Fonds GB 0210 GLASNANT - Papurau Glasnant

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 GLASNANT

Teitl

Papurau Glasnant

Dyddiad(au)

  • [1882x1971] (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

0.058 metrau ciwbig (2 focs)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Roedd y Parch. W. Glasnant Jones, a anwyd yn 1869, yn frodor o Lanaman, Sir Gaerfyrddin. Daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn 1893, a rhwng 1893 ac 1901 bu'n weinidog yn Libanus, Pwll, Llanelli. Rhwng 1901 a 1907, bu yn Siloh, Nantyfyllon; 1907-1911, Triniti, Cross Keys; 1911-1943, Ebeneser, Dyfnant, ac fe barhaodd i bregethu'n gyson hyd 1950. Bu'n ddarlithydd ac yn lenor adnabyddus am gyfnod hir. Bu farw yn 1951.

Hanes archifol

Bu papurau Glasnant yn nwylo ei fab, Dr Iorwerth Hughes Jones, ar ôl ei farwolaeth yn 1951, hyd ei farwolaeth ef yn 1972. Bu'r papurau wedyn ym meddiant gweddw Iorwerth Hughes Jones, Elizabeth Hughes Jones.

Ffynhonnell

Rhodd oddi wrth Mrs Elizabeth Hughes Jones, Abertawe, gweddw Dr Iorwerth Hughes Jones, mab W. Glasnant Jones, Awst 1977. Daeth Beibl Rhys Davies ymysg papurau eraill gan Dr Iorwerth Hughes Jones yn [1972].

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Pregethau, gweithiau creadigol, anerchiadau a gwaith ymchwil y Parch. W. Glasnant Jones, ynghyd â phapurau'n ymwneud â'i ymddeoliad a'i farwolaeth, gan gynnwys llythyrau o gydymdeimlad, [1882x1971].

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Cadwyd y cyfan o bapurau Glasnant a roddwyd i'r Llyfrgell..

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn dair cyfres: papurau llenyddol, [1882x1951]; nodiadau bywgraffyddol, [c.1903]-[1971]; a theyrngedau i Glasnant, [1941], 1951, 1965; ac yn ddwy ffeil: pregethau Glasnant, [1892x1951]; a Beibl Rhys Davies, 1877.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg yn bennaf, oni nodir yn wahanol.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr hon yn LLGC.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir papurau ei fab, Dr Iorwerth Hughes Jones, hefyd yn LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004204395

GEAC system control number

(WlAbNL)0000204395

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Ionawr 2003.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: gwybodaeth allan o bapurau Glasnant

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig