Fonds GB 0210 FRANJON - Papurau Frank Price Jones

Identity area

Reference code

GB 0210 FRANJON

Title

Papurau Frank Price Jones

Date(s)

  • 1937-1975 (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

0.522 metrau ciwbig (58 bocs).

Context area

Name of creator

Biographical history

Yr oedd Frank Price Jones (1920-1975) yn ddarlithydd hŷn yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn adnabyddus fel hanesydd, darlledwr a chyfrannwr cyson i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Mrs Iris Price Jones, gweddw Frank Price Jones; Bangor; Rhodd; Mehefin 1985.

Content and structure area

Scope and content

Nodiadau darlithoedd, yn bennaf ar gyfer dosbarthiadau allanol ar hanes Cymru, 1943-1975; papurau ynglŷn ag ymchwil a chyhoeddiadau Frank Price Jones, 1947-1975, yn cynnwys drafftiau erthyglau ac adolygiadau, gwahanlithoedd a chopïau printiedig o'i waith cyhoeddedig; deunydd yn ymwneud ag erthyglau awduron eraill, 1932-1975; papurau, 1943-1975, yn deillio o waith Frank Price Jones ar gyfer y cyfryngau, y cynnwys sgriptiau radio a theledu, ac i bapurau newydd; papurau gwleidyddol, 1910-1975, yn cynnwys gohebiaeth, torion o'r wasg, pamffledi ymgeiswyr ac anerchiadau etholiadol, canlyniadau etholiadau, deunydd yn ymwneud ag Ymgyrch Senedd i Gymru yn y 1950au cynnar a Chomisiwn y Cyfansoddiad, 1969-1970; papurau, 1947-1975, ynghylch y gwaith cyhoeddus a gyflawnodd Frank Price Jones, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â'r Eisteddfod Genedlaethol, 1922-1974; deunydd, 1966-1975, yn ymwneud â Phatagonia; papurau,1966-1975, yn deillio o waith Frank Price Jones ar gyfer Panel Cyfieithu'r Swyddfa Gymreig, Pwyllgor Amgueddfa Werin Cymru, 1956-1967, ac Urdd y Graddedigion Prifysgol Cymru, 1963-1975; gohebiaeth gyffredinol, 1941-1975, yn cynnwys grŵp mawr o lythyrau,1941-1975, oddi wrth Iorwerth C. Peate, cefnder Frank Price Jones; ac amrywiol. = Lecture notes mainly for extra-mural classes in Welsh history, 1943-1975; papers concerning Frank Price Jones's research and publications, 1947-1975, including drafts of articles and reviews, offprints and printed copies of his published work; material relating to articles by other authors, 1932-1975; papers, 1943-1975, deriving from Frank Price Jones's work for the media, including television and radio scripts, and for newspapers; political papers, 1910-1975, including correspondence, press cuttings, candidates' pamphlets and election addresses, election results, material relating to the Parliament for Wales Campaign of the early 1950s and to the Commission on the Constitution of 1969-1970; papers, 1947-1975, concerning the public work undertaken by Frank Price Jones, including in relation to the National Eisteddfod, 1922-1974; material, 1966-1975, relating to Patagonia; papers, 1966-1975, deriving from Frank Price Jones's work for the Welsh Office Translation Panel, the Committee of the Welsh Folk Museum, 1956-1967, and for the Guild of Graduates of the University of Wales, 1963-1975; general correspondence, 1941-1975, including a large group of letters, 1941-1975, from Iorwerth C. Peate, a cousin to Frank Price Jones; and various miscellanea.

Appraisal, destruction and scheduling

Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i'r Llyfrgell.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: nodiadau darlithoedd; papurau'n ymwneud â gwaith cyhoeddedig; erthyglau amrywiol; erthyglau awduron eraill; y cyfryngau; papurau newydd; gwleidyddiaeth; gwaith cyhoeddus; Eisteddfod Genedlaethol; Patagonia, Panel Cyfieithu'r Swyddfa Gymreig; Pwyllgor Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan; Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru; gohebiaeth, a phapurau amrywiol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i darllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern- gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1986, tt. 43-49.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004644155

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Gorffennaf 2006.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau, 1986, tt. 43-49.

Archivist's note

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW.

Accession area