Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1948]-[1982]. (Creation)
Level of description
file
Extent and medium
3 ffolder; 2 cm.
Context area
Name of creator
Biographical history
Roedd y Parch. Dr William Thomas Pennar Davies (W. T. Pennar Davies, 'Davies Aberpennar', 1911-1996) yn fardd, yn nofelydd ac yn ysgolhaig. Ganwyd yn William Thomas Davies yn Aberpennar, Morgannwg, ar 12 Tachwedd 1911, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen, a Phrifysgol Iâl, UDA. Bu'n weinidog yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1943, ac yna yn Athro yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Coffa Aberhonddu, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Coffa Abertawe. Yr oedd yn Brifathro'r Coleg Coffa, 1952-1981, tan ei ymddeoliad. Cafodd ei gysylltu â grŵp o feirdd Cylch Cadwgan o 1939 ymlaen, yn ysgrifennu dan yr enw 'Davies Aberpennar', a mabwysiadodd yr enw 'Pennar' tua 1948.Priododd Rosemarie Woolf yn 1943 ac y mae Meirion Pennar yn un o'i bum plentyn. Bu farw 29 Rhagfyr 1996. Yn ogystal â chyfraniadau i Cerddi Cadwgan (Abertawe, 1953), cyhoeddodd chwe chasgliad o'i farddoniaeth yn cynnwys Cinio'r Cythraul (Dinbych, 1946), Naw Wfft (Dinbych, 1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961) a Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971, Ymhlith ei ryddiaith yr oedd Caregl Nwyf (Llandybïe, 1966), y nofelau Meibion Darogan (Landybïe, 1968 a Mabinogi Mwys (Abertawe, 1979) a gweithiau ysgolheigaidd megis Rhwng Chwedl a Chredo (Caerdydd, 1966).
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Teipysgrifau erthyglau 'Pennar Davies: more than a poeta doctus', (Triskel Two (Llandybïe, 1973)) gyda llythyr oddi wrth Pennar Davies, 'Eschatoleg T. Gwynn Jones' (Barn, 1981), 'Catwlws o Ferona' (Taliesin, 1982) ac eraill, ynghyd â rhai adolygiadau.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Preferred citation: A2/10.