Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1659-1972 (crynhowyd [c.1919]-1972) (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.114 metrau ciwbig (4 bocs)Mae rhai papurau mewn cyflwr bregus (gweler disgrifiadau lefel ffeil).
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Dr Iorwerth Hughes Jones yn 1902 yn fab hynaf i'r Parch. William Glasnant Jones. Addysgwyd ef yn Ysgol Sir Tre-gŵyr. Wedi iddo gymhwyso fel meddyg yn 1925 aeth i weithio fel meddyg preswyl yn Ysbyty Charing Cross, Llundain, cyn dychwelyd i Abertawe i ymgymryd â swydd fel meddyg teulu. Roedd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Abertawe rhwng 1947 a 1961, ac yn aelod o Blaid Cymru. Yn ystod y rhyfel roedd yn anesthetydd cynorthwyol yn Ysbyty Cyffredinol Abertawe. Roedd yn frwd dros achosion Cymreig - arweiniodd yr ymgyrch dros gael ysgolion Cymraeg yn Abertawe, roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1964, a bu'n Gadeirydd Urdd Gobaith Cymru, [c.1954]-1957. Ymddiddorai mewn hanes, roedd yn aelod o'r 'Royal Institution' a'r 'Gower Society', yn llywydd Cymdeithas Dunvant am gyfnodau, yn is-lywydd Cymdeithas Gŵyr, ac yn aelod o'r Cymmrodorion a Chymmrodorion Abertawe. Roedd ganddo ddiddordeb hefyd mewn celfyddyd ac roedd yn aelod o bwyllgor Galeri Glynn Vivian. Bu farw ar 26 Awst 1972.
Hanes archifol
Daeth y rhan fwyaf o'r papurau trwy law'r Dr Iorwerth Hughes Jones. Mae yma hefyd rhai o bapurau ei ewythr, Y Parch. E. Aman Jones, a'i lyfrgell, a drosglwyddwyd iddo ef gan ei ragflaenydd yng Nghapel Llanwrtyd, Y Parch. R. James.
Ffynhonnell
Rhoddwyd gan y Dr Iorwerth Hughes Jones a'i weddw ar adegau gwahanol rhwng Mawrth 1951 ac Awst 1977.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r archif yn adlewyrchu diddordebau amrywiol Dr Iorwerth Hughes Jones, ac yn cynnwys gohebiaeth, papurau personol, nodiadau, ffotograffau, torion papur newydd, a phapurau a dderbyniodd gan eraill.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl bapurau a roddwyd i LLGC..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd y casgliad yn bum grŵp; llythyrau, 1924-1972; diddordebau, 1823, [1919]-1972; mudiadau a sefydliadau, 1926-1970; materion cyhoeddus, [c.1930]-1961; a phapurau a gasglwyd ganddo, 1659-1953.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg a Saesneg oni nodir yn wahanol
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Text
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Awst 2001.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Nia Wyn Dafydd.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: South Wales Evening Post, 28 Awst 1972.