Ardal dynodi
Math o endid
Person
Ffurf awdurdodedig enw
Meredith, David
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Sefydlwyd Yr Amserau yn 1843 gan William Rees (Gwilym Hiraethog) a John Jones (1790-1855). Newyddiadur pythefnosol oedd Yr Amserau a oedd yn gryf o blaid hawliau anghydffurfiaeth a radicaliaeth ac a ddaeth yn boblogaidd iawn pan ddechreuodd Rees gyhoeddi'r golofn 'Llythyrau 'Rhen Ffermwr'. Yn 1859, prynwyd Yr Amserau gan Thomas Gee a'i uno gyda'i bapur ef, Baner Cymru, a sefydlwyd ddwy flynedd cyn hynny, i greu Baner ac Amserau Cymru, neu Y Faner fel y'i gelwid yn ddiweddarach. Daeth y papur i gael dylanwad cryf ar fywyd crefyddol, gwleidyddol a llenyddol Cymru trwy gydol ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn rhyddfrydol ei ogwydd ac yn amddiffyn anghydffurfiaeth yn erbyn yr Eglwys Sefydledig, yn ogystal â bod yn gefn i'r werin mewn achosion radicalaidd megis dirwest a phwnc y tir. Yn ystod ugain mlynedd cyntaf yr ugeinfed ganrif, dirywiodd y papur a hynny hyd nes daeth E. Prosser Rhys yn olygydd yn 1923. Bu ef yn olygydd ar Y Faner hyd at ei farwolaeth yn 1945. Yn 1935, prynodd Kate Robers a'i gŵr gwmni cyhoeddi Gwasg Gee, ac argraffwyd llawer o erthyglau ac adolygiadau'r awdur yn Y Faner. Gyda Gwilym R. Jones yn olygydd y papur wedi'r rhyfel a Mathonwy Hughes yn is-olygydd, 1949-1977, newidiodd y papur ei berchennog ddwywaith ac fe'i prynwyd yn 1956 gan Wasg y Sir, y Bala, oddi wrth Huw T. Edwards.
Yn ystod y 1960au a'r 1970au, dirywiodd y cylchrediad ac yr oedd y papur mewn perygl am ei fodolaeth, nes, yn 1977, gyda chymhorthdal oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru, newidiwyd diwyg y papur i ffurf cylchgrawn wythnosol. Parhaodd Y Faner i chwarae rhan bwysig yng Nghymru fel un o'r ddau wythnosolyn Cymraeg â chylchrediad o tua thair mil. Daeth bygythiad arall i'r Faner pan benderfynodd Cyngor Celfyddydau Cymru yn erbyn adnewyddu grant Y Faner yn sgîl arolwg o'i nawdd i gyfnodolion. Prynwyd y papur gan Luned Meredith a'i gŵr David Meredith a wnaeth ymdrech i'w achub, dan olygyddiaeth Hafina Clwyd, ond er ymgyrchu caled, methwyd â gwneud hynny, a bu'n rhaid dirwyn Y Faner i ben yn 1992. Daeth y rhifyn olaf o'r wasg ar 17 Ebrill 1992.