Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1986, 1989-2002 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Fonds
Maint a chyfrwng
0.074 metrau ciwbig (6 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes gweinyddol
Ym 1989 ffurfiwyd cronfa genedlaethol i goffáu John Saunders Lewis (1893-1985), ysgolhaig a beirniad llenyddol, ac un o wŷr disgleiriaf Cymru ei gyfnod. Ar Mehefin 3ydd cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa Saunders Lewis. Yr ymddiriedolwyr, a swyddogion Pwyllgor Rheoli yr Apêl oedd yr Athro R. Geraint Gruffydd (Cadeirydd), Dr Meredydd Evans (Ysgrifennydd), Ms Ann Ffrancon (Ysgrifennydd Cynorthwyol), a Mr Alun Creunant Davies (Trysorydd), ynghyd â Mr Emyr Humphreys a'r Esgob Daniel Mullins. Ar Hydref 18fed y flwyddyn honno, yn Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghaerdydd, cynhaliwyd cynhadledd i'r Wasg a oedd hefyd yn gyfarfod lawnsio'r Apêl Ariannol gyda'i nod o gasglu £150,000 ar gyfer amcanion addysgol y Gronfa. Bwriad penodol Ymddiriedolwyr y Gronfa oedd buddsoddi'r arian a gasglwyd er mwyn defnyddio'r llogau i ariannu ysgoloriaethau, gwerth rhwng £14,000 a £16,000 y flwyddyn, a oedd yn agored i Gymry ifainc o dan bymtheg ar hugain mlwydd oed. Yr oedd yr ysgoloriaethau i'w dal am gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer gwaith ymchwil neu waith creadigol yn un o'r meysydd canlynol: cysylltiadau llenyddol, drama, ffilm, y celfyddydau cain ac adeileddau gwleidyddol. Ar gyfer y gwaith hwn yr oedd yn rhaid i'r deiliad dreulio'r cyfan, neu ran, o'r amser yn ymchwilio mewn sefydliadau addysgol neu artistig perthnasol yng ngwledydd Ewrop Gyfandirol. Amod arall oedd i ganlyniadau'r ymchwil gael eu cyflwyno yn Gymraeg. Cyflwynwyd yr ysgoloriaeth gyntaf ym 1993, blwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Saunders Lewis.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adneuwyd un bocs trwy law Ms Ann Ffrancon, Blaenplwyf, Aberystwyth, Ionawr 2002. Daeth y bocs arall i'r Llyfrgell ddiwedd Mawrth 2003 trwy law Mr Elwyn Jones, Aberystwyth. Derbyniwyd ffeil ychwanegol trwy law Mr Alun Creunant Davies, Tachwedd 2004.; 0200209757, 0200412865
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli a phwyllgor Sir Gaernarfon Cronfa Apêl Saunders Lewis, 1989-2001; llythyron a phapurau amrywiol yn ymwneud â sefydlu a lansio'r Apêl, a llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r Gronfa, 1986-2002; gweithiau creadigol yn ymwneud â'r ysgoloriaethau, 1995-1996; cyfrifon a phapurau'r trysoryddion, 1989-2000; a phapurau printiedig sy'n ymwneud ag elusennau, 1996-2002. Y mae hefyd gopi o gyfansoddiad y Gronfa, 1989, a chopi o ddiweddariad, 1999.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Dychwelwyd ffeiliau yn ymwneud â'r Ysgoloriaeth, megis ceisiadau ffurfiol am ysgoloriaeth, CVs, llythyron canolwyr, a cheisiadau ar gyfer Pwyllgor Dewis.
Croniadau
Disgwylir ychwanegiadau yn gyson.
System o drefniant
Trefnwyd yn chwe cyfres yn ôl y math o gofnod: cofnodion, gohebiaeth a phapurau cyffredinol, papurau yn ymwneud â'r Ysgoloriaeth, papurau ariannol, deunydd printiedig, a chyfansoddiad.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r rhestr yn LlGC.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd teitl yr archif, ynghyd â theitlau'r cyfresi a'r ffeiliau ar sail y cynnwys.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
GEAC system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Gorffennaf 2003. Newidiwyd Tachwedd 2004.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhiannon Michaelson-Yeates.
Nodyn yr archifydd
Defnyddiwyd y ffynhonnell ganlynol wrth lunio'r rhestr: NLW Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis, R. Geraint Gruffydd, datganiad i'r Wasg, 18 Hydref 1989, yn ffeil 2/11.