Fonds GB 0210 WLESARDS - Papurau Leslie Richards

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 WLESARDS

Teitl

Papurau Leslie Richards

Dyddiad(au)

  • 1939-1989 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.045 metrau ciwbig (5 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Graddiodd y bardd a'r nofelydd William Leslie Richards (1916-1989)o Gapel Isaac ger Llandeilo, yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n athro ysgol i gychwyn cyn dod yn Ddirprwy Brifathro Ysgol Gyfun Llandeilo o 1975 hyd 1981. Yr oedd yn awdur sawl nofel, yn eu plith Yr Etifeddion, 1956. Ynghyd â D. H. Culpitt cyhoeddodd gyfrol ar D. J. Williams, Y Cawr o Rydcymerau yn 1970.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Huw Ceiriog Jones a'i wraig; Bow Street, Ceredigion; Rhodd; 1990

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Papurau William Leslie Richards o Gapel Isaac, sir Gaerfyrddin, deunydd llenyddol yn bennaf, 1939-1989, yn cynnwys barddoniaeth, 1957-1989; rhyddiaith, 1937-1972, beirniadaethau mewn gwahanol eisteddfodau, 1962-1980; sgriptiau radio, 1951-1963; sgriptiau a baratowyd ar gyfer rhaglenni teledu, 1965-1968; gohebiaeth, 1936-1989; dyddiaduron, 1932-1989; tystysgrifau, 1925-1928; a phapurau amrywiol,1930-1989. = Papers of William Leslie Richards from Capel Isaac, Carmarthenshire, mainly literay material, 1939-1989, including poetry, 1957-1989; prose writings, 1937-1972, adjudications in various eisteddfodau, 1962-1980; radio scripts, 1951-1963; scripts prepared for television programmes, 1965-1968; correspondence, 1936-1989; diaries, 1932-1989; certificates, 1925-1928; and miscellaneous papers, 1930-1989.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwnwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth; rhyddiaith; beirniadaethau ar gystadlaethau eisteddfodol; sgriptiau radio a theledu; gohebiaeth; dyddiaduron; tystysgrifau; a phapurau amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Mân Restri a Chrynodebau 1991, tt. 72-76, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls003844708

Project identifier

ANW

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mai 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Annette Strauch i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1991, tt.72-76; Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986);

Ardal derbyn