Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1917-2011. (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.05 m3 (blwch, 1 ffolder).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Fe oedd Gilmor Griffiths yn fwyaf adnabyddus fel athro cerdd yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, 1956-1982, fel arweinydd, cyfansoddwr a threfnydd cerddoriaeth. Ganwyd ef ar y 7fed o Fedi 1917, ym Mhonciau, ger Wrecsam, i Thomas ac Elizabeth Griffiths. Roedd ganddo un chwaer, Gwyneth. Addysgwyd yn ysgol y pentref sef Ysgol y Ponciau ac yna Ysgol Ramadeg Rhiwabon. Mynychodd Coleg Normal Bangor, 1936-1939 lle cafodd ei hyfforddi i fod yn athro. Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd ei yrfa fel athro cerdd yn Ysgol Grango, Rhos, 1946-1956. Yn 1956 cafodd ei benodi gan Dr Haydn Williams (Cyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint), fel Pennaeth Cerddoriaeth a Meistr y Côr yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Yno y bu nes iddo ymddeol yn 1982. Priododd ei wraig gyntaf Elizabeth Davies (Beti), yn Rhagfyr 1942, yng Nghapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog. Roedd ganddynt dair merch, Jennifer, Sian a Bethan. Priododd â'i ail wraig, Vera Williams, athrawes ysgol, yn y Llithfaen, ym mis Hydref 1975 ac yna’n ymgartrefi yn Henllan. Roedd yn ymroi’n fawr i'w gerddoriaeth. Roedd yn bwysig iddo fod pob plentyn yn cael cyfle i ddarganfod eu doniau cerddorol. Cyfansoddwyd, addaswyd a threfnwyd nifer o weithiau yn arbennig i blant ysgol. Yr oedd yn feirniad a chyfeilydd mewn eisteddfodau, ac yn chwarae organ yn yr eglwys. Ymysg ei waith gwelir darnau unawd, côr, bandiau pres, cerddorfa, telynau, alawon gwerin ac emynau. Mae yna ddylanwad crefydd ar lawer o waith Gilmor Griffiths. Byddai'n cyfansoddi, ysgrifennu, addasu neu drefnu nifer o emynau a charolau Nadolig. Perfformiwyd llawer ohonynt gan Gôr Ysgol Glan Clwyd yng nghyngherddau’r ysgol, yn enwedig cyngherddau’r Nadolig yng Nghadeirlan Llanelwy. O dan ei arweiniad recordiwyd dau albwm gan y côr, sef 'Ganwyd Crist i'r Byd' yn 1975 a 'Nos Nadolig Yw' yn 1981; y ddau wedi'u rhyddhau ar label Sain (Recordiau). Byddai ei gariad at dymor yr ŵyl yn ennill y llysenw 'Mr Christmas' iddo. Roedd Gilmor yn aelod gweithgar o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn Llywydd a Chadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ble oedd hefyd yn olygydd cerddorol Allwedd y Tannau. Roedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r gerddoriaeth ar gyfer y Gwleddoedd Canoloesol a gynhaliwyd yng Nghastell Rhuthun ac yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Opera’r Rhyl. Mae ei weithiau cyhoeddedig yn cynnwys: Caneuon Newydd i Ysgolion, Cyf. III. Hughes a’i Fab, Wrexham, 1960; Gilmora : 15 o alawon cerdd dant. Y Lolfa, 1984; Hwyl ar y gân: 7 o ganeuon i blant. Y Lolfa 1984; Y pren afalau : unawd / geiriau I. D. Hooson. Y Lolfa 1984; Breuddwydion : unawd / geiriau I. D. Hooson. Y Lolfa 1984; Carolau Gilmor. Y Lolfa 1991; Gwylanod [geiriau] H. D. Healy. Y Lolfa 2010; Ave Maria : yn A♭ fwyaf; [geiriau Rhydwen Williams]. Y Lolfa, 2014; Lliwiau'r hydref; [geiriau] Dorothy Jones. Y Lolfa 2014. Bu farw Gilmor Griffiths ar 11 Gorffennaf 1985 yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yr oedd yn 67 mlwydd oed. Claddwyd yn y Llithfaen ger Pwllheli, 17 Gorffennaf 1985.
Hanes archifol
Cyfansoddiadau cerddorol a rhai eitemau personol Gilmor Griffiths, trefnwyd gan Vera Williams, ei weddw, a'i gadw ganddi hi yn eu cartref yn Henllan, Sir Ddinbych, cyn iddynt gael eu rhoi i'r Llyfrgell.
Ffynhonnell
Rhodd Mrs Vera Williams, Henllan, Dinbych, Rhagfyr 2016.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llawysgrifau cerddorol a phapurau'r cyfansoddwr ac athro, Gilmor Griffiths.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Mae copïau dyblyg wedi eu gwaredu.
Croniadau
Ni ddisgwylir croniadau.
System o drefniant
Trefniant yn seiliedig ar y drefn wreiddiol ar adeg adneuo. Trefnwyd fel dau grŵp: Cerddoriaeth, a phapurau personol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol = Usual copyright laws apply.
Iaith y deunydd
- Saesneg
- Cymraeg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Catalog ar-lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Alma system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; and LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
Sgript(iau)
Ffynonellau
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r disgrifiad hwn: Papurau personol, o fewn y casgliad.
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Robert Evans.