Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [16 gan., hwyr]-1979, gyda bylchau (crynhowyd 1911-1979) (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.957 metrau ciwbig (78 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Griffith John Williams (1892-1963) yn un o ysgolheigion ac athrawon Cymraeg mwyaf ei gyfnod.
Fe'i ganwyd yng Nghellan Court, sef Swyddfa Post Cellan, Ceredigion, 19 Gorffennaf 1892, yn fab i John ac Anne (neé Griffiths) Williams. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgolion Cellan a Thregaron. Yn 1911, wedi derbyn Ysgoloriaeth Cynddelw, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio yn y Gymraeg yn 1914.
Rhwng 1914 ac 1915 bu'n athro yn ysgol sir Dolgellau, ac yna, rhwng 1915 ac 1916, yn ysgol sir y Porth, Rhondda. Yna dychwelodd i Aberystwyth i astudio testunau Cymraeg Canol, gan dderbyn gradd MA am ei draethawd 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'. Yn y cyfamser, dechreuodd astudio llawysgrifau Llanover a roddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1917, a dechreuodd ymddiddori ym mywyd a gwaith Iolo Morganwg. Yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-Nedd, 1918, enillodd ar y traethawd 'Beirdd Morgannwg hyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif', ac yn 1919 cyhoeddodd erthyglau'n ymwneud â gwaith Iolo yn Y Beirniad. Yn sgîl hyn derbyniodd gymrodoriaeth gan Brifysgol Cymru i barhau gyda'i ymchwil yn y maes a, rhwng 1919 a 1920, bu'n gweithio dan oruchwyliaeth Syr John Morris-Jones. Yn 1921 derbyniodd y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon am draethawd hir a manwl ar gysylltiad Iolo â'r un-ar-bymtheg o gywyddau a gynhwyswyd yn 'Y Chwanegiad' i Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1789).
Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel bardd hefyd. Enillodd yn Eisteddfod Corwen yn 1919 ar y tair telyneg, y soned, y darn barddonol i'w adrodd, ac ar gyfansoddi penillion telyn. Yn y Barri yn 1920 gwobrwywyd ei delyneg 'Gwladys Ddu' a'i soned 'Llanilltud Fawr'. Fodd bynnag, rhoes y gorau i farddoni wrth ymroi i ymchwilio i fywyd a gwaith Iolo a'i benodi yn 1921 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yn 1946 olynodd W. J. Gruffydd yng Nghadair y Gymraeg.
Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir Gramadegau'r Penceirddiaid (1933), sef testun safonol o ramadeg y beirdd yn yr Oesoedd Canol gyda rhagymadrodd awdurdodol ar y ffynonellau llawysgrif ac ar addysg y beirdd. Gwnaeth hefyd astudiaeth drwyadl o waith ysgolheigion Cymraeg y Dadeni Dysg, a'i gampwaith yn y maes hwn oedd ei olygiad o Ramadeg Cymraeg Gruffydd Robert (1939). Gwnaeth hefyd gyfraniadau i lên a dysg yr ail ganrif-ar-bymtheg, y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif-ar-bymtheg, gan gynnwys astudiaethau safonol o waith Stephen Hughes, Charles Edwards, Edward Lhuyd, William Owen [-Pughe], ac eraill. Dangosodd le allweddol cymdeithasau Cymreig Llundain, yn enwedig y Cymmrodorion a'r Gwyneddigion, yn natblygiad llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod diweddar. Serch hynny, mae'n sicr mai ar draddodiad llenyddol Morgannwg y cyflawnodd G. J. Williams ei waith llawnaf. Yn 1926, cyhoeddwyd traethawd buddugol 1921 o dan y teitl Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad. Yn 1948 ymddangosodd Traddodiad Llenyddol Morgannwg, ac yn 1956, ar ôl astudio papurau ychwanegol a drosglwyddwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Iolo Aneirin Williams, ymddangosodd Iolo Morganwg: y gyfrol gyntaf.
Ar ôl ymddeol yn 1957 parhaodd i olygu'r cylchgrawn Llên Cymru, y bu ef yn bennaf gyfrifol am ei sefydlu yn 1950. Yn 1959 traddododd Ddarlith O'Donnell yng ngholegau Prifysgol Cymru ar y testun 'Edward 'Lhuyd'. Beirniadai yn yr Eisteddfod Genedlaethol, darlithiai i gymdeithasau lleol ac yn 1960 etholwyd ef yn llywydd cyntaf yr Academi Gymreig. Bu'n aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru a, rhwng 1959 ac 1961, yn gadeirydd Pwyllgor Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Roedd hefyd yn gasglwr brwd ar hen lyfrau Cymraeg.
Priododd ag Elizabeth Elen Roberts, Blaenau Ffestiniog, yn 1922. Bu hi'n gyd-fyfyriwr ag ef yng Ngholeg Aberystwyth rhwng 1910 ac 1914. Bu'n athrawes y Gymraeg yn ysgol sir y merched, Trefforest, Pontypridd, 1914-1918, ac yn ysgol sir Glynebwy, Mynwy, 1918-1922.
Bu Elizabeth Williams yn gymorth mawr i'w gŵr yn ei waith ymchwil, ac ymddiddorai hithau, fel yntau, ym mywyd Cymru a'r iaith Gymraeg. Roedd y ddau yn rhan o'r criw bychan yn y dau-ddegau a sefydlodd y Mudiad Cenedlaethol a ddatblygodd wedyn yn Blaid Cymru.
Bu Griffith John Williams farw 10 Ionawr 1963, ac Elizabeth Williams, 31 Ionawr 1979.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Cymynrodd y ddiweddar Mrs Elizabeth Williams, gweddw Griffith John Williams, 1979. Gweler hefyd ffeil P1/10.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau'r Athro Griffith John Williams (1892-1963), Athro'r Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Yn eu plith ceir ei ohebiaeth, 1911-1962, papurau personol, 1868-1963, cyhoeddiadau a phapurau ymchwil, [1911x1979], ynghyd â chasgliad bach o lawysgrifau a gasglwyd ganddo, [16 gan., hwyr]-[?1939]. Ceir hefyd grŵp bach o bapurau ei wraig, Elizabeth, 1875-1978.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Gwaredwyd proflenni gali o rai o rifynnau Llên Cymru. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol BD/2005-06/4..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd ar sail profiant yn LlGC yn bedwar grŵp: gohebiaeth a phapurau personol, llawysgrifau a grynhowyd, cyhoeddiadau a phapurau ymchwil, a phapurau Elizabeth Williams.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg, oni nodir yn wahanol
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae'r dyddiad cynharaf yn gynt na blwyddyn geni G. J. Williams oherwydd cynhwysir papurau a grynhowyd ganddo. Mae'r dyddiad olaf yn ddiweddarach na blwyddyn ei farw oherwydd cynhwysir papurau ei wraig a fu farw yn 1979.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2005
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Y Bywgraffiadur Cymreig, 1950-1970 (Llundain, 1997); Meic Stephens (gol.), Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1986); Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes a dysg Cymraeg: detholiad o ddarlithiau G. J. Williams (Caerdydd, 1985); Y Tyst, 8 Mawrth 1979; Y Faner, 23 Chwefror 1979.
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Barbara Davies.