Fonds GB 0210 ISFFEL - Papurau Islwyn Ffowc Elis

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 ISFFEL

Teitl

Papurau Islwyn Ffowc Elis

Dyddiad(au)

  • 1923-2010 (1940-1970 yn bennaf) (crynhowyd 1940-1994) (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.090 metrau ciwbig (13 bocs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1924-2004)

Hanes bywgraffyddol

Nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofel boblogaidd, Cysgod y Cryman. Ynghyd â bod yn awdur toreithiog roedd hefyd yn weinidog, yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ac yn ddarlithydd.
Fe'i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam, yn fab i Edward Ifor a Catherine Ellis (née Kenrick). Fe'i magwyd ar fferm Aberwiel, Nantyr, yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn y tynnodd llawer o'i ysbrydoliaeth ohono fel awdur. Priododd Eirlys Rees Owen o Dywyn, a ganwyd eu merch, Sian yn 1960.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Nantyr, ac Ysgol Ramadeg Llangollen, cyn ennill gradd BA yn y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1946. Enillodd wobrau yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama yn 1945 a 1946, a bu'n weithgar yn cyfansoddi a chynhyrchu anterliwtiau yn y Coleg. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala lle enillodd radd BD mewn diwinyddiaeth yn 1949.
Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950 a bu'n weinidog gyda'r enwad yn Llanfair Caereinion, a Meifod, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, Môn, cyn penderfynu gadael y weinidogaeth yn 1956 er mwyn llenydda.
Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1951 am ei gyfrol o ysgrifau, Cyn Oeri'r Gwaed (1952), a dilynwyd y llwyddiant hwn gan dair nofel, sef Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua'r Gwyll (1955) ac Yn Ôl i Leifior (1956). Roedd Cysgod y Cryman yn nofel Gymraeg boblogaidd, gyfoes a gafodd dderbyniad brwd.
Symudodd i Fangor yn 1956 i fod yn awdur a chynhyrchydd gyda'r BBC a bu'n ysgrifennu, cynhyrchu a chymryd rhan mewn nifer fawr o raglenni'r BBC. Profodd yn gyfnod cynhyrchiol iddo o ran ysgrifennu nofelau, ac fe gyhoeddwyd ganddo Wythnos yng Nghymru Fydd, (1957), Blas y Cynfyd (1958) a Tabyrddau'r Babongo (1961).
Yn 1963 aeth yn Ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin, ac fe fu'r cyfnod a ddilynodd yn gymharol dawel o ran llenydda ond yn brysur yn wleidyddol. Bu'n ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Trefaldwyn yn Isetholiad 1962 ac Etholiad Cyffredinol 1964, ac roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ef oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Plaid Cymru o tua 1962 i 1969, a bu'n paratoi llawer o lenyddiaeth wleidyddol ar gyfer Gwynfor Evans.
O 1968 hyd 1971, bu'n Olygydd ac yn Gyfarwyddwr cyfieithiadau gyda'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, ac yn 1968 cyhoeddwyd Y Blaned Dirion, nofel a addaswyd o ddrama radio BBC a ddarlledwyd yn 1959.
Dychwelodd i Wrecsam i fod yn awdur llawn-amser rhwng 1971 a 1975 a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Y Gromlech yn yr Haidd, (1971) ac Eira mawr, (1972). Yna yn 1974 cyhoeddodd ddrama am y Diwygiad Methodistaidd, Harris, a chasgliad o storïau byrion, Marwydos.
Yn 1975 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn 1984 fe'i penodwyd yn Ddarllenydd yno, cyn ymddeol yn 1988. Yn dilyn ei ymddeoliad cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon ysgafn Caneuon Islwyn Ffowc Elis (1988), maes yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo rhwng 1945 a 1970. Yn 1993 derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Roedd yn awdur dra chynhyrchiol, ac fe ysgrifennodd amryw raglenni radio a storïau, ac erthyglau ar grefydd a gwleidyddiaeth. Bu'n gyd-olygydd Y Ddraig Goch, cylchgrawn Plaid Cymru, a Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth, storïau byrion, ysgrifau a dramâu, a bu'n beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau. Bu farw ym mis Ionawr 2004.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Rhodd gan Mr Islwyn Ffowc Elis, Awst 2002 a Medi 2002, trwy law Mr T. R. Chapman, Machynlleth; 0200209988, 0200210414
Rhodd gan Mrs Siân Solomons, Rhydychen, trwy law Mr Arfon Gwilym, Ionawr 2017; 99206532202419

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys drafft cyntaf Cysgod Y Cryman, a rhai o nofelau eraill Islwyn Ffowc Elis, 1953-1989, drafftiau llawysgrif o ysgrifau a gynhwysir yn Cyn Oeri'r Gwaed, a llyfrau nodiadau yn cynnwys barddoniaeth, caneuon, storïau, dramâu, nodiadau diwinyddol, sgriptiau radio, erthyglau a gwaith celf, [c.1940]-[c.1970]. -- Ceir hefyd nifer o lythyrau oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, D. Tecwyn Lloyd ac eraill, 1949-1994, a phapurau am Blaid Cymru yn cynnwys gohebiaeth â Gwynfor Evans, 1966-1969. Papurau ychwanegol, 1937-2010, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac R. S. Thomas, sgriptiau a phregethau, ynghyd a chyfres o ddeg englyn a luniwyd iddo gan Alan Llwyd ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain mlwydd oed (Ionawr 2017).

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Gwaredwyd papur swyddogol gwag (ar gyfer swyddfa Plaid Cymru a'r Cyngor Llyfrau), a dyblygion taflenni Plaid Cymru. Mae awdurdod i ddinistrio'r papurau hyn yn Ffurflen Werthuso Adrannol NMD/2004-05/3..

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd ar sail profiant yn LlGC yn bedwar grŵp: papurau llenyddol, papurau personol, papurau gwleidyddol a Rhodd Ionawr 2017.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg oni nodir yn wahanol.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr (2002) yn LLGC

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Trosglwyddwyd cyfrol o benillion llawysgrif, 1890-1898, i NLW ex 2184.
Trosglwyddwyd 5 fideo (VM 9169-9173 - 99758486102419) i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004265189

GEAC system control number

(WlAbNL)0000265189

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 2002 a Gorffennaf 2017 (Rhodd Ionawr 2017)

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Mai Williams ac Ann Francis Evans (Rhodd Ionawr 2017) .

Nodyn yr archifydd

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r catalog: Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); Profiles (Llandysul, 1981); Thomas H. Davies, Pwy yw pwy yng Nghymru? (Lerpwl a Llanddewi Brefi, 1981); Delyth George, Llên y Llenor. Islwyn Ffowc Elis (Caernarfon, 1990).

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig