Fonds GB 0210 TJDAVIES - Papurau'r Parch. T. J. Davies

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 TJDAVIES

Teitl

Papurau'r Parch. T. J. Davies

Dyddiad(au)

  • [c. 1957]-[1983] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.076 metrau ciwbig (3 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1919-2007)

Hanes bywgraffyddol

Roedd y Parch. Dr Thomas James Davies (1919-2007) yn weinidog ac yn awdur. Fe'i ganed yn Llanfihangel-y-Creuddyn ar 12 Rhagfyr 1919, ac ar ôl cyfnod fel ffermwr aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ddiweddarach yr Annibynwyr. Ymhlith ei waith cyhoeddedig mae Dilyn David Livingstone (Llandybie, 1974), Nabod Bro a Brodorion (Abertawe, 1975), Ieuan Gwyllt (Llandysul, 1977), Pencawna (Abertawe, 1979), Paul Robeson (Abertawe, 1981) a Iechyd Da (Llandysul, 1983); ysgrifennai hefyd y golofn 'O Ben Dinas' yn y Cambrian News. Wedi iddo symyd i Gaerdydd daeth yn ysgrifennydd cyffredinol y Cyngor Unedig ar Alcohol a Chyffuriau Eraill ac yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Bethlehem, Gwaelod y Garth. By farw yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin 2007.

Hanes archifol

Ffynhonnell

David Harbourne; Caerdydd; Pryniad; 1986.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau T. J. Davies, [c. 1957]-[1983], yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o rai o'i weithiau cyhoeddedig ynghyd â deunydd ymchwil cysylltiedig, [1974]-[1983]; cerddi, erthyglau a gweithiau eraill; torion papur newydd o'i golofn 'O Ben Dinas', 1965-1978; a llythyrau,1958-1961. = Papers of T. J. Davies, [c. 1957]-[1983], including manuscript and typescript copies of some of his published works along with associated research material, [1974]-[1983]; poems, articles and other writings; cuttings of his newspaper column 'O Ben Dinas', 1965-1978; and letters, 1958-1961.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn weithiau cyhoeddedig; cerddi, ysgrifau ac erthyglau; torion o'r wasg a llythyrau.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am defnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn Mân Restri a Chrynodebau, 1986, t. 14.

Cymorth chwilio a gynhyrchir

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844915

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mehefin 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1986; T. J. Davies, Iechyd Da (Llandysul, 1982).

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau'r Parch. T. J. Davies.