Roberts, Samuel, 1800-1885.

Identity area

Type of entity

Person

Authorized form of name

Roberts, Samuel, 1800-1885.

Parallel form(s) of name

Standardized form(s) of name according to other rules

Other form(s) of name

Identifiers for corporate bodies

Description area

Dates of existence

History

Roedd Samuel Roberts (S.R.) yn weinidog Annibynol, awdur, golygydd a diwygiwr Radicalaidd. Ganwyd ar 6 Mawrth 1800 yn Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yr ail blentyn a'r mab hynaf i'r Parch. John Roberts (1767-1834) a'i wraig Mary (m. 1848). Ym 1806 symudodd y teulu i fferm Y Diosg i fyw. Cafodd S.R. ei addysgu gan ei dad, ac o 1819 yn yr academi yn Llanfyllin (a symudwyd wedi hynnu i'r Drenewydd). Cafodd ei ordeinio ym 1827 fel cyd-weinidog i'w dad yn Llanbrynmair a daeth yn adnabyddus fel pregethwr. Ym 1835 roedd yn ysgrifennydd Apel y Capeli Annibynol Cymreig a geisiai ddileu dyledion y capeli yng Ngogledd Cymru. Ymgyrchodd dros ddiwygio cymdeithasol ac addysgiadol, gan fynegi ei farn yn y wasg a mewn traethodau eisteddfodol. Ceisiodd wella iechydiaeth, technegau amaethyddol, twf economaidd a trafnidiaeth yng nghefn gwlad Cymru. Yn 1843 cychwynnodd Y Cronicl, papur newydd Radicalaidd misol a ddaeth yn neillduol o boblogaidd. Roedd S.R. yn lwyrymorthodwr ac yn heddychwr ymroddgar. Gwrthwynebai caethwasaeth a chefnogai rhoi'r bleidlais i ferched. Roedd hefyd o blaid diwygio hawliau tenantiaid, yn rhannol oherwydd yr anghytundebau parhaol rhwng ei deulu a stiward stad Wynnstay, perchennog Y Diosg. Hyn yn y pen draw barodd i S.R. ymfudo i Tennessee i sefydlu trefedigaeth Gymreig yn Scott County. Aeth ei frawd G.R. a'i deulu yno ym 1856 ac ymunodd S.R. a nhw ym 1857. Ond cafodd yno fwy o broblemau gyda goruchwylwyr tir, a rhoddwyd ei fywyd mewn perygl oherwydd ei ddaliadau heddychol yn ystod y Rhyfel Cartref, 1861-1865. Methodd yr ymgais a dychwelodd S.R. i Gymru ym 1867 i fyw gyda'i frawd J.R. yng Nghonwy. Sefydlodd papurau newydd wythnosol Y Dydd ym 1868 a'r Celt ym 1878. Ymysg ei gyhoeddiadau roedd Dau draethawd (Caernarfon, 1834), Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair (Llanelli, 1837), Farmer Careful of Cilhaul Uchaf (1850), Diosg Farm: a sketch of its History (Drenewydd, 1854), Gweithiau (Dolgellau, 1856), Pregethau a darlithiau (Utica, N.Y., 1865), Funeral addresses (Conwy, 1880) a Pleadings for reforms (Conwy, 1880). Bu farw yng Nghonwy ar 24 Medi 1885. Ganwyd ei frawd, John (J.R.), gweinidog Annibynol ag awdur, yn Llanbrynmair ar 5 Tachwedd 1804. Ym 1831 aeth yntau i'r academi yn y Drenewydd, cyn dychwelyd i Lanbrynmair ym 1834, ar ôl marwolaeth ei dad, i rannu gwaith S.R. Cafodd gyfnodau yn weinidog yn Abergele, 1838-1839, Rhuthin, 1848-1857, ac yn eglwys Gymraeg Aldersgate Street yn Llundain, 1857-1860. Daeth yn ôl i Gymru yn 1860 ac ymsefydlu ym Mrynmair, Conwy. Roedd J.R. yn adnabyddus fel dadleuwr dawnus a radical, ac ef oedd golygydd Y Cronicl o 1857 hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddiddordebau yn llai eang na'i frawd, yn tueddu tuag at dadleuon eglwysig ac enwadol. Cyhoeddodd hefyd nifer o weithiau ar destunau crefyddol. Priododd Ann Jones, Llansansiôr, ym 1838, a cawsant dau blentyn, ond bu farw y tri ohonynt cyn ei farwolaeth yntau ar 6 Medi 1884. Ganwyd y brawd ieuengaf, Richard (Gruffudd Rhisiart; G.R.), yn y Diosg ar 5 Tachwedd 1810. Ymddiddorai mewn llenora, ysgrifennodd eitemau i'r Cronicl a chylchgronnau eraill, yn ogystal a nofel, Jeffrey Jarman (Machynlleth, [1855]), ond ei brif gyfrifoldeb oedd rhedeg y fferm. Priododd ag Anne Jones, Castell Bach, ym 1853 a cawsant un ferch, Margaret. Yn 1856 ymfudodd y teulu i Tennessee a sefydlu fferm o'r enw Brynyffynon. Arhosodd G.R. a'i deulu yno tan 1872 cyn dychwelyd i fyw yng Nghonwy gyda'i frodyr. Yn y cyfnod yma cychwynodd yntau bregethu. Bu farw ar 25 Gorffennaf 1883, a'i wraig ym 1886.

Places

Legal status

Functions, occupations and activities

Mandates/sources of authority

Internal structures/genealogy

General context

Relationships area

Access points area

Occupations

Control area

Authority record identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation, revision and deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Maintenance notes

  • Clipboard

  • Export

  • EAC