Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.
Papurau teuluol a llythyrau gan enwogion at Edward Davies, Penmorfa, awdur Hanes Porthmadog, ac aelodau o'i deulu. Ymhlith y gohebwyr mae O. M. Edwards, y bardd Eifion Wyn, a Bob Owen, Croesor. Ceir hefyd amrywiaeth o eitemau eraill, gan gynnwys llyfr nodiadau Syr John Morris-Jones, y pamffled Tithes: Their Origin and History, nifer o ddogfennau swyddogol megis cerdyn eithrio o'r Rhyfel Byd Cyntaf, a ffotograff o Llew Llwyfo (1831-1901).