Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [c. 1889]-1969 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Thomas Owen Jones ('Gwynfor') (1875-1941), dramodydd, ym Mhwllheli, sir Gaernarfon. Aeth yn brentis i groser yn bymtheg oed, a symudodd i Gaernarfon yn 1893, lle agorodd ei siop gigydd ei hun ymhen amser. Yn ei oriau hamdden bu Gwynfor yn cynorthwyo Beriah Gwynfe Evans (1848-1927) gyda hyrwyddo drama yng Nghaernarfon, a daeth ef ei hun yn actor a dramodydd medrus. Sefydlodd Cwmni Theatr y Ddraig Goch yn 1900, a bu'n gyfarwyddwr iddo tan 1935, a dyma'r cwmni a berfformiodd y ddrama Gymraeg gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yng Nghaernarfon yn 1906. Enillodd Gwynfor ei hun nifer o gystadlaethau drama mewn eisteddfodau, a bu'n feirniad cenedlaethol o 1924 ymlaen. Datblygodd ddiddordeb dwfn mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Cymraeg o bob math, yn enwedig hynny'n ymwneud â'r môr, gan gasglu storiâu a gwybodaeth gan hen forwyr Pwllheli a Chaernarfon, yn ogystal â chan faledwyr sir Gaernarfon. Yn 1917 cafodd Gwynfor ei benodi'n Llyfrgellydd Sirol cyntaf sir Gaernarfon, yn gyfrifol am ddosbarthu llyfrau trwy ysgolion a phentrefi gwledig y sir. Priododd Margery Winifred ('Madge') Jones, aelod o Gwmni Drama'r Ddraig Goch, yn 1922, a bu'n byw yng Nghaernarfon hyd ei farwolaeth yn 1941.
Hanes archifol
Yn dilyn marwolaeth Gwynfor yn 1941, bu'r papurau ym meddiant ei weddw, Madge Jones, hyd nes iddynt gael eu cyflwyno'n rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ffynhonnell
Mrs Madge Jones, gweddw Gwynfor; Bangor, Gwynedd; Rhodd; 1975
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau Thomas Owen Jones ('Gwynfor'), [c. 1889]-1969, yn cynnwys gohebiaeth, llyfrau nodiadau, dyddiadur, dramâu, storiâu, cerddi, traethodau, sgyrsiau a darlithoedd, adroddiadau a thorion o'r wasg yn ymwneud â 'Gwynfor' a byd y ddrama yng Nghymru, a chopïau o gerddi a anfonwyd ato gan Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), ac eraill; ynghyd â llythyrau at Madge Jones,1941-1969, ynglŷn â Gwynfor a'i waith. = Papers of Thomas Owen Jones ('Gwynfor'), [c. 1889]-1969, comprising correspondence, notebooks, a diary, plays, stories, poems, essays, talks and lectures, reports and press cuttings relating to 'Gwynfor' and the drama movement in Wales, and copies of poems addressed to him by Thomas Gwynn Jones (1871-1949), Robert Williams Parry (1884-1956), and others; together with letters to Madge Jones, 1941-1969, concerning Gwynfor and his work.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd yn y grwpiau canlynol: gohebiaeth; torion papur newydd; llenyddiaeth; amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mawrth 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Papurau 'Gwynfor' Thomas Owen Jones; Dictionary of Welsh Biography down to 1940 (Llundain, 1959); Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW.