fonds GB 0210 PENIES - Papurau Pennar Davies,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 PENIES

Teitl

Papurau Pennar Davies,

Dyddiad(au)

  • 1913-1999 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.0279 metrau ciwbig (33 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1911-1996)

Hanes bywgraffyddol

Roedd y Parch. Dr William Thomas Pennar Davies (W. T. Pennar Davies, 'Davies Aberpennar', 1911-1996) yn fardd, yn nofelydd ac yn ysgolhaig. Ganwyd yn William Thomas Davies yn Aberpennar, Morgannwg, ar 12 Tachwedd 1911, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen, a Phrifysgol Iâl, UDA. Bu'n weinidog yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1943, ac yna yn Athro yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Coffa Aberhonddu, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Coffa Abertawe. Yr oedd yn Brifathro'r Coleg Coffa, 1952-1981, tan ei ymddeoliad. Cafodd ei gysylltu â grŵp o feirdd Cylch Cadwgan o 1939 ymlaen, yn ysgrifennu dan yr enw 'Davies Aberpennar', a mabwysiadodd yr enw 'Pennar' tua 1948.Priododd Rosemarie Woolf yn 1943 ac y mae Meirion Pennar yn un o'i bum plentyn. Bu farw 29 Rhagfyr 1996. Yn ogystal â chyfraniadau i Cerddi Cadwgan (Abertawe, 1953), cyhoeddodd chwe chasgliad o'i farddoniaeth yn cynnwys Cinio'r Cythraul (Dinbych, 1946), Naw Wfft (Dinbych, 1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961) a Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971, Ymhlith ei ryddiaith yr oedd Caregl Nwyf (Llandybïe, 1966), y nofelau Meibion Darogan (Landybïe, 1968 a Mabinogi Mwys (Abertawe, 1979) a gweithiau ysgolheigaidd megis Rhwng Chwedl a Chredo (Caerdydd, 1966).

Hanes archifol

Ffynhonnell

Dr W. T. Pennar Davies,; Sgeti, Abertawe,; Rhodd,; 1983

Mrs Rosemarie Pennar Davies trwy law yr Athro Densil Morgan, Bangor; Caerdydd; Rhodd; Gorffennaf 2005

Mrs Rosemarie Pennar Davies trwy law yr Athro Densil Morgan, Bangor; Caerdydd; Rhodd; Awst 2003

Mr Owain Pennar; Caerdydd; Rhodd

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Pennar Davies, 1913-1999, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i weithiau llenyddol, ynghyd â phapurau academaidd a phapurau llenyddol.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn ddau grŵp: Rhodd 1983 a Rhoddion 2003, 2005 a 2009.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • cymraeg
  • saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Derbyniwyd dau gyfansoddiad cerddorol mewn llawysgrif gan Walter Dowding,1956-1957 (NLW MS 19759E) yn rhan o rodd 1983. Trosglwyddwyd caset (CM 13560) yn cynnwys recordiad o Gwynfor Evans yn cael ei holi am Pennar Davies a chaset (CM 13561) Siars i’r Eglwysi (cwrdd sefydlu Aled ap Gwynedd, Crymych, 1983) a Gwynfor Evans ar Pennar Davies, Gorffennaf 2001 i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ynghyd â thâp fideo yn cynnwys ffilmiau cine camera Pennar Davies.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844574

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

December 2003

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau 1984; Stephens, Meic, The New Companion to the Literature of Wales (Caerdydd, 1998); The Times, 16 Ionawr 1997, t. 21.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Llawysgrifau Pennar Davies.