Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1863-1967 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.065 metrau ciwbig (5 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Yr oedd Crwys (1875-1968) yn fardd, gweinidog ac yn Archdderwydd Cymru, 1939-1946. Dywedir ei fod 'yn un o'r beirdd mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif'.
Ganwyd William Williams ar 4 Ionawr 1875 yng Nghraig-cefn-parc, Clydach, Sir Forgannwg, yn fab i John a Margaret Williams. Yn ddiweddarach mabwysiadodd yr enw barddol 'Crwys' ar ôl ei bentref genedigol pan ddechreuodd gystadlu. Yr oedd ei dad yn grydd ac am rai blynyddoedd bu Crwys hefyd yn gweithio fel crydd. Yr oedd John Williams ('Ap Llywelyn'), ewythr Crwys, yn gweithio yr un gweithdy â thad Crwys a bu'n ddylanwad mawr ar Crwys fel bardd ifanc. Yn ddiweddarach fe'i dylanwadwyd gan Syr John Morris-Jones. Newidiodd ei yrfa i fod yn weinidog gan ddechrau pregethu yn Eglwys Pant-y-crwys, Craig-cefn-parc, a mynychodd Ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman am ddwy flynedd cyn mynd i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Yn 1898 fe'i ordeiniwyd yn weinidog ar Eglwys Rehoboth ym Mryn-mawr, Sir Frycheiniog, a bu yno am un mlynedd ar bymtheg. Ysgrifennodd A brief history of Rehoboth Congregational Church, Brynmawr, from 1643 to 1927 yn 1927.
Priododd Grace Harriet Jones, cyd-fyfyriwr iddo ym Mangor yn 1898. Ganwyd dau fab a dwy ferch iddynt. Bu'n weithgar iawn gyda gweithgareddau'r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd maith ac ef oedd enillydd y goron yn 1910 am ei bryddest ar 'Ednyfed Fychan', 'Gwerin Cymru' yn 1911 a 'Morgan Llwyd o Wynedd' yn 1919. Yn 1913 enillodd goron a gwobr sylweddol o arian am bryddest i 'Abraham Lincoln' yn San Ffransisco. Cyhoeddodd bedair cyfrol o gerddi. Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1946 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg.
Yn 1914 derbyniodd wahoddiad i olynu Dr Cynddylan Jones fel asiant Cymdeithas y Beiblau yn Ne Cymru a symudodd y teulu i Abertawe i fyw. Arhosodd yn y swydd tan iddo ymddeol yn 1940. Bu farw 13 Ionawr 1968 a chafodd ei gladdu ym mynwent Pant-y-crwys.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Rhoddwyd y grŵp cyntaf gan Mrs Margaret Crwys Morgan, merch Crwys, yn Ebrill 1982, yr ail grŵp gan Hywel Wyn Jones yn Awst 1990, y trydydd a'r pedwerydd grŵp gan y Parch. W. Rhys Nicholas yn Medi 1990 a Mawrth 1992, a chan David Walters yn 1997. Prynwyd grŵp 2002 yn arwerthiant Cymreig Bonhams (Lot 125).
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau W. Crwys Williams, 1863-1967, yn cynnwys llythyrau, llyfrau nodiadau yn cynnwys cerddi, pryddestau a gyflwynwyd ar gyfer cystadleuaeth y goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, sgriptiau, pregethau, copi teipysgrif o'i ewyllys, 22 Rhagfyr 1958, a fersiwn diweddarach, 15 Medi 1964. Ceir papurau hefyd, 1873-1891, yn perthyn i'w dad-yng-nghyfraith y Parchedig Robert Charles Jones (1847-1925), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a fu'n genhadwr yn Chile, 1874-1878. = Papers of W. Crwys Williams, 1863-1967, comprising letters, notebooks including poems, poems in free metre entered in competitions for the crown in National Eisteddfodau, scripts, sermons, typescript copy of his will, 22 December 1958, and an updated version, 15 September 1964. Also included are papers belonging to his father-in-law the Rev. Robert Charles Jones (1847-1925), Calvinistic Methodist minister who was a missionary in Chile, 1874-1878.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd y cyfan o bapurau Crwys..
Croniadau
Mae ychwanegiadau yn annhebygol.
System o drefniant
Trefnwyd y papurau a dderbyniwyd cyn 2002 yn ôl y grwpiau derbyn, a mathau o ddeunydd o fewn y grwpiau hynny. Trefnwyd y papurau a brynwyd yn 2002 yn LlGC yn saith ffeil yn ôl pwnc : llythyrau, cerddi, pregethau, adysgrifau, rhyddiaith, llyfr lloffion a phapurau amrywiol. Trefn wreiddiol o fewn y ffeiliau. Mae'r rhifau yn dilyn ymlaen o'r rhif olaf a ddefnyddiwyd.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, peth Saesneg (gweler disgrifiadau lefel ffeil)
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Y mae'r dyddiad creu cynharaf yn gynt na blwyddyn geni Crwys oherwydd ceir papurau ei dad-yng-nghyfraith y Parchedig Robert Charles Jones, 1873-1891, a grynhowyd ganddo.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd y rhestr gan Ann Francis Evans.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr:
Nodyn yr archifydd
W. Rhys Nicholas, Crwys y Rhamantydd (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1990); Y Bywgraffiadur Cymreig, 1951-1970 (Llundain, 1997); Geraint a Zonia Bowen, Hanes Gorsedd y Beirdd ([Felindre, Abertawe], 1991); a thraethawd MA (Prifysgol Abertawe) Garry Nicholas, 'Crwys-astudiaeth o'i gerddi a'i gysylltiadau llenyddol'.