fonds GB 0210 THPAIAMS - Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 THPAIAMS

Teitl

Papurau T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams,

Dyddiad(au)

  • 1873-1994 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.641 metrau ciwbig (68 bocs, 1 rholyn, 2 gerdyn, 3 ffolder)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Thomas Herbert Parry-Williams (1887-1975) yn ysgrifwr, ysgolhaig a bardd. Fe'i ganed yn Rhyd-ddu, sir Gaernarfon, yn fab i Henry Parry-Williams, ysgolfeistr. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1908 ac mewn Lladin yn 1909, a bu'n astudio yn ddiweddarach yn Rhydychen, 1909-1910, Freiberg, 1911-1913, a Paris,1913. Enillodd y Goron a'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1912 ac eto yn 1915. Yn 1914 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, ac yn 1920 cafodd ei benodi i Gadair y Gymraeg, lle yr arhosodd hyd ei ymddeoliad yn 1952. Cyhoeddodd sawl astudiaeth ar farddoniaeth a gweithiau ysgolheigaidd megis The English Element in Welsh (1923) ac Elfennau Barddoniaeth (1935). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau o waith creadigol megis Ysgrifau (1928), Cerddi (1931), Olion (1935), Ugain o Gerddi (1949), Myfyrdodau (1951) a Pensynnu (1966). Cafodd ei ystyried yn llenor arloesol a ddatblygodd ffurf yr ysgrif bersonol, cerddi o gwpledi sy'n odli, a sonedau. Daeth yn ffigwr cyhoeddus amlwg a chafodd ei urddo'n farchog yn 1958. Priododd y Fonesig Amy Parry-Williams (1910-1988), a oedd yn awdures a darlithydd ac yn arbenigwraig ar gerdd dant a chaneuon gwerin Cymreig yn ogystal.

Hanes archifol

Yr oedd y papurau ym meddiant Amy Parry-Williams, gwraig T. H. Parry-Williams, hyd ei marwolaeth yn 1988.

Ffynhonnell

Papurau a gyflwynwyd yn rhodd gan T. H. Parry-Williams yn 1955, a gweithiau cyhoeddedig a gyflwynwyd gan y Fonesig Amy Parry-Williams yn 1979. Derbyniwyd papurau pellach Syr T. H. Parry-Williams yn gymynrodd yn dilyn marwolaeth y Fonesig Amy Parry-Williams yn 1988. Cyflwynwyd papurau'r Fonesig Amy Parry-Williams yn rhodd gan ei chwaer Mrs Mary Llywelfryn Davies, yn 1995, ynghyd â phapurau ychwanegol o eiddo Syr T. H. Parry-Williams.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau T. H. Parry-Williams yn ymwneud â'i addysg brifysgol ac fel athro, 1905-1960, teithiau i Dde a Gogledd America, 1925 a 1935, llythyrau oddi wrth deulu, cyfeillion ac amrywiol lenorion, academyddion ac ysgolheigion o Gymru ac Ewrop, 1908-1973, barddoniaeth wedi'i threfnu yn ôl ei ffurf, 1912-1954, ysgrifau,1937-1987, cyfieithiadau ysgrifau, 1987, beirniadaethau eisteddfodol, 1941-1971, darlithiau ac anerchiadau, 1917-1968, sgyrsiau a sgriptiau radio a theledu, 1933-1985, nodiadau ar dafodieithoedd ac enwau lleoedd, 1919-1935, geiriau Cymraeg i gerddoriaeth, 1929-1979, papurau'n ymwneud â'i waith cyhoeddus, 1916-1972, tystysgrifau, anrhydeddau a phersonalia, 1904-1960, cyhoeddiadau, adolygiadau llyfrau a thorion o'r wasg, 1928-1982, deunydd cyhoeddedig, 1865-1975, ac amrywiol, 1919-1994. Hefyd papurau Amy Parry Williams, 1910-1987, yn cynnwys gohebiaeth, 1948-1987, rhaglenni radio a theledu, caneuon gwerin a cherdd dant, storïau, ysgrifau a dramâu, a phapurau'n ymwneud â HTV, ymddiriedolaethau a phwyllgorau. Yn ogystal, papurau Henry Parry-Williams (1858-1925), tad T. H. Parry Williams yn cynnwys gohebiaeth, 1884-1920, barddoniaeth a rhyddiaith, 1891-1917, papur yn ymwneud â Robert R. Williams, Rhyd-ddu, 1876-1973 a Chanolfan Rhyd-ddu, 1972-1979 = Papers of T. H. Parry-Williams relating to his university education and teaching, 1905-1960, travels to South and North America, 1925 and 1935, letters from family, friends and various Welsh and European writers, academics and scholars, 1908-1973, poetry arranged by form, 1912-1954, essays, 1937-1987, translations of essays, 1987, eisteddfodic adjudications, 1941-1971, lectures and talks, 1917-1968, radio and television talks and scripts, 1933-1985, notes on dialects and local names, 1919-1935, Welsh lyrics for music, 1929-1979, papers relating to his public work, 1916-1972, certificates, honours and personalia, 1904-1960, publications, book reviews and press cuttings, 1928-1982, published material, 1865-1975, and miscellaneous, 1919-1994. Also Amy Parry Williams' papers, 1910-1987, including correspondence, 1948-1987, radio and television programmes, folk songs and cerdd dant, stories, writings and drama, and papers relating to HTV, trusts and committees. And also papers of Henry Parry-Williams, (1858-1925) father of T. H. Parry-Williams including correspondence, 1884-1920, poetry and prose, 1891-1917, paper relating to Robert R. Williams, Rhyd-ddu, 1876-1973 and Canolfan Rhyd-ddu, 1972-1979.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: papurau'n ymwneud â Henry Parry-Williams a Chanolfan Rhyd-ddu; papurau T. H. Parry-Williams; a phapurau'r Fonesig Amy Parry-Williams.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Ffrangeg, Almaeneg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae'r papurau yn rhagddyddio bywyd T. H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844410

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ebrill 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau T.H. Parry-Williams ac Amy Parry-Williams; The New Companion to the Literature of Wales(1998); Portreadau'r Faner (1957).

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW.

Ardal derbyn