Showing 2075 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds
Print preview View:

Papurau Lilian Rees

  • GB 0210 LILIANREES
  • Fonds
  • [1920au]-1996

Papurau llenyddol Lilian Rees, llyfrau nodiadau yn bennaf yn cynnwys cyfansoddiadau gan gynnwys Llyfr Eiry a rhyddiaith a barddoniaeth a gyfrannwyd i gyfnodolion ac eisteddfodau, ynghyd ag atgofion personol, [1920au]-1996. = Literary papers of Lilian Rees, mainly notebooks containing compositions including Llyfr Eiry and prose and poetry written for periodicals and eisteddfodau, together with personal memoirs, [1920s]-1996.

Rees, Lilian

Llawysgrifau Gwilym Elian

  • GB 0210 MSGWILEL
  • Fonds
  • 1856-1900

Llyfrau nodiadau o waith William Cosslett (Gwilym Elian) yn cynnwys cerddi holograff, 1856-1900, ar amryw destunau. = Notebooks of William Cosslett (Gwilym Elian) containing holograph poems, 1856-1900, on various subjects.

Cosslett, William, 1831-1904

Llawysgrifau ac archifau T. Llew Jones

  • GB 0210 MSLLEW
  • Fonds
  • [?1945]-[2006]

Dyddiaduon y bardd a'r llenor T. Llew Jones, 1957-1999, ynghyd â cherddi ganddo, llythyrau a ysgrifennwyd ato a phapurau amrywiol, [?1945]-[2006]. = Diaries of the poet and author T. Llew Jones, 1957-1999, together with poems written by him, letters written to him and miscellaneous papers, [1945]-[2006].

Jones, T. Llew (Thomas Llew)

Papurau Glasnant

  • GB 0210 GLASNANT
  • Fonds
  • [1882x1971]

Pregethau, gweithiau creadigol, anerchiadau a gwaith ymchwil y Parch. W. Glasnant Jones, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymddeoliad a'i farwolaeth, gan gynnwys llythyrau o gydymdeimlad, [1882x1971].

Glasnant, 1869-1951

Papurau Ymchwil Dylan Phillips

  • GB 0210 DYLPHILLIPS
  • Fonds
  • 1960-1995 (crynhowyd [c. 1993]-1995)

Papurau, 1960-1995, yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gasglwyd gan Dylan Phillips, gan gynnwys papurau Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, ac Ann Ffrancon,1967-1984, sydd yn ymwneud yn arbennig â'r 1960au a'r 1970au, ac yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, ynghyd â deunydd yn ymwneud ag ymgyrchoedd yn Gymdeithas ac ychydig bapurau gweinyddol. = Papers, 1960-1995, collected by Dylan Phillips relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, comprising papers of Gareth Miles, 1960-1979, Dafydd Iwan, 1967-1987, Rheinallt Llwyd, 1968-1995, and Ann Ffrancon, 1967-1984, relating especially to the 1960s and 1970s, and consisting mainly of correspondence, together with material relating to the Society's campaigns and some administrative papers.

Papurau ymchwil ychwanegol Dylan Phillips, yn cynnwys gohebiaeth, papurau swyddogol a thorion o'r wasg, 1983-1992, wedi eu crynhoi gan Mr John Phillips. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Phillips, Dylan.

Cofnodion Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn

  • GB 0210 NANTGWRTH
  • Fonds
  • [1974]-[2010]

Gohebiaeth a phapurau, 1891; 1972-2015, yn ymwneud â sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a datblygu gwasanaethau y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth yr Ymddiriedolwyr, cyfreithwyr, staff, fasnachwyr, dysgwyr, a sefydliadau cysylltiedig eraill, a phapurau cysylltiedig, yn ymwneud â materion ariannol (1978-1994); cofnodion cyfarfod Bwrdd yr Ymddiriedolaeth a phwyllgorau amrywiol yn ymwneud â’r Nant (1980-1992; 1994-2003); cyflogaeth a gwirfoddoli (1980-1993; 1997-2013); marchnata a hysbysebu gweithgareddau, cyrsiau, a chyfleusterau y Ganolfan (1980-1992; 1997-2003); datblygu gwasanaethau y Ganolfan (1972-1997; 2002-2008); a phryniant a gwerthiant Plas Pistyll, ac ymgyfreitha cysylltiedig (1978-1995).

Nant Gwrtheyrn National Language Centre

Papurau Waldo Williams

  • GB 0210 WALDO
  • Fonds
  • [1880]x[2018]

Deunydd gan neu yn ymwneud â'r bardd a'r heddychwr Waldo Williams, sy'n adlewyrchu ei ddaliadau gwleidyddol, crefyddol, heddychol a dyngarol; ynghyd â deunydd gan neu yn ymwneud ag aelodau teuluol, cyfeillion a chydnabod Waldo Williams.

Williams, Waldo, 1904-1971

Papurau Rhys Mwyn = Rhys Mwyn Papers

  • GB 0210 RHYSMWYN
  • Fonds
  • 1979-2019

Papurau'r cerddor, archaeolegydd, awdur a darlithydd Rhys Mwyn, sy'n cynnwys deunydd yn ymwneud â'i fywyd proffesiynol. = Papers of the musician, archaeologist, author and lecturer Rhys Mwyn, comprising material relating to his professional life.

Mwyn, Rhys, 1962-

CMA: Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

  • GB 0210 BETHMOST
  • Fonds
  • 1896-1985

Cofysgrifau Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn, 1896-1985, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1896-1977; adroddiadau blynyddol, 1944-46, 1952, 1964-67, 1973-76 a 1978-1985; papurau’r Ysgrifennydd, 1967-1985; a llyfrau Trysorydd y Chwiorydd, 1966-1985.

Eglwys Bethel, Penrhewl, Mostyn

Papurau Aled Jones Williams

  • GB 0210 AJWILLIAMS
  • Fonds
  • [2022]-2024

Cyfrol yn cynnwys cerddi gan Aled Jones Williams, 2022-23, wedi eu hysgrifennu yn llaw y bardd.

Aled Jones Williams

CMA: Cofysgrifau Capel Blaenannerch, Ceredigion

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1999-2015

Adroddiadau blynyddol 1999, 2008-2009, a 2011-2015. Taflen gwasanaeth arbennig i nodi 120 mlynedd ers Diwygiad 1904; Hydref 2024.

Capel Blaenannerch, Ceredigion

CMA: Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1913-2007

Cofysgrifau Capel Moria, Trefenter, yn cynnwys cofnodion ariannol, 1913-2007; adroddiadau blynyddol, 1996-2007; ystadegau, 1969-1980; a phapurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y capel, 2007.

Capel Moria, Trefenter

CMA: Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre

  • GB 0210
  • Fonds

Cofysgrifau Capel Bethel, Penbre, yn cynnwys cofnodion ariannol a'r Ysgol Sul, adroddiadau blynyddol, a phapurau yn ymwneud â'r adeilad.

Capel Bethel, Penbre

Archif Golwg

  • GB 0210 ARCHGOLWG
  • Fonds
  • [1980au-2020au]

Deunydd archif cwmni 'Golwg' gan gynnwys dyluniadau comic Wcw a'i ffrindiau a llyfrau nodiadau Dylan Iorwerth.

Deunydd ychwanegol Golwg Cyf., yn ymwneud â chylchgrawn Golwg a Golwg365, gan gynnwys cofnodion pwyllgorau mewnol, gohebiaeth ac adroddiadau, ynghyd â nodiadau a gohebiaeth yn ymwneud â straeon arwyddocaol y bu Dylan Iorwerth yn gweithio arnynt; Hydref 2025.

Golwg (cylchgrawn)

Cofysgrifau Eglwys Carmel, ger Treffynnon

  • CMA: Eglwys Carmel, ger Treffynnon
  • Fonds
  • 1865-1992

Cofnodion Eglwys Carmel ger Treffynnon, 1865-1992, yn cynnwys cofrestr bedyddiadau, 1865-1964; cofnodion ariannol, 1949-1992; a llyfr ystadegau, 1926-35, a llyfr cofnodion, 1951-65, yr Ysgol Sul.

Papurau Huw Ethall

  • GB 0210 HUWETH
  • Fonds
  • 1950-2012

Papurau’r Parchedig Huw Ethall (1916-2013), gweinidog Annibynnol ac awdur. Mae’r ffeiliau’n cynnwys cyfres bwysig o lythyrau at Huw Ethall, yn bennaf yn trafod ei waith cofiannol, a phapurau'n adlewyrchu ymchwil pellach ar lenyddiaeth Gymraeg. Ceir hefyd yn y casgliad ffeil o bapurau Hilda M. Ethall, gwraig Huw Ethall.

Y Parchedig Huw Ethall a'r teulu

CMA: Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin

  • GB 0210
  • Fonds
  • 1933-2023

Cofysgrifau Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth, 1933-2023, yn cynnwys cofrestr genedigaethau a bedyddiadau, 1934-2015, marwolaethau a chladdedigaethau, 1933-2020, a rhestr priodasau, 1988-97; cofnodion ariannol, 1985-2023; llyfr cofnodion pwyllgorau, 1956-2022; adroddiadau blynyddol, 1993-2019 (gyda bylchau); rhestr aelodau a chyfrifon Cymdeithas Lenyddol Gosen (Cymdeithas Ddiwylliadol Gosen a Horeb, New Cross, yn ddiweddarach), 1947-99; a threfn y gwasanaeth datgorffori ar 26 Mawrth 2022, ynghyd ag anerchiad yr Ysgrifennydd, Nesta Parry Edwards, ar ‘Hanes Capel Gosen’. Ceir hefyd lyfr Trysorydd Ysgol Sul y Bont, Llanfarian, 1997-2017, a chopi o’r llyfryn Drws agored: Ysgoldy Pentre’r Bont, Llanfarian 1879-1979 gan Evan Jones.

Capel Gosen, Rhydyfelin, ger Aberystwyth

CMA: Papurau Meurig Owen

  • GB 0210
  • Fonds

Papurau ymchwil Meurig Owen ar hanes capeli Presbyteraidd (Cymraeg) Llundain, gan gynnwys deunyddiau yn ymwneud â chapeli unigol a'r Henaduriaeth.

Meurig Owen

Results 2001 to 2020 of 2075