Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1924-1997 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.083 metrau ciwbig (7 bocs).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Harri Gwynn (1913-1985) yn fardd a darlledwr. Fe'i ganwyd yn Wood Green, Llundain, 14 Chwefror 1913, yn fab i Hugh ac Elizabeth Jones. Symudodd y teulu i Garth Celyn, Penrhyndeudraeth, pan oedd Harri Gwynn yn bedair oed, yn dilyn marwolaeth ei dad. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bermo a Choleg y Brifysgol, Bangor. Enillodd radd mewn hanes yn 1935. Rhwng 1935 a 1936 ef oedd Llywydd Cyngor y Myfyrwyr ac enillodd y goron ddwywaith yn Eisteddfod Prifysgol Bangor, ac unwaith yn yr Eisteddfod Rhyngolegol yn Aberystwyth. Yn 1938 cyflwynodd ei draethawd ymchwil MA ar y Crynwr John Kelsall (1683-1743), 'John Kelsall: A study in Religious and Economic History' wedi iddo ennill Ysgoloriaeth Lloyd George. Bu'n athro hanes yn Y Fflint am flwyddyn ac wedyn yn Ysgol Friars, Bangor. Priododd y gwyddonydd Dr Eirwen Gwynn (née St. John Williams) ar Ddydd Calan 1942 a ganwyd eu mab Dr Iolo ap Gwynn tra roeddent yn byw yn Llundain. Bu'n was sifil yn Warwick ac yn Llundain gan gyfrannu at fywyd diwylliannol y brifddinas drwy gynorthwyo i sefydlu Cymdeithas y Ford Gron a chwmni drama'r Ddraig Goch gyda'i wraig Eirwen. Bu'n olygydd papur Cymry Llundain Y Ddinas o 1943 hyd 1950.
Ar ôl byw yn Lloegr am wyth mlynedd penderfynodd ddychwelyd i Gymru yn 1950 i ffermio yn Nhyddyn Cwcallt, Rhoslan, Eifionydd, gan aros yno am ddeuddeng mlynedd. Ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955. Yn 1970 symudodd Harri Gwynn o Fangor i Dyddyn Rhuddallt yn Llanrug. Yr oedd yn un o ohebwyr cyntaf y rhaglen 'Heddiw' a dechreuodd weithio ar y rhaglen yn 1962. Bu'n gweithio hefyd fel cynhyrchydd radio ym Mangor. Ymddeolodd o'r BBC yn 1979.
Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i gerddi Barddoniaeth Harri Gwynn (1955) ac Yng Nghoedwigoedd y Sêr (1975), a chasgliad o ysgrifau, Y Fuwch a'i Chynffon (1954). Yn 1994 golygodd Dr Eirwen Gwynn gyfrol o ysgrifau'i gŵr Rhwng godro a gwely a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel erthyglau yn Y Cymro rhwng 1952 a 1959. Bu Harri Gwynn yn gystadleuydd brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ymgeisiodd am y goron chwech o weithiau rhwng 1948 a 1954. Ef a luniodd 'Y Creadur' sef pryddest anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1952 y gwrthodwyd ei gwobrwyo gan yr Athro W. J. Gruffydd a'i gyd-feirniaid. Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddarach yn Y Cymro.
Bu Harri Gwynn farw ar 24 Ebrill 1985.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhodd gan Dr Eirwen Gwynn, Tal-y-bont, Aberystwyth, ym mis Hydref 2004; 0200411011.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Harri Gwynn, 1924-1997, yn cynnwys gohebiaeth gynnar rhyngddo a'i wraig Eirwen Gwynn; llythyrau oddi wrth lenorion; cerddi Harri Gwynn gan gynnwys cyfieithiadau i'r Saesneg a Sbaeneg o'i bryddest 'Y Creadur' a chyfieithiadau o ganeuon; sgriptiau radio; personalia; papurau'n ymwneud â'r Mudiad Gwerin; ynghyd â llythyrau a chardiau cydymdeimlad a anfonwyd i'w deulu; a theyrngedau iddo. = Papers of Harri Gwynn, 1924-1997, comprising early correspondence between him and his wife; letters from literary figures; poems by Harri Gwynn including English and Spanish translations of his poem in free metre (pryddest) 'Y Creadur' ('The Creature') and translations of his songs; radio scripts; personalia; papers relating to the movement Gwerin (Folk); together with letters and sympathy cards sent to his family; and tributes to him.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd y cyfan o bapurau Harri Gwynn..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn annhebygol.
System o drefniant
Trefnwyd yn LlGC yn ddau grŵp, sef papurau personol a phapurau llenyddol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â'r amodau a nodir ar y ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data' a gyflwynir iddynt gyda'u tocynnau darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg yn bennaf oni nodir yn wahanol.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Mae'r dyddiad creu olaf yn hwyrach na dyddiad marwolaeth Harri Gwynn oherwydd ceir llythyrau'n ymwneud â'r Cyfarfod Teyrnged a gynhaliwyd i Harri Gwynn yn 1986, a phapurau o gyfnod diweddarach yn perthyn i'w weddw Dr Eirwen Gwynn. Rhoddwyd y teitlau gwreiddiol mewn dyfynodau.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2005.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Eirwen Gwynn, Hanes Dau Gariad (Llandysul, 1999); Traethawd MA (Prifysgol Cymru Bangor) Meinir Evans, 'Harri Gwynn - Bardd a Llenor'; Meinir Evans, 'Anifeiliaid a'r Anifeilaidd', Barn, Rhagfyr 1994/Ionawr 1995; Harri Gwynn, Rhwng Godro a Gwely (Tal-y-bont, 1994); Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1997); a phapurau yn archif Harri Gwynn.