Showing 15093 results

Archival description
Only top-level descriptions
Print preview View:

208 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau'r grŵp pop Cymraeg 'Y Blew'/Papers of the Welsh pop group 'Y Blew'.

  • NLW ex 2219
  • File
  • 1967-2001

Papurau'r Blew, 1967-2001, y grŵp pop Cymraeg cyntaf, gan gynnwys llythyron yn ymwneud â'u perfformiadau, 1967-1969, copïau o gyfweliadau ag aelodau o'r grŵp, hanes sefydlu'r Blew, copïau o ffotograffau a deunydd hyrwyddo, rhai papurau ariannol, 1967-1968, a ffeil sylweddol, 1978-2001, ar y sylw mae'r Blew wedi ei gael ers chwalu.

Blew (Musical group)

Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,

  • GB 0210 ACADGYM
  • Fonds
  • 1958-1998 /

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau sy'n adlewyrchu gwahanol weithgareddau'r Academi yn ogystal â gweithgaredd aelodau o staff cyflogedig a swyddogion gwirfoddol y gymdeithas. Mae'n adlewyrchu y trefniant cwbl wirfoddol oedd yn bodoli rhwng 1960 a 1977, cyfraniad staff cyflogedig yn y cyfnod ers derbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru ym 1977, a'r ychwanegu a fu at weithgaredd y gymdeithas wrth greu Adran Saesneg ym 1968. Mae papurau'r Adran Gymraeg yn adlewyrchu'r cyfan o weithgaredd yr Academi hyd at sefydlu'r Adran Saesneg. O hynny ymlaen ymranna'n Adran Gymraeg, Adran Saesneg a Gweinyddiaeth Ganolog. Cynnwys ohebiaeth gyffredinol a phapurau gweinyddol cyffredinol megis cofnodion pwyllgorau, ymgyrchoedd aelodaeth, deunydd yn ymwneud â'i gwahanol gyhoeddiadau a'i amrywiol weithgareddau. Derbyniwyd 13 bocs mawr o gofysgrifau ym mis Gorffennaf 2013 a 2 focs mawr mis Hydref 2013. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto. = The collection consists of papers which reflect the various activities of the Academi as well as the activities of paid officials and voluntary members. They reflect the voluntary arrangement that existed between 1959 and 1977, the expansion of activities which followed the formation of the English Language Section in 1968 and the contribution made by paid staff in the period after the award of a Welsh Arts Council Grant in 1977. The papers of the Welsh Language Section reflect the whole activities of the Academi up to the formation of the English Language Section. From then on, the papers are split into those of the Central Administration, the Welsh Language Section and the English Language Section. The collection includes general correspondence, administrative papers such as committee minutes, membership details and material relating to various publications, events and activities. Thirteen large boxes of records were received July 2013 and a further 2 large boxes in October 2013. These groups remains uncatalogued.

Academi Gymreig

Papurau'n ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth

  • NLW ex 2044
  • file
  • 1939-1946

Papurau, 1939-46, yn ymdrin ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd yn 1939, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn ymwneud yn bennaf â chynnal yr ysgol yn ariannol; cylchlythyrau a chofnodion cyfarfodydd llywodraethwyr yr ysgol, 1944-6; a llyfrynnau printiedig yn ymwneud â'r ysgol.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Papurau'n ymwneud â mordeithiau Urdd Gobaith Cymru.

  • NLW ex 2177
  • File
  • 1934-1939

Deunydd yn ymwneud â mordeithiau aelodau Urdd Gobaith Cymru i wahanol wledydd ar fwrdd y llong Orduña rhwng 1934 a 1939, gan gynnwys rhestr o'r teithwyr, teithlyfrau, traethodau llawysgrif ynglyn â'r mordeithiau, ffotograffau a phapurau amrywiol eraill, gan gynnwys llythyr, 1950, yn gresynu bod yr Ail Ryfel Byd wedi rhoi terfyn ar y mordeithiau.

Urdd Gobaith Cymru

Papurau'n ymwneud â John Murray Thomas, Patagonia

  • NLW Facs 184
  • File
  • 1893-2000

Llungopïau o bapurau'n ymwneud â John Murray Thomas (1847-1924) a ychwanegwyd at y rhai a roddwyd gan Olivia Hughes de Mulhall ym mis Medi 1975; yr oedd John Murray Thomas o Ferthyr Tudful yn wreiddiol ac ymfudodd i'r Wladfa ar y Mimosa gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Casglwyd y papurau ynghyd gan Olivia Hughes de Mulhall, gwraig ei ŵyr, tra'n gweithio ar ei llyfr John Murray Thomas: pequeño hombre pero gran héroe para la historia de Chubut (Trelew, 1999), gydag adolygiadau, 2000, ohono. Ymhlith y papurau ceir rhannau o'i ddyddiaduron, 1877, 1878 ac 1893; ei gynllun o Gwm Hyfryd, 1885; ei ohebiaeth, 1888-1911, gan gynnwys deiseb a luniwyd ganddo, 1893, ynglŷn â hawliau tir; pedwar llythyr gwreiddiol at John Murray Thomas, 1895-1898, a chytundeb busnes gwreiddiol, 1893. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â'i thad y bardd Morris ap Hughes, gan gynnwys enghreifftiau o'i farddoniaeth fel 'Cerdd ymson wrth feddrod Eluned [Morgan]' a 'Gwyl y Glaniad' mewn Sbaeneg; a chyfieithiadau o emynau adnabyddus Cymreig i'r Sbaeneg gan ei fab Osian Hughes, Eisteddfod Chubut 1988

Thomas, John Murray, 1847-1924

Papurau yn ymwneud â Richard Bennett

  • NLW ex 2157
  • File
  • 1888-1969

Deunydd, 1888-1969, yn ymwneud â Richard Bennett, Cwm Pennant, Llanbrynmair, sir Drefandwyn, yn cynnwys gwaith prydyddol, gohebiaeth, anerchiadau, llyfr nodiadau, a thorion o'r wasg.

Bennett, Richard, 1860-1937

Papurau yn ymwneud â chanmlwyddiant y Wladfa

  • NLW ex 2331
  • file
  • 1965

Papurau a gasglwyd ynghyd gan y diweddar Miss Catherine (Katie) Richards ar ôl ymweliad â'r Ariannin i ddathlu canmlwyddiant y Wladfa ym 1965. Mae'r papurau yn cynnwys rhaglenni gweithgareddau dathlu, torion o'r wasg, rhestr o aelodau Undeb Cymry Ariannin, yn ogystal â rhai cardiau post a ffotograffau yn ymwneud â'r achlysur.

Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin

  • Papurau Mudiad Ysgolion Meithrin
  • Sub-fonds

Additional papers, 1971-96, of Mudiad Ysgolion Meithrin (the National Association of Welsh Medium Nursery Schools and Play-groups) (see Annual Report 1989-90, p 61)

Papurau ychwanegol Mudiad Ysgolion Meithrin o'r cyfnod 1971-96(gweler Adroddiad Blynyddol 1989-90, t 61). Ar wahân i'r deunyddiau printiedig a theipiedig trosglwyddwyd hefyd gasetiau, disgiau sain, a thapiau fideo i'r Casgliad Sain a Delweddau Symudol (cyfeirnodau casetiau CM 8145-7, 8150-60, tâp DAT: DT/93; disgiau sain, 45/1123-5, tapiau fideo VM 5649-50), a rhai ffotograffau i'r Adran Darluniau a Mapiau (rhifau derbyn: 199800115-17)

Papurau ychwanegol Huw Llewelyn Williams

  • GB 0210 HUWLLEWWILL1999
  • Fonds

Papurau ychwanegol yn ymwneud â'r Parchedig Huw Llewelyn Williams (1904-79), brawd y rhoddwraig, gan gynnwys llyfr lloffion, 1947-64 a heb ddyddiad, yn ymwneud yn bennaf ag ardal Blaenau Ffestiniog, ei rieni, a Chapel Maenofferen; torion o'r wasg, 1952-94, gydag adolygiadau o'i gyhoeddiadau a'r cofiant Gwas yr Achos Mawr (Dinbych, 1992) a luniwyd iddo gan ei fab Meirion Llewelyn Williams; taflen ei gyfarfod sefydlu yn Eglwysi y Fali a Rhoscolyn, 1952; cyfrol yn cynnwys taflenni angladd ei wraig Gaynor Williams ac yntau, 1979; torion o'r wasg o deyrngedau ac ysgrifau coffa iddynt, a ffotograffau teuluol; ynhgyd â Medal Gee a gyflwynwyd i'w mam Margaret Williams yng nghapel Maengwyn, Machynlleth, 1964

Williams, Huw Llewelyn, 1904-1979

Papurau W. Llewelyn Edwards,

  • NLW ex 2928
  • Ffeil = File
  • [1915]-[1993]

Papurau ychwanegol, [1915]-[1993], y cerddor William Llewelyn Edwards, yn cynnwys drafft o’i gyfrol gyntaf o emyn-donau Clychau’r maes (Llandysul, 1976) gyda’r hen nodiant yn ei law; llyfrau lloffion yn cofnodi ei lwyddiannau cerddorol a darlledu eu emyn-donau ar ‘Caniadaeth y Cysegr’; llythyrau yn ei longyfarch ar ennill y wobr gyntaf am gyfansoddi emyn-dôn yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982; a nodiadau cefndirol ar ei emyn-donau. Ceir traethawd ‘Golwg ar fywyd a gwaith William Llewelyn Edwards, Bron Rhiwel, Llandre, Bow Street, cyfansoddwr emyn donau’ gan Anwen Ebenezer, a chyfrol ’Iesu bia’r gân’ yn cynnwys emyn-donau J. T. Rees a fu’n dysgu cerddoriaeth i William Llewelyn Edwards.

Edwards, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1908-2000

Papurau W. J. Gruffydd,

  • NLW MS 17305D.
  • file
  • 1899, 1901 /

Papurau gan ac yn llaw W. J. Gruffydd sy'n cynnwys llythyr dyddiedig 12 Medi 1899 oddi wrth W. J. Gruffydd at Thomas Owen Jones, Coventry (rhoddwr y llawysgrifau) sy'n amgau cywydd wedi'i chyfeirio at T. O. Jones ac sy'n dwyn yr un dyddiad â'r llythyr; a cherddi yn dwyn y teitlau 'Baled Bywyd' a 'L'Envoi'. Dynodir fod y ddwy gerdd olaf, yn ôl pob tebyg, wedi'u cyfansoddi yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a dyddir hwynt 4 Ionawr 1901 = Holograph manuscripts of W. J. Gruffydd comprising a letter dated 12 September 1899 from W. J. Gruffydd to Thomas Owen Jones, Coventry (donor of the papers) enclosing a cywydd addressed to T. O. Jones which bears the same date as the letter; and poems entitled 'Baled Bywyd' and 'L'Envoi', both apparently written at Jesus College, Oxford and dated 4 January 1901.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Results 4281 to 4300 of 15093