fonds GB 0210 WINRRY - Papurau Winnie Parry,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 WINRRY

Teitl

Papurau Winnie Parry,

Dyddiad(au)

  • 1818-1960 (crynhowyd 1893-1960) / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.058 metrau ciwbig (2 focs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Sarah Winifred (Winnie) Parry (1870-1953) yn awdures a golygydd. Fe'i ganed yn y Trallwng, yn ferch i Hugh Thomas a Margaret Parry. Bu'n byw gyda'i mam yn Croydon tan i honno farw yn 1876, ac yna gyda'i thaid, John Roberts (marw 1903) yn y Felinheli, sir Gaernarfon. Erbyn 1882 yr oedd ei thad yn byw yn Ne'r Affrig. Dechreuodd gyfrannu i gyfnodolion fel Cymru, Cymru'r Plant ac Y Cymro yn 1893, gan gynnwys y gyfres 'Catrin Prisiard', 1896. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gohebu â J. Glyn Davies. Casglwyd rhai o'i chyfraniadau i gyfnodolion a'u cyhoeddi, sef Sioned (Caernarfon, 1906), Cerrig y rhyd (Caernarfon, 1907) a Y ddau hogyn rheiny (Llundain: Storfa Gymreig cwmni Foyle, 1928). Yn 1908 ymunodd â'i thad oedd wedi dychwelyd i Croydon, a bu'n gweithio fel ysgrifenyddes yno. Rhwng 1908 a 1912 bu'n olygydd Cymru'r Plant. Bu Mrs Dora Davies yn ymdrin ag ychydig ohebiaeth fywgraffyddol ar ôl marwolaeth Winnie Parry.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Mrs Dora Davies; Amlwch; Rhodd; 1977

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Deunydd bywgraffyddol yn ymwneud â Winnie Parry, 1953-1960; gohebiaeth,1893-1949, gan gynnwys llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, 1893-1915, a J. Glyn Davies, 1895-1897; llythyrau ynglŷn â'r Eisteddfod Genedlaethol, 1911-1932; llyfrau nodiadau, yn cynnwys drafftiau o'i chyfansoddiadau cynnar, 1894-1912; copi teipysgrif o 'Catrin Prisiard', 1896; storïau byrion a barddoniaeth a gyhoeddwyd yn Cymru, 1893-1910; storïau byrion eraill,1897; ysgrifau Saesneg, 1901-1907; copïau o Cymru'r Plant yn cynnwys ei gwaith, 1893-1947; torion papur newydd, 1908-1942; deunydd printiedig, 1818-1920; papurau, rai llenyddol yn bennaf, yn ymwneud â Margaret Parry, 1861-1875, a John Roberts, 1876-1903. = Biographical material relating to Winnie Parry, 1953-1960; correspondence, 1893-1949, including letters from O. M. Edwards, 1893-1915, and J. Glyn Davies, 1895-1897; letters concerning the National Eisteddfod, 1911-1932; notebooks, including drafts of early compositions, 1894-1912; typescript of 'Catrin Prisiard', 1896; short stories and poetry published in Cymru, 1893-1910; other short stories, 1897; English compositions, 1901-1907; copies of Cymru'r Plant containing her works, 1893-1947; newspaper cuttings, 1908-1942; printed material, 1818-1920; papers, mainly literary, relating to Margaret Parry, 1861-1875, and John Roberts, 1876-1903.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau John Roberts a Margaret Parry; deunydd bywgraffyddol; gohebiaeth gyffredinol; Eisteddfod; llyfrau nodiadau yn cynnwys cyfansoddiadau cynnar; 'Catrin Prisiard'; storïau byrion a cherddi o Cymru; ymdriniaeth â'i gwaith; storïau byrion eraill; ysgrifau yn Saesneg; 'When the Show came to Llanddeusant' a 'The White City'; Cymru'r Plant; torion papur newydd; amrywiol; deunydd printiedig.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau diweddar - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae peth deunydd bywgraffyddol yn ôl-ddyddio marwolaeth Winnie Parry.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844325

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Winnie Parry; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001);

Ardal derbyn