Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1962-1971 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.045 metrau ciwbig (5 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd John Davies, hanesydd, llenor a darlledwr, yn Llwynypia, Rhondda, Morgannwg, yn 1938, ond cafodd ei fagu yng Ngheredigion. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Bu'n athro yn Adran Hanes Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1963-1973, ac yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1973-1990, cyn symud i Gaerdydd fel darlledwr teledu. Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Hanes Cymru (Penguin, 1990), y cyfieithiad Saesneg ohono, The History of Wales (Penguin, 1993) a Cardiff and the Marquesses of Bute. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a'i hysgrifennydd cyntaf ar y cyd ag E.G.Millward. Ffurfiwyd y Gymdeithas i ymgyrchu dros hawliau'r Gymraeg. Cyhoeddir cylchlythyr, Tafod y Ddraig.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Dr John Davies; Caerdydd; Rhodd; 1994, 1995, 1996
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau John Davies, 1962-1971, y cyfan yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r iaith Gymraeg, yn cynnwys gohebiaeth John Davies ag arweinwyr cynnar y Gymdeithas,1962-1971, yn eu mysg E. G. Millward, 1962-1965; cofnodion cyfarfodydd y Gymdeithas, 1962-1963; ffurflenni treth Cymraeg a dwyieithog, 1963-1964; amrywiol erthyglau llawysgrif a chyhoeddedig John Davies ac eraill, 1963-1968; copïau o Tafod y Ddraig, 1963-[1971]; papurau ariannol, [1960s]; a chardiau, taflenni a phamffledi, [1960au] = Papers of John Davies, 1962-1971, all relating to Cymdeithas yr Iaith Gymraeg and the Welsh language, including correspondence of John Davies with early leaders of the Society, 1962-1971, including E. G. Millward, 1962-1965; minutes of Society meetings, 1962-1963; Welsh and bilingual tax forms, 1963-1964; various manuscript and published articles by John Davies and others, 1963-1968; copies of Tafod y Ddraig, 1963-[1971]; financial papers, [1960s]; and cards, leaflets and pamphlets, [1960s].
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: adneuon 1994 a 1995: gohebiaeth a phapurau; erthyglau; amrywiol; gohebiaeth; ac adnau 1997: gohebiaeth a phapurau; amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn LlGC, Mân Restri a Chrynodebau 1995, tt. 25-27, a 1997, t. 31 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Mai 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Mân Restri a Chrynodebau,1995, 1997; Stephens, Meic, The new companion to the literature of Wales (1998);