Aberystwyth, yn 1939, gyda saith disgybl. Erbyn 1945 yr oedd gan yr ysgol 85 o ddisgyblion a phedwar athro. Mae'r Urdd wedi cynhyrchu amryw o gylchgronau a chyfnodolion dros y blynyddoedd. Yn ogystal â Cymru'r Plant, oedd yn dal yn boblogaidd, yr oedd Cymraeg(1954) yn gylchgrawn i ddysgwyr a Cymru (1957) ar gyfer aelodau hŷn. Yn 2003 roedd tri chylchgrawn: Cip, ychwanegiad i Cymru'r Plant, Bore Da a IAW! i ddysgwyr. Efallai mai cyfraniad mwyaf arwyddocaol y mudiad i fywyd yng Nghymru yw Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghorwen, Meirionnydd, yn 1929. Oddi ar hynny fe'i cynhaliwyd yn flynyddol, mewn lleoliad yn ne a gogledd Cymru bob yn ail, ac mae'n parhau am chwe diwrnod erbyn hyn (2003). Yn ogystal, rhagflaenir yr Eisteddfod Genedlaethol gan eisteddfodau lleol a rhanbarthol i ddewis y cystadleuwyr terfynol. Parhaodd ymlyniad cadarn Ifan ab Owen Edwards â'r Urdd tan ei farwolaeth yn 1970.Yn 1948 ymddeolodd o'i waith fel darlithydd i roi ei amser yn llwyr i'. Ffigwr arall pwysig yn y dyddiau cynnar oedd R. E. Griffith (1911-1975) a ymunodd â'r Urdd fel Trefnydd yn 1932, chael ei ddyrchafu yn Brif Drefnydd yn 1935 a'i apwyntio yn Gyfarwyddwr yn 1959. Ymddeolodd c. 1972. W. J. Williams oedd trysorydd cyntaf y Cwmni yn 1932.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Urdd Gobaith Cymru; Rhodd; 1989, 1997.
Urdd Gobaith Cymru; Adnau; 1958, 1973.
Mr Cynfal Roberts; Rhodd; 1965-1970.
Mr William Williams; Aberystwyth; Rhodd.
Mr Elvey MacDonald; Rhodd; 1994.
Content and structure area
Scope and content
Cofnodion Urdd Gobaith Cymru, yn cynnwys papurau gweinyddol, yn eu plith adroddiadau a gohebiaeth, 1931-1990; cofnodion Pwyllgor, is-bwyllgorau a phaneli yr Urdd, 1939-1995, cofnodion ariannol, 1931-1996l, papurau yn ymwneud â theithiau tramor a drefnwyd gan Urdd Gobaith Cymru a Negeseuon Heddwch ac Ewyllys Da, 1931-1984; cofnodion, dogfennaeth ariannol ac arall perthynol i Gronfa Goffa O.M. Edwards, 1928-1976; papurau yn ymwneud â changhennau (adrannau ac aelwydydd), 1938-1960; gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â chyrsiau a drefnwyd gan yr Urdd,1948-1965, a phapurau eraill yn ymwneud â'r cylchgronau, 1948-1990; trefniadau ar gyfer gwahanol wyliau, 1936-1995; cofnodion gweinyddol ac ariannol yn ymwneud â'r gwersylloedd yn Llangrannog a Glanllyn,1940-1995; deunydd printiedig, 1932-1963; llythyrau at O.M. Edwards, 1910-1920; cofnodion yn ymwneud â'r Cyngor, 1972-1991, a Chwmni yr Urdd, 1972-1989; cofnodion yn ymwneud ag aelodau staff, 1975-1995; gohebiaeth a thaflenni yn ymwneud ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd,1930-1965; papurau yn ymwneud â Maes yr Eisteddfod, 1972-1985, seremonïau yr Eisteddfod, 1952-1982, sioeau'r theatr, 1981-1991, a chystadlaethau; a chofnodion yn ymwneud â threfnu pob un o'r Eisteddfodau Cenedlaethol, 1946-1996 = Records of Urdd Gobaith Cymru, comrpising general administrative papers, including reports and correspondence, 1931-1990; records of Urdd Committee, sub-committees and panels, 1939-1995; financial records, 1931-1996; papers relating to overseas trips organized by Urdd Gobaith Cymru and international meetings, 1931-1962; papers relating to the Messages of Peace and Goodwill, 1931-1984; minutes, financial and other records of the O. M. Edwards Memorial Fund, 1928-1976; papers relating to the Welsh School, Aberystwyth, 1939-1952; papers relating to branches (adrannau and aelwydydd), 1938-1960; correspondence and papers relating to courses organized by the Urdd, 1948-1965; papers relating to the annual conferences to discuss the Urdd's magazines, 1952-1973, and other pars relating to the magazines, 1948-1990; arrangements regarding various festivals, 1936-1995; administrative and financial records relating to the camps at Llangrannog and Glanllyn, 1940-1995; printed material, 1932-1963; letters addressed to O. M. Edwards, 1910-1920; records relating to the Council, 1972-1991, and Cwmni'r Urdd, 1972-1989; records relating to staff members, 1975-1995; correspondence and literature relating to the Urdd National Eisteddfod, 1930-1965; papers relating to the Eisteddfod Maes, 1972-1985, Eisteddfod ceremonies, 1952-1982, theatre shows, 1981-1991, and competitions; and records relating to the organisation of individual National Eisteddfodau, 1946-1996.
Appraisal, destruction and scheduling
Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Accruals
Mae ychwanegiadau yn bosibl.
System of arrangement
Trefnwyd y grŵp cyntaf fel y ganlyn: cofnodion gweinyddol; cofnodion cyllidol; teithiau a mordeithiau; negeseuon heddwch ac ewyllys da; Cronfa Goffa Syr O.M. Edwards, adrannau ac aelwydydd; defnyddiau tramor a rhyngwladol; eisteddfodau yr Urdd; cyrsiau, cyfnodolion; gwyliau; gwersylloedd; amrywiol; deunydd printiedig. Mae adnau Hydref 1989 ar ffurf atodiad gyda threfn debyg. Trefnwyd yr ail grŵp yn: ffeiliau cyffredinol; ac eisteddfodau.
Trefnwyd yr ychwanegiad diweddarach (Adran M) fel y ganlyn: cofnodion gweinyddol; cofnodion cyllidol; Coffau Syr O.M. Edwards; negeseuon heddwch ac ewyllys da; yr Urdd yn lleol; gweithgarwch yr Urdd; cylchgronnau ac adnoddau'r Urdd; ac eisteddfodau.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- English
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copïau caled o'r catalogau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalogau ar gael ar lein.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Place access points
Name access points
- Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru. (Subject)
- Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970 (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Ebrill 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Archifau Urdd Gobaith Cymru; LlGC, Rhestr o Bapurau Swyddfa Ganolog Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, 2 gyfrol; Griffith, R. E., Urdd Gobaith Cymru.
Ychwanegiad diweddarach, a rhoddion 2018 a 2019 a lluniwyd gan Lorena Troughton a Siwan Jones, 2022.