Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1888-1936 (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.114 metrau ciwbig (119 cyfrol)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Gweinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd y Parchedig William Owen Jones, a daeth i'r amlwg pan gododd anghydfod chwerw yng Nghapel Chatham Street, Lerpwl, rhyngddo a rhai o aelodau'r Eglwys, a hynny'n arwain at sefydlu Eglwys newydd, sef Eglwys Rydd y Cymry, ar droad yr ugeinfed ganrif.
Ganwyd William Owen Jones ar 7 Ebrill 1861 ym Mhenbryn, Chwilog, Eifionydd, yn fab i ffermwr, Richard Jones, a'i wraig Ellen Hughes. Cafodd ei addysg yn ysgolion Llanystumdwy, Holt a Chlynnog, ac aeth ymlaen i Goleg y Bala, Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle yr enillodd radd mewn Athroniaeth yn 1890. Yn yr un flwyddyn, aeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Waunfawr, Sir Gaernarfon, a symudodd i Chatham Street, Lerpwl, yn 1895, lle y datblygodd yn bregethwr o fri ac yn gyfrannwr erthyglau ysgolheigaidd i gylchgronau'r cyfnod. Priododd â Cheridwen Jones yn 1900.
Yn 1899, bu anghydfod rhyngddo â rhai o'r blaenoriaid ynglyn â disgyblu aelod, ac o ganlyniad i'r drwgdeimlad a gododd yn sgîl hynny cyhuddwyd ef yn bersonol o feddwdod ac anfoesoldeb. Gwadodd y cyhuddiadau yn ei erbyn ac er iddo gynnig ymddiswyddo fe'i diarddelwyd gan ei enwad yn 1900. Teimlai llawer ei fod wedi ei drin yn anghyfiawn, ond gwrthodwyd ei ap1/4l at y Gymdeithasfa yn 1901. Aeth i gyfraith ynglyn â'r mater a bu'n llwyddiannus mewn dau achos o enllib yn 1902. Tyfodd achos Chatham Street yn cause célèbre a amlygodd argyfwng yn arweinyddiaeth Methodistiaid Cymraeg Lerpwl. Yn 1901 sefydlodd ei gefnogwyr enwad newydd, sef Eglwys Rydd y Cymry, yn Hope Street, a derbyniodd ef wahoddiad i fod yn weinidog arnynt.
Cydsyniai'r enwad newydd ag egwyddorion Cyfundeb Eglwys Bresbyteraidd Cymru ond ymwrthododd â'r hyn a welai fel diffyg democratiaeth yr Hen Gorff. Erbyn 1904 yr oedd saith eglwys, pedwar capel a naw ysgol Sul wedi eu sefydlu ar hyd Glannau Merswy, ac fe gynyddodd yr aelodaeth o 450 i hyd at yn agos i 2,000. 'Roedd y bardd David Emrys James ('Dewi Emrys', 1881-1952) yn un o'r pedwar gweinidog. Symudodd W. O. Jones i Gapel Canning Street, ac ef oedd cychwynnydd a golygydd y cyfnodolyn Llais Rhyddid, a ymddangosodd yn fisol rhwng 1902 a 1912, ac yn chwarterol rhwng 1912 a 1920. Serch hynny, ni pherthynai i'r Eglwys Rydd unrhyw neilltuolrwydd diwinyddol, a byrhoedlog fu ei llwyddiant i ddenu aelodau newydd. Bychan o argraff a wnaeth yng Nghymru, ac yn 1920 daeth yn rhan o Gwrdd Chwarterol Annibynwyr Lerpwl, Manceinion a'r Cylch. Parhaodd W. O. Jones i fod yn weinidog yn Canning Street hyd at ei farwolaeth ar 14 Mai 1937.
Hanes archifol
Wedi marwolaeth y Parchedig W. O. Jones yn 1937, daeth ei bapurau i ofal y Parchedig William Albert Lewis (1871-1950), a gydweithiodd yn agos gydag ef yn Lerpwl, ac a ordeiniwyd yn weinidog yn Eglwys Rydd y Cymry yn 1906.
Ffynhonnell
Rhodd gan y Parchedig William Albert Lewis, Mehefin, 1947
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys casgliad o gyfrolau yn llaw y Parchedig William Owen Jones, 1861-1937, gweinidog eglwys Methodistiaid Calfinaidd, Chatham Street, ac wedi hynny Eglwys Rydd y Cymry, yn Lerpwl, gan gynnwys pregethau a nodiadau, anerchiadau, dyddiaduron a thoriadau o'r wasg.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau
System o drefniant
Trefnwyd yn LLGC, ar sail trefniant W. O. Jones, yn gyfresi fel a ganlyn: dyddiaduron, 1898-1931; toriadau o'r wasg, 1888-1901; pregethau, 1907-1935; nodiadau a rhestri pregethau, 1880-1936; gweddïau ac anerchiadau, 1911-1930. Cadwyd y rhifau cyfresi a roddwyd gan W. O. Jones.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Rhagfyr 2001.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan David Moore.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Y Brython, 27 Mai 1937; Jones, R. Tudur, Ffydd ac argyfwng cenedl: hanes crefydd yng Nghymru 1890-1914 (Swansea, 1981) 1 `Prysurdeb a phryder'; Jones, W. O., Achos Chatham Street: y prawf a'r dyfarniad (Liverpool, 1901); idem, Pwlpud Hope Hall (Liverpool, 1902); Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (London, 1953); The Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (London, 1959).