Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1913-1970 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.189 metrau ciwbig (rhodd 1973: 12 bocs bach; rhoddion 2013, 2015 a 2016:1 bocs bach; rhoddion 2021 a 2022: 8 bocs bach).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd David James Jones ('Gwenallt',1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau, aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan dod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd,1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936, Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon, Cwmni'r Llan,1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul: Gomer, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul: Gomer, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul: Gomer, 1969).
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mrs Nel Gwenallt, gweddw Gwenallt; Aberystwyth; Rhodd; 1973, 1999, 2001.
Mr John Meredith; Bangor; Rhodd; Medi 2013.
Mr John Meredith; Bangor; Rhodd; Tachwedd 2015 a Hydref 2016; 99126210902419.
Mr Siôn Meredith; Capel Dewi, Aberystwyth; Rhodd; Medi 2016; 99126210902419.
Elin Gwenallt Jones, trwy law Mererid Hopwood; Aberaeron; Rhodd; Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2022; 99126210902419.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llawysgrifau a chopïau teipysgrif o gerddi Gwenallt, 1922-[1968], yn cynnwys 'Mynach','Ynys Enlli', a cherddi eraill a gyhoeddwyd; sgriptiau, dramâu ac anerchiad, yn bennaf ar gyfer y radio,1947-1952; llyfrau, nodiadau rhydd a phenawdau'n cynnwys nodiadau a gopïwyd o lyfrau ac erthyglau wedi eu paratoi ar gyfer darlithoedd, sgyrsiau, anerchiadau, gweithiau cyhoeddedig ac ysgolion, 1913-1958; llythyrau, at Gwenallt yn bennaf, a rhai at ei weddw, 1926-1970; deunydd yn ymwneud â'i gofiant i Idwal Jones (1958) yn cynnwys llyfrau nodiadau a chopïau drafft o ran o'r llyfr yn ogystal â chaneuon, cerddi a pharodïau gan Jones, 1922-[1958]; a llyfr cofnodion,1929-1933, 'Cymdeithas yr Hwrddod' a ffurfiwyd gan Gwenallt ac Idwal Jones yn Aberystwyth. Derbyniwyd cyfrol o gerddi cynnar, heb eu cyhoeddi, a hefyd cyfrol o nodiadau llawysgrif, Medi 2013 a llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau o lyfrau Saesneg a drafftiau o gerddi cyhoeddedig gan Gwenallt yn Gymraeg yn Nhachwedd 2015. = Manuscripts and typescripts of poetry by Gwenallt, 1922-[1968], including 'Y Mynach', 'Ynys Enlli' and other published poems; scripts, dramas and an address, mostly written for radio, 1947-1952; notebooks, loose notes and headings containing notes copied from books and articles in preparation for lectures, talks, addresses, published works and for school, 1913-1958; letters, mostly to Gwenallt, with some to his widow, 1926-1970; material relating to his biography of Idwal Jones (1958) including notebooks and drafts of parts of the book as well as songs, poems and parodies written by Jones, 1922-[1958]; and a minute book, 1929-1933, of 'Cymdeithas yr Hwrddod', formed by Gwenallt and Idwal Jones at Aberystwyth.
A further volume of early poetry in Gwenallt's hand, not published, and a volume of manuscript notes were received, September 2013.
Papurau ychwanegol Gwenallt yn cynnwys llyfr nodiadau gyda dyfyniadau o lyfrau hanesyddol Saesneg yn bennaf. Tua chanol y gyfrol ceir cerdd: ‘Y gweithfeydd hyn’ [cyhoeddwyd yn Christine James (gol.), Cerddi Gwenallt: y casgliad cyflawn (Llandysul, 2001) fel ‘Y gweithfeydd segur’ ac yn wreiddiol yn Baner ac Amserau Cymru, 25 Awst 1943], a dau englyn: ‘Er cof am David Lewis, Dolanog’ [cyhoeddwyd fel ‘Er cof am Ddafydd Lewis, Gwasg Gomer’, yn Cerddi Gwenallt a chyn hynny yn Baner ac Amserau Cymru, 8 Medi 1943]; derbyniwyd Tachwedd 2015.
Llyfr nodiadau yn cynnwys dyfyniadau yn llaw Gwenallt, [1962]-[?1968], o lyfrau diwinyddol yn nodi’r gweithiau printiedig, rhifau tudalen a rhai ffynonellau llawysgrif. Maent yn ymwneud â John Bunyan, Williams Pantycelyn ac eraill ac mae’r mwyafrif mewn Saesneg; derbyniwyd Medi 2016.
Derbyniwyd papurau ychwanegol ym mis Rhagfyr 2021.
Bwndel ychwanegol o bapurau Gwenallt, yn cynnwys tri llyfr nodiadau, nodiadau ar bapurau rhyddion, album yn ymwneud â dadorchuddio plac ar gartref y bardd ym Mhenparcau ym Mawrth 1997, rhai ffotograffau, dau dâp caset o Ŵyl Gwenallt, Pontardawe, Hydref 1984, a ffeil o lythyrau oddi wrth Gwenallt at Nel Owen Edwards, 1935-1936, cyn eu priodi; Rhagfyr 2022.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: barddoniaeth Gwenallt; cofiant Idwal Jones; sgriptiau radio a dramâu; nodiadau; gohebiaeth; amrywiol.; rhodd Medi 2013 a rhodd Tachwedd 2015.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Mae'r hawlfraint ar bapurau Gwenallt yn eiddo i'w ferch Mrs Mair Powell.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.
Nodiadau
Mae rhai eitemau megis llythyrau o gydymdeimlad yn dyddio ar ôl ei farw.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Cymdeithas yr Hwrddod. (Pwnc)
- Gwenallt, 1899-1968 -- Archives (Pwnc)
- Jones, Idwal, 1895-1937 -- Biography. (Pwnc)
- Jones, Idwal, 1895-1937. (Pwnc)
- Gwenallt, Nel (Pwnc)
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau ANW a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Chwefror 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Gwenallt; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001); Stephens, Meic, Oxford Companion to the Literature of Wales (Rhydychen, 1986).
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.