Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1826-1983 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.317 metrau ciwbig (33 bocs).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Roedd Iorwerth Cyfeiliog Peate (1901-1982) yn ysgolhaig ac yn fardd.
Fe'i ganwyd ym Mhandy Rhiwsaeson, Llanbryn-mair, Trefaldwyn, yr ail o dri phlentyn George H. ac Elizabeth Peate. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Machynlleth a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r astudiodd dan T. Gwynn Jones a H. J. Fleure a gafodd gryn ddylanwad arno. Arbenigodd mewn Archaeoleg Geltaidd ac yn 1927 penodwyd ef yn Is-Geidwad yn Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Dyrchafwyd Iorwerth Peate yn Bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin yn 1932, a gweithiodd yn ddiflino i sefydlu amgueddfa werin yng Nghymru ar batrwm amgueddfeydd awyr-agored gwledydd Llychlyn. Gwireddwyd ei freuddwyd pan agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yn 1948 a phenodwyd yntau'n Guradur cyntaf hyd ei ymddeoliad yn 1971. Roedd yn ŵr o argyhoeddiadau cryf ac un annibynnol ei farn ac ymhyfrydai yn 'nhraddodiad Llanbryn-mair' y magwyd ef ynddi, sef traddodiad anghydffurfiol, radicalaidd. Bu'n heddychwr gydol oes a chollodd ei swydd fel Curadur am gyfnod oherwydd ei safiad fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Iorwerth Peate yn awdur toreithiog o weithiau ysgolheigaidd Cymraeg a Saesneg yn ogystal â barddoniaeth, rhyddiaith a beirniadaeth lenyddol. Ymhlith ei brif gyfraniadau ym maes diwylliant gwerin mae Y crefftwr yng Nghymru (1933), The Welsh house (1940), Diwylliant gwerin Cymru (1942), Clock and watch makers in Wales (Caerdydd, 1945), a Tradition and folk life: a Welsh view (1972). Cyhoeddodd amryw gyfrolau o ryddiaith, yn eu plith Sylfeini (1938), Syniadau (1969), a'r gweithiau hunangofiannol Rhwng dau fyd (1976), a Personau (1982); bu'n olygydd monograffau megis Hen Gapel Llanbrynmair 1739-1939 (1939), John Cowper Powys: letters 1937-54 (1974), a'r cylchgronau Dragon (1922-1923), Y ddraig goch (1926-1927), a Gwerin. An international journal of folk life (1956-1962). Ymhlith y casgliadau o farddoniaeth a gyhoeddwyd mae Y cawg aur a cherddi eraill (1928), Canu chwarter canrif (1957) sef detholiad o'i gerddi, a Cerddi diweddar (1982) wedi iddo farw. Cyfrannodd nifer helaeth o erthyglau ac adolygiadau i'r wasg, rhai ohonynt dan y ffugenw 'Gwerinwr', ac roedd yn ddarlledydd radio poblogaidd.
Roedd Iorwerth Peate yn aelod o amryw bwyllgorau a bu'n Llywydd y Gymdeithas Fywyd Gwerin, Llywydd Adran H (Anthropoleg) o'r British Association for the Advancement of Science, Is-Lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, un o sefydlwyr a chyn-Gadeirydd yr Academi Gymreig, ac aelod o Lys a Chyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei gyfraniad ysgolheigaidd gyda'r graddau D. Litt. Celt. er anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon (1960), a D. Sc. (1941) a D. Litt. honoris causa (1970) gan Brifysgol Cymru. Cyflwynwyd bathodyn y Cymmrodorion iddo yn 1978 am ei waith dros Gymru, a chyfrol festschrift, Studies in folk life, gol. J. Geraint Jenkins, yn 1966.
Priododd Nansi (Annie) Davies, yn 1929, a ganwyd mab iddynt, Dafydd (1936-1980). Bu farw Iorwerth C. Peate ar 19 Hydref 1982.
Hanes archifol
Ymddengys fod rhai o'r papurau, yn cynnwys llythyrau'r 'byw', wedi eu chwynnu cyn iddynt gyrraedd LlGC (nodyn yn llaw Mr Daniel Huws).
Ffynhonnell
Rhodd gan Mrs Nansi Peate ac Mrs Eirlys Peate yng Ngorffennaf 1983, Awst 1985 a Mawrth 1988.; A1983/127, A1985/109, A1988/21.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau llenyddol, proffesiynol a phersonol Iorwerth C. Peate, 1826-1983, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau; papurau yn ymwneud ag amryw o'i weithiau llenyddol; papurau ynglŷn â'i yrfa broffesiynol, yn cynnwys sefydlu Amgueddfa Werin Cymru; a ffeiliau ar bynciau penodol yn ymwneud â diwylliant gwerin. Yn ogystal ceir papurau aelodau o'i deulu, yn eu plith dyddiaduron, llyfrau nodiadau, llythyrau a chyfrifon. Ceir hefyd bapurau a grynhowyd gan Iorwerth Peate a'i berthnasau. -- Literary, professional and personal papers of Iorwerth C. Peate, 1826-1983, including a substantial group of letters; papers relating to various literary works by him; papers regarding his professional career, including the establishment of the Welsh Folk Museum; and files concerning specific subjects relating to folk culture. In addition, the archive contains papers pertaining to members of his family, among which are diaries, notebooks, letters and accounts. Also included are papers accumulated by Iorwerth Peate and his relatives.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp: papurau Iorwerth C. Peate a phapurau teuluol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â hawlfraint Iorwerth Peate at Mrs Eirlys Peate, Y Bont-faen, Bro Morgannwg.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg (gweler y disgrifiadau ar y lefelau perthnasol). Mae'r ohebiaeth yn gymysgedd o lythyrau Cymraeg a Saesneg, er ymddengys fod nifer helaethach o lythyrau Cymraeg; a'r papurau yn ymwneud a'i yrfa broffesiynol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Saesneg yn bennaf. Cymraeg yw iaith y papurau teuluol fwyaf. -- Welsh and English (see descriptions on appropriate levels). The correspondence comprises letters in both Welsh and English, although it appears that the Welsh letters are more numerous; and the papers relating to his professional career and the National Museum of Wales are mainly English. The majority of family papers are in Welsh.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae'r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Iorwerth Peate, a'r dyddiad olaf wedi iddo farw, oherwydd ceir papurau a grynhowyd ganddo ac aelodau eraill o'i deulu.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Medi 2004.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Siân Bowyer.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Iorwerth C. Peate, Rhwng dau fyd (Dinbych, 1976); R. Alun Evans, Iorwerth Cyfeiliog Peate (Bro a bywyd: 2003); Catrin Stevens, Iorwerth C. Peate (Writers of Wales: 1986); T. Robin Chapman, Iorwerth Peate (Llên y llenor: Caernarfon, 1987); Cydymaith i lenyddiaeth Cymru, gol. M. Stephens (Caerdydd, 1997); teyrnged Trefor M. Owen, Welsh History Review, cyf. 11, (1982-1983); teyrngedau Trefor M. Owen a Thomas Parry, Barn, 1982, rhif 238; 'Iorwerth Cyfeiliog Peate' gan Bobi Jones, Barn, 1983, rhif 244; a phapurau o fewn archif Iorwerth C. Peate.