Showing 15092 results

Archival description
Only top-level descriptions
Print preview View:

208 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfrinfa Tyssul

  • NLW MSS 2152B, 2153C, 2154-2159E
  • File
  • 1840-1874

Record books, 1840-1874, of 'Cyfrinfa y Gwir Iforiaid a elwir Cyfrinfa Tyssul', i.e. the Tyssul, Llandysul Lodge of True Ivorites, founded 31 May 1839, and comprising lists of members, details of receipts and payments, etc.

Gwir Iforiaid (Friendly Society). Cyfrinfa Tyssul (Llandysul, Wales)

Cyfrol amryw wedi ei chreu gan William Davies/Miscellaneous volume created by William Davies.

  • NLW ex 2169
  • File
  • 1903, 1954

Cyfrol lawysgrif, 1903, wedi ei chreu gan William Davies, hanesydd llen-gwerin o Pen-lôn, Tal-y-bont, Ceredigion, yn cynnwys casgliad o hen ddywediadau Cymreig; rhestr o adar, pysgod a thrychfilod; ystyron enwau a geiriau ac ati; ynghyd â chopi o sgript radio gan y Parch. Morlais Jones, yn trafod William Davies, ar gyfer rhaglen a ddarlledwyd gan y BBC ym 1954.

Davies, William, 1851-1939

Cyfrol o benillion.

  • NLW ex 2184
  • File
  • 1890-1898

Cyfrol mewn llawysgrif yn cynnwys emynau a phenillion cyfarch, coffa a diolchgarwch, ynghyd â chofnodion ariannol capeli Llanegryn ac Abergynolwyn, ac ysgrifau am brofiadau crefyddol.

Cyfrol o dorion papur newydd yn ymwneud â chyfres o erthyglau yn dwyn y teitl 'Er mwyn yr Amser Gynt ...,

  • NLW MS 19239D.
  • File
  • 1866-1900.

Cyfrol o dorion papur newydd yn ymwneud â chyfres o erthyglau yn dwyn y teitl 'Er mwyn yr Amser Gynt, Fy Ffrynd - yr Hen Amser Gynt' gan Hywel Tudur [?y Parchedig Howell Roberts, Clynnog] a ymddangosodd yn Y Genedl Gymreig, Mai 1899 - Mai 1900. Mae'r torion wedi'u pastio'i mewn i lyfr yn cofnodi pryniadau bran, blawd ceirch, glo, etc yn ardal Tremadog - Llanfrothen yn ystod y cyfnod 1866-1872. (Gynt Bob Owen MS.) Byrddau. Prynwyd oddi wrth Bob Owen, Croesor, Tachwedd 1959. Gweler hefyd NLW MS 19240D.

Cyfrol o gerddoriaeth sanctaidd yn cynnwys anthemau, salmau ac emyn-donau, rhai ohonynt wedi'u trefnu ar gyfer emynau. Arysgrifir y gyfrol ...,

  • NLW MS 18311A.
  • File
  • 1800-1899.

Cyfrol o gerddoriaeth sanctaidd yn cynnwys anthemau, salmau ac emyn-donau, rhai ohonynt wedi'u trefnu ar gyfer emynau. Arysgrifir y gyfrol 'Owen Jones Pant y Bryngwyn is Book Llanrug 1837'. (Gynt Borth-y-gest MS 50.) Nodiant cerddorol. Hanner lledr. Prynwyd o lyfrgell Mr R. E. Jones, Borth-y-gest, 1959-1961.

Cyfrol William Pamplin

  • NLW ex 2097
  • File
  • 1852-[1858]

Cyfrol anghyflawn [Llyfr Gweddi Gyffredin] yn dwyn enwau Gwilym a Siarolin Pamplin sef y botanegwr William Pamplin (1806-1899) a'i wraig gyntaf Caroline, 45 Frith Street, Llundain, 13 Gorffennaf 1852, ynghyd ag enwau pobl yn byw yn Llanberis.

Pamplin, William, 1806-1899

Results 3721 to 3740 of 15092