Dangos 2060 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

Casgliad Erwyd Howells

  • GB 0210 ERWHOW
  • Fonds
  • 20fed-21ain ganrif

Casgliad o ddeunydd llawysgrif a phrintiedig yn ymwneud â nodau clustiau defaid (Mân Adnau 1626 gynt; troswyd yn rhodd ym mis Ionawr 2023).
Llyfr nôd clustiau Machynlleth a'r ardaloedd cyfagos, ynghyd â dyddlyfr y bugail teithiol John Erwyd James ynglŷn â'r clafr yng ngogledd Ceredigion; Ebrill 2022.
Copi o lyfr nôd clustiau Llanddewi Brefi ac ardaloedd cyfagos. Gwaith Edward (Eddie) James, Ty'n swydd, a fu yn wâs ar fferm y Graig, Llanddewi. Rhain trwy law Jackie James, Caerdydd, merch Eddie James. Maer llyfr gwreiddiol wedi ei golli; Ionawr 2023.
Papurau a gasglwyd gan y rhoddwr yn ymwneud â chŵn defaid a bugeilio, a hanes teuluoedd canolbarth Cymru, a drosglwyddwyd i LlGC yn 2019 gyda chasgliad o ffotograffau; Ionawr 2023.
Llyfr cyfrifon William Hopkins, Llaneithyr, 1927 (wedyn 'Melindwr', Eglwysfach) yn cynnwys cyfrif prynu a gwerthu, a phrisiau defaid cadw tros yr haf; Mai 2023.
Casgliad o ddyddiaduron y rhoddwr, 1969-98, ynghyd â llungopïau o gyfres o erthyglau o'r Welsh Gazette, 1922-3, 'Local lore. Devil's Bridge and District. Gleanings from the past', gwaith beirdd gwlad gogledd Ceredigion a gasglwyd gan y rhoddwr ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain, a deunyddiau yn ymwneud â hanes Pontarfynach, Goginan, Rhos-y-gell, Trisant, Ystumtuen, Pen-llwyn/Capel Bangor a Thal-y-bont, a hanes pobl a fagwyd yng ngogledd Ceredigion ond a fu farw yn Unol Daleithiau America; Medi 2024.
Papurau ychwanegol yn cynnwys dyddiaduron y rhoddwr, 1995-2023; 4 Chwefror 2026.
Nodiadau achyddol (ffeil 50) yn ymwneud â theulu Griffiths, Werndeg, Ponterwyd, a Throedrhiw, Goginan; 6 Chwefror 2026.
Ffolder yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chŵn defaid; Ebrill 2026.
Un bocs bach yn cynnwys deunydd achyddol a phapurau yn ymwneud â Chwmystwyth; Mehefin 2026.

Howells, Erwyd

Casgliad Ffansîn Rhys Williams,

  • GB 0210 FANSRW
  • Fonds
  • 1982-1990.

Casgliad o 16 ffansin cerddoriaeth pop Cymraeg, 1982-1990, ac un poster gig [1985].

Willams, Rhys,

Casgliad Ffansîns Mari Williams

  • GB 0210 FFANMWILL
  • Fonds
  • 1977-1989

Casgliad o Fanzines Mari Williams yn dyddio tua 1977 i 1989 yn cynnwys Cwff yn ôl (ffanzine CYI ardal Caerdydd), Sylw – rhif 2, Llygredd Moesol, Ar Daf (Cylchgrawn Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd) 1983, Sothach Chwefror 1989, Mawrth 1989, Ebrill 1989, Mai 1989, Cen ar y Pen – Chwefror 1988, Sgrech – Ebrill 1983, Llanast, Dracht, Yn Syth o’r Rhewgell – rhif 1 (Ebrill 1985), rhif 2 (Mehefin 1985), Dyfodol Dyddiol, Cysylltiad, Yr Adlonwr, Wy Pasg wedi Llwydo (cylchgrawn cell CYI Ysgol Morgan Llwyd), Asbri – Gwanwyn 1977, Amser Siocled rhif 1, 2, 3, 4 a 5 (1982-83), Rhywle yn Moscow, Groucho neu Marx, Y Profion Dirgel, CHMYLL / YChMLL, Rhech, a mwy. Hefyd rhaglen yr opera roc ‘Y Mab Darogan’ a berfformiwyd ar draws Cymru gan Gwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn 1982 (yn cynnwys llofnodion yr actorion/criw a thocynnau i’r perfformiadau), a 4 bathodyn.

Mari A. Williams

Casgliad Ken Owen

  • GB 0210 KENWEN
  • Fonds

Casgliad archifau a llawysgrifau yn cynnwys 16 eitem: llyfr nodiadau Dic Jones, 'Gwanwyn.' Eisteddfod 1976. 'Awdl y gynnau mawr'; drama 'Gwr Llonydd' John Gwilym Jones yn ei lawysgrifen ei hun; sgôr cerddoriaeth: Gwales - Pwyll ap Siôn, 3 llyfryn; sgôr cerddoriaeth: Y groesffordd - Pwyll ap Siôn, (gyda llofnodion Pwyll ap Siôn, Bryn Terfel, ac Iwan Llwyd); casgliad o gardiau post gan Matthew Davies at Ken Owen (Y Barwn Matacsa); nofel 'Eneidiau' yn llawysgrifen Aled Jones Williams; pregeth 'Halen' gan Emlyn Richards yn ei lawysgrifen; cerdd 'Dwyt ti ddim yn hen' gan Karen Owen yn ei llawysgrifen; Teipysgrif drama 'Gwr Mrs Jones', wedi'i lofnodi gan Islwyn Ffowc Ellis; llythyr Saunders Lewis at Mrs Herbert 'Miss Vina Herbert', 1973; stori fer 'Cwsmeriaid' gan Kate Roberts yn llaw ei hun, ynghyd a llythyr at yr Athro J.E. Caerwyn Williams; pytiau o ddeialog gan Gwenlyn Parry, 1990; cerdd gan Gwyn Thomas i gofio am John Gwilym Jones, 1990; llyfryn 'Wil Sam' gan Annes Glynn; ysgrifbin Saunders Lewis; cetyn Dic Jones.

Ken Owen

Chirk Castle Estate Records,

  • GB 0210 CHIRK
  • Fonds
  • 1284-[c. 1852]

Estate and family records of the Chirk Castle estate, mainly in Denbighshire, comprising deeds from 1284; manorial records, mainly of the lordship of Chirk and Chirkland, 1322-1853, including receiver's accounts, ministers' accounts, court rolls, etc.; records of the estate's involvement in the coal, iron and lead industries in Denbighshire from 17 cent.; Denbighshire Quarter Sessions records, including order books, 1647-1675, rolls, 1643-1699, and a book of indictments, 1670-1690; Denbighshire militia records, 1602-1797, and related local government records, 1602-1811; business papers of Sir Thomas Myddelton (1550-1631); personal and estate correspondence from c.1600; literary manuscripts, c.1630-1887; and parliamentary election papers for Denbighshire and Denbigh boroughs, 1681-1852, including papers relating to quo warranto proceedings against the mayor and burgeses of Holt, 1739-1743.

Ten designs for stained glass panels, with armorial pedigree of the Myddelton family attributed to A. W. N. Pugin and John Hardman Powell; three hundred and thirty-two volumes relating to the Chirk Castle estates; a collection of miscellaneous volumes and documents relating to the Chirk Castle estates, including an account book of the Nangwrud Slate Quarry, rentals books, account books, volumes relating to the Black Park Colliery, a rabbit account book, and other papers; and an indenture, 1812, relating to Bodlith, Llansilin, part of the Chirk Castle estate were acquired. These remain uncatalogued.

A manuscript account book for Sir Richard Myddelton's properties at Chirk Castle and Soho Square, London, 1686-1700 and 1748-1752.

A manuscript Steward's letter-book relating to Chirk Castle, 183501838.

Myddelton family, of Gwaenynog, Denbigh, Chirk and Ruthin, Denbighshire, London, and Essex

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre, yn cynnwys cofnodion ariannol a'r Ysgol Sul, adroddiadau blynyddol, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Bethel, Penbre

CMA: Cofysgrifau Capel Bethlehem, Pontycymer

  • GB 0210 BETHPC
  • Fonds
  • 1877-1936

Cofysgrifau yn cynnwys cofnodion ariannol, 1911-36, ynghyd â llyfr cyfrifon Ysgolion Sabbothol Dosbarth Maesteg, 1877-1907.

Capel Bethlehem, Pontycymer

CMA: Cofysgrifau Capel Blaenannerch, Ceredigion

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1999-2015

Adroddiadau blynyddol 1999, 2008-2009, a 2011-2015. Taflen gwasanaeth arbennig i nodi 120 mlynedd ers Diwygiad 1904; Hydref 2024.

Capel Blaenannerch, Ceredigion

CMA: Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel

  • GB 0210 DINAMOEL
  • Fonds
  • 1914-1989

Cofysgrifau Capel Dinam, Nant-y-moel, 1914-89, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1919-88, a llyfr cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1960-89.

Capel Dinam, Nant-y-moel

CMA: Cofysgrifau Capel Elim, Tir-y-dail

  • GB 0210 TIRYDAIL
  • Fonds
  • 1902-2003

Cyfrolau o gyfrifon ariannol, cofrestr bedyddiadau, ffeil o bapurau'r ysgrifennydd, llyfrau yn nodi cyfraniadau'r aelodau, ac adroddiadau blynyddol Capel Elim (MC), Tir-y-dail, Rhydaman, 1902-2003.

Capel Elim (Tir-y-dail, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1933-2023

Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth, 1933-2023, yn cynnwys cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1934-2015, marwolaethau a chladdedigaethau, 1933-2020, a rhestr priodasau, 1988-97; cofnodion ariannol, 1985-2023; llyfr cofnodion pwyllgorau, 1956-2022; adroddiadau blynyddol, 1993-2019 (gyda bylchau); rhestr aelodau a chyfrifon Cymdeithas Lenyddol Gosen (Cymdeithas Ddiwylliadol Gosen a Horeb, New Cross, yn ddiweddarach), 1947-99; a threfn y gwasanaeth datgorffori ar 26 Mawrth 2022, ynghyd ag anerchiad yr Ysgrifennydd, Nesta Parry Edwards, ar ‘Hanes Capel Gosen’. Ceir hefyd lyfr Trysorydd Ysgol Sul y Bont, Llanfarian, 1997-2017, a chopi o’r llyfryn Drws agored: Ysgoldy Pentre’r Bont, Llanfarian 1879-1979 gan Evan Jones.

Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth

CMA: Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1913-2007

Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.

Capel Moria, Trefenter

CMA: Cofysgrifau Capel Penuel, Caerau

  • GB 0210 PENCAE
  • Fonds
  • 1906-1969

Cofysgrifau Capel Penuel, Hermon Road, Caerau, yn cynnwys llyfr y Trysorydd, 1906-56; llyfr yr eisteddleoedd, 1909-54; llyfr casgliad y weinidogaeth, 1918-63; llyfr cyfraniadau aelodau, [1960]-69; a chofrestr yr Ysgol Sul, 1962-65.

Capel Penuel, Caerau.

CMA: Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog

  • GB 0210 SALECYFF
  • Fonds
  • 1884-2011

Cofysgrifau Capel Salem, Cyffylliog neu Gyffylliog, sir Ddinbych, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1884-2011 (yn eu plith Llyfr Casgliad y Weinidogaeth, Bethania, 1899-1910); Llyfr Aelodaeth y Merched, 1889-98; llyfrau cofnodion, 1931-84 (gyda bylchau); llyfrau tocyn aelodaeth, 1930-57; adroddiadau blynyddol, 1956-64 (gyda bylchau); cofnodion yr Ysgol Sul, 1923-2011; ac archwiliad o’r adeiladau, 1989.

Capel Salem, Cyffylliog

CMA: Cofysgrifau Capel Saron, Wolverhampton

  • GB 0210 SAROWOLV
  • Fonds
  • 1867-2022

Cofysgrifau Capel Saron, St Mark’s Road, Wolverhampton (gynt Bath Road a St George’s Parade), yn cynnwys cofnodion ariannol, 1867-2022; cofnodion yr Ysgol Sul, 1879-1931; cofrestr eglwysig, 1902-86; llyfr cofnodion cyfarfodydd swyddogion yr eglwys, 1922-24; ystadegau’r eglwys, 1912-34; adroddiadau blynyddol, 1941-2021 (adroddiadau 1941-83 oddi mewn i lyfrau cyfrifon); copi o’r llyfryn, Achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Wolverhampton. Canmlwyddiant 1854-1954 (Medi 1954); a ffotograff o’r gynulleidfa a’r pregethwr yng nghapel Bath Road, [1925-1927].

Capel Saron, Wolverhampton

Canlyniadau 21 i 40 o 2060