Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1928-1929 (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
1 gyfrol.
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Dr Rhidian Griffiths; Aberystwyth; Rhodd; Chwefror 2024.
Content and structure area
Scope and content
Copi o'r gyfrol, 'Y Mynach a'r Sant': dwy awdl gan D. Gwenallt Jones (Llandysul, 1928). Cyflwynwyd y copi hwn i D. Ernest Williams, Pontardawe, 12 Ebrill 1929, a cheir ynddo englyn cyfarch yn llaw Gwenallt.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl gwreiddiol.
Alternative identifier(s)
Alma system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; and LCSH.
Status
Draft
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Disgrifiad wed'i hadolygu gan Ceri Evans, Mai 2024.