fonds GB 0210 MEAMES - Papurau Marion Eames,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 MEAMES

Teitl

Papurau Marion Eames,

Dyddiad(au)

  • 1927-2007 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

17 bocs bach (0.153 metrau ciwbig), 6 cyfrol; 1 bocs bach [Rhodd 2016]; 1 bocs bach [Rhodd 2018].

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd y nofelydd Marion Eames ym Mhenbedw, swydd Gaer, ar 5 Chwefror 1921, ond fe'i magwyd yn Nolgellau, Gwynedd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau. Yn bymtheg oed ymadawodd â'r ysgol i weithio yn Llyfrgell y Sir, Dolgellau, ac yna yn Llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gweithiodd hefyd am rai blynyddoedd fel trefnydd Plaid Cymru ac yn olygydd ar bapur newydd wythnosol 'Y Dydd' yn Nolgellau.

Ymadawodd â'r papur yn 1954 i symud i Lundain i astudio'r piano a'r delyn yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Yno priododd ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, yn 1955. Gweithiodd i gylchgrawn Sefydliad y Merched, 'Home and Country', am gyfnod cyn penderfynu dychwelyd i Gymru yn 1959 i dderbyn swydd fel cynhyrchydd radio i'r BBC yng Nghaerdydd. Yn ogystal i'w gwaith ar y radio, ysgrifennodd rai sgriptiau i Pobol y Cwm yn y dyddiau cynnar. Ymddeolodd o'r BBC yn 1980.

Caiff Marion Eames ei hystyried yn un o brif nofelwyr hanes Cymru. Daeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofelau cyntaf, Y Stafell Ddirgel (1969) ac Y Rhandir Mwyn (1972), y ddwy yn olrhain hanes y Crynwyr yn Nolgellau ac ym Mhennsylfania. Wedi'r llwyddiant a brofodd yn sgil y gweithiau yma, aeth ymlaen i ysgrifennu sawl nofel ar gyfer oedolion ac i blant, gan gynnwys I Hela Cnau (1978) ac Y Gaeaf Sydd Unig (1982), a'r gyfres o storïau byrion Sionyn a Siarli. Bu farw Marion Eames yn Nolgellau ar 3 Ebrill 2007.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Marion Eames; Rhodd (NLW MSS 22495-22500); 1988

John Atkinson, nai Marion Eames; Byfleet; Rhodd; Mehefin 2007; 004573544.

Cymdeithas Bob Owen; Pryniad (dyddiadur M8/3, ac un o'r cyfrolau yn M5/5); Medi 2007

Mr Godfrey Lee; Castell Caereinion; Rhodd (M9); Awst 2016; 99206748502419.

Mrs Bronwen Evans; Dolgellau; Rhodd (M10); Medi 2018; 99206748502419.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau Marion Eames, 1927-2007, yn cynnwys drafftiau o'i nofelau a gweithiau llenyddol eraill, 1933-[2005]; addasiadau o'i gwaith, 1981-[2007]; erthyglau, anerchiadau a darlithiau, [1970]-[2007]; llyfrau nodiadau a gwaith ymchwil, 1934-[2000]; deunydd printiedig, 1929-2007; gohebiaeth, 1967-2005; a phapurau personol, 1928-2002; ynghyd â phapurau ei gŵr, y newyddiadurwr Griffith Williams, 1927-1977. = Papers of the novelist Marion Eames, 1927-2007, comprising drafts of her novels and other literary works, 1933-[2005]; adaptations of her work, 1981-[2007]; articles, speeches and lectures, [1970]-[2007]; notebooks and research papers, 1934-[2000]; printed material, 1929-2007; correspondence, 1967-2005; and personal papers, 1928-2002; together with the papers of her husband, the journalist Griffith Williams, 1927-1977.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i'r Llyfrgell.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: papurau a llawysgrifau Marion Eames a phapurau Griffith Williams. Crynhowyd y llawysgrifau a dderbyniwyd yn rhodd i'r Llyfrgell yn 1988 o fewn un gyfres (M1) a chadwyd y cyfeirnodau gwreiddiol a roddwyd iddynt.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg (am fanylion pellach gweler disgrifiadau'r lefelau perthnasol).

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Trosglwyddwyd y fideos, casetiau a thapiau i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn LlGC, a'r ffotograffau i gasgliad ffotograffau LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004274725

GEAC system control number

(WlAbNL)0000274725

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ebrill 2009.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Rhian Lyn James. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); The Independent, 6 Ebrill 2007; ac eitemau o fewn yr archif;

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiadau ar gyfer ychwanegiadau Awst 2016 a Medi 2018 gan Rhys Davies; 2017 a 2020.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig