fonds GB 0210 MATEES - Papurau Mati Rees,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MATEES

Teitl

Papurau Mati Rees,

Dyddiad(au)

  • 1907-1986 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.063 metrau ciwbig (7 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd Mati Rees (1902-1989), a hanai o Rydaman, sir Gaerfyrddin, yn un o bum plentyn peiriannydd mwyngloddio. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1924. Tra roedd hi'n athrawes yn Ysgol Ramadeg y Sir, Porth, cwblhaodd draethawd MA ar ieithyddiaeth, astudiaeth arloesol a osododd sail i'w diddordeb llwyr mewn dulliau dysgu iaith a barodd ar hyd ei hoes. Arweiniodd y diddordeb hwn at gyhoeddi cyfres o werslyfrau i ysgolion a sgriptiau'r gyfres deledu boblogaidd 'Croeso Christine'. Ar ôl blynyddoedd lawer fel athrawes yn Ysgol Ramadeg Llanelli, cafodd ei hapwyntio'n brif ddarlithydd yn 1966. Chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol a chrefyddol Cymru, ac roedd hi'n hynod o amlwg mewn materion yn ymwneud ag Undeb Bedyddwyr Cymru, Urdd Ieuenctid y Bedyddwyr, yr Orsedd ac UCAC. Yr oedd yn ddarlledwraig cyson, yn golofnydd ac yn awdur toreithiog. Treuliodd flynyddoedd olaf ei bywyd yn Aberystwyth. Bu farw yn 1989.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Deian Hopkin; Rhodd; 1991

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Mati Rees, 1907-1986, un cynnwys nodiadau ar gyfer anerchiadau cyhoeddus a drafftiau erthyglau a thraethodau, 1958-1984; deunydd yn ymwneud â dysgu Cymraeg fel ail iaith, 1964-1981; gohebiaeth,1949-1985; eitemau printiedig a thorion o'r wasg, 1913-1989; ac amrwyiol,1920-1960. = Papers of Mati Rees, 1907-1986, including notes for public speeches and drafts of articles and essays, 1958-1984; materials relating to the teaching of Welsh as a second language, 1964-1981; correspondence, 1949-1985; printed items and press cuttings, 1913-1989; and miscellanea, 1920-1960.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: nodiadau ar gyfer anerchiadau ac erthyglau; deunydd dysgu Cymraeg; gohebiaeth; deunydd printiedig; ac amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1992,tt. 108-110, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein hefyd.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844879

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mehefin 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1992; LlGC, Ysgrifau Coffa, 1989;

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Mati Rees.