Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Wil Ifan, 1883-1968.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd y Parch. William Evans ('Wil Ifan', 1883-1968) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor, ac yn Archdderwydd Cymru. Fe'i ganed yn Llanwinio, sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Parch. Dan Evans. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Manceinion, Rhydychen. Bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr Annibynwyr yn Nolgellau, sir Feirionnydd, 1906-1909, Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg, 1909-1917, a Chaerdydd, Morgannwg, 1917-1925. Dychwelodd i Ben-y-bont ar Ogwr, 1925-1949, a chafodd ei wneud yn Weinidog Emeritws yno am weddill ei fywyd. Cyfansoddodd farddoniaeth a rhyddiaith yn ogystal รข sawl drama, yn Gymraeg a Saesneg. Yr oedd hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio ac yn ddarlledwr. Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Goron ar dair achlysur. Yr oedd yn beirniadau mewn eisteddfodau yn gyson a bu'n Archddrwydd Cymru, 1947-1950. Cyhoeddwyd ei farddoniaeth mewn nifer o gyfrolau, gan gynnwys, yn Gymraeg, Dros y Byth (Y Fenni, 1913), Plant y Babell (Wrecsam, 1922), Y Winllan Las (Caerdydd, 1936) a Difyr a Dwys (1960); ac yn Saesneg, A Quire of Rhymes (Caerdydd, 1943) a Here and There (1953). Casglwyd rhai o'i ysgrifau a'i erthyglau yn Y Filltir Deg (Abertawe, 1954) a Colofnau Wil Ifan (Llandysul, 1962). Priododd Nesta Wyn o Ddolgellau, Meirionnydd, yn 1910, a chwasant bedwar o blant, Elwyn, Mari, Nest a Brian. Bu farw 16 Rhagfyr 1968.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf