Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1913-1999 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.0279 metrau ciwbig (33 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd y Parch. Dr William Thomas Pennar Davies (W. T. Pennar Davies, 'Davies Aberpennar', 1911-1996) yn fardd, yn nofelydd ac yn ysgolhaig. Ganwyd yn William Thomas Davies yn Aberpennar, Morgannwg, ar 12 Tachwedd 1911, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, Colegau Balliol a Mansfield, Rhydychen, a Phrifysgol Iâl, UDA. Bu'n weinidog yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1943, ac yna yn Athro yng Ngholeg Diwinyddol Bala-Bangor a Choleg Coffa Aberhonddu, ac yn ddiweddarach yng Ngholeg Coffa Abertawe. Yr oedd yn Brifathro'r Coleg Coffa, 1952-1981, tan ei ymddeoliad. Cafodd ei gysylltu â grŵp o feirdd Cylch Cadwgan o 1939 ymlaen, yn ysgrifennu dan yr enw 'Davies Aberpennar', a mabwysiadodd yr enw 'Pennar' tua 1948.Priododd Rosemarie Woolf yn 1943 ac y mae Meirion Pennar yn un o'i bum plentyn. Bu farw 29 Rhagfyr 1996. Yn ogystal â chyfraniadau i Cerddi Cadwgan (Abertawe, 1953), cyhoeddodd chwe chasgliad o'i farddoniaeth yn cynnwys Cinio'r Cythraul (Dinbych, 1946), Naw Wfft (Dinbych, 1957), Yr Efrydd o Lyn Cynon (Llandybïe, 1961) a Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971, Ymhlith ei ryddiaith yr oedd Caregl Nwyf (Llandybïe, 1966), y nofelau Meibion Darogan (Landybïe, 1968 a Mabinogi Mwys (Abertawe, 1979) a gweithiau ysgolheigaidd megis Rhwng Chwedl a Chredo (Caerdydd, 1966).
Hanes archifol
Ffynhonnell
Dr W. T. Pennar Davies,; Sgeti, Abertawe,; Rhodd,; 1983
Mrs Rosemarie Pennar Davies trwy law yr Athro Densil Morgan, Bangor; Caerdydd; Rhodd; Gorffennaf 2005
Mrs Rosemarie Pennar Davies trwy law yr Athro Densil Morgan, Bangor; Caerdydd; Rhodd; Awst 2003
Mr Owain Pennar; Caerdydd; Rhodd
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Pennar Davies, 1913-1999, yn cynnwys copïau teipysgrif o'i weithiau llenyddol, ynghyd â phapurau academaidd a phapurau llenyddol.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn ddau grŵp: Rhodd 1983 a Rhoddion 2003, 2005 a 2009.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- cymraeg
- saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Davies, Pennar -- Archives (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
December 2003
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau 1984; Stephens, Meic, The New Companion to the Literature of Wales (Caerdydd, 1998); The Times, 16 Ionawr 1997, t. 21.