Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Thomas, Dewi-Prys, 1916-1985
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn bensaer ac Athro Pensaernïaeth yng Ngholeg Pensaernïaeth Cymru, Caerdydd, 1965-1981, ac ef oedd Athro Pensaernïaeth gyntaf Prifysgol Cymru. Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1916, yn fab i Dan Thomas, a fu'n gyfrwng i sefydlu Plaid Cymru, ac yn ddisgynnydd i Gweirydd ap Rhys (Robert John Pryse, 1807-1889); derbyniodd ei addysg uwchradd ac uwch yn y ddinas honno. Yn fyfyriwr enillodd Dewi-Prys Thomas lawer o wobrwyon ac ysgoloriaethau a chafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn 1938 yng Ngholeg Pensaernïaeth Prifysgol Lerpwl. Yn 1947 cafodd ei apwyntio yn ddarlithydd yn ei hen goleg. Daeth i Gaerdydd yn 1940 i weithio ym mhractis T. Alwyn Lloyd a gwnaeth enw iddo'i hun fel actor ar y radio ac ar lwyfan, a bu'n weithgar ym mywyd gwleidyddol Cymru. Creodd y darluniau ar gyfer llyfr T. Rowland Hughes, O law i law (Llandysul, 1943) a Hunangofiant Tomi gan E. Tegla Davies (Bangor, 1947). Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, cynlluniodd Talar Wen, Llangadog, i'w frawd-yng-nghyfraith Gwynfor Evans a Rhiannon (Nannon) ei wraig. Yn 1959 cynlluniodd yr 'House of the Year' yn Woolton, Lerpwl, i'r Woman's Journal, a Thŷ Cwrdd y Crynwyr yn Heswall, Cilgwri. Yr oedd Dewi-Prys Thomas yn aelod o lawer cymdeithas ac yn un o aelodau cyntaf Cymdeithas Ddinesig Caerdydd, ac yn 1970 fe'i hapwyntiwyd yn Gomisiynydd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Er iddo ymddeol yn 1981 parhaodd i weithredu fel ymgynghorydd i Wyn Thomas a'i Bartneriaid, cwmni o benseiri lleol, y bu'n gweithio â hwy ers 1974. Chwaraeodd ran flaenllaw gyda chynllunio Swyddfeydd Sir Gwynedd yng Nghaernarfon fel pensaer ymgynghorol i'r cwmni hwn. Bu farw yn 1985.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf