Papurau Menna Elfyn
99815105302419
99815105302419
slug:menna-elfyn-papers
Elfyn, Menna
Welsh poetry. 20th century
English poetry -- Welsh authors -- 20th century
Women poets -- 20th century
Elfyn, Menna
Papurau Dr Menna Elfyn, 1950-2017, sy'n adlewyrchu ei bywyd a'i gwaith llenyddol a gwleidyddol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'r meysydd canlynol: barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ar gyfer y llwyfan a'r cyfryngau a phrosiectau cerddorol a chelfyddydol ar y cyd, ynghyd â chyfieithiadau o'i gwaith barddonol i amryw ieithoedd; ei mynych deithiau i ŵyliau barddonol, seminarau a darlleniadau ac i gynnal gweithdai; gyrfa academaidd Menna Elfyn, gan gynnwys ei chyfnodau fel awdur preswyl; anrhydeddau a gwobrau a ddaeth i'w rhan yn ystod ei gyrfa; cyfnodau ymgyrchu a charcharu Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ac ymgyrchoedd dros heddwch, cyfiawnder a hawliau merched; yn ogystal ag ystod sylweddol o ohebiaeth, yn bennaf gyda beirdd a llenorion eraill.
Daeth ychwanegiad i law ym mis Mai 2023, a atodwyd i'r archif fel cyfres 'Y' (Deunydd ychwanegol Mai 2023), fel a ganlyn:
Papurau o eiddo neu sydd a wnelo â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn, sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn, deunydd yn ymwneud â chysiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn, llyfrau nodiadau a gohebiaeth; ynghyd ag erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud a bywyd a gwaith Menna Elfyn a rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.
Mae Menna Elfyn (g. 1952) yn fardd, dramodydd, colofnydd a golygydd. Ymhlith ei chynnyrch toreithiog ceir sawl cyfrol o farddoniaeth, dramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu, rhaglenni teledu dogfennol a llyfrau plant, yn ogystal â nifer o brosiectau cerddorol ar y cyd gyda chyfansoddwyr ac artistiaid. Mae ei gweithiau dwyieithog yn cynnwys y dair flodeugerdd Eucalyptus (1995), Cell Angel (1996) a Cusan Dyn Dall (2001). Ennillodd nifer o wobrwyon am ei gwaith, gan gynnwys y Creative Wales Award yn 2008 a chymeradwyaeth gan y Poetry Book Society am The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry, cyfrol a gyd-olygodd gyda'r awdur a'r academydd John Rowlands. Mae'n cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol rhyngwladol ac yn rhedeg cyrsiau a gweithdai ysgrifennu. Yn 2002 fe'i hapwyntiwyd yn Fardd Llawryfog ar gyfer Plant Cymru. Cyfieithiwyd ei gwaith i ystod eang o ieithoedd, gan gynnwys Sbaeneg, Tsieinëeg, Lithwaneg, Swedeg, Wcreineg, Groeg, Hindi a Slofeneg. Fe'i disgrifiwyd gan y bardd Eingl-Gymreig Tony Conran fel "the first Welsh poet in 1500 years to have her work known outside Wales". Ers sawl blwyddyn bellach mae'n Gyfarwyddwraig Creadigol y cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yng Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bu'n Gymrawd Llenyddol Prifysgolion Aberystwyth (2002-2006, 2013/14) ac Abertawe (2007-2010). Yn 2015 enillodd Gymrodoriaeth y Royal Society of Literature yn ogystal â Llywyddiaeth PEN Cymru ac, yn 2018, fe'i penodwyd yn Gymrawd o'r Learned Society of Wales.
1937-2022
8 bocs mawr + 16 bocs bach (0.373 mᶟ) (rhodd Rhagfyr 2017)
2 focs mawr + 4 bocs bach (0.094 mᶟ) (rhodd Mai 2023)
https://archives.library.wales/index.php/menna-elfyn-papers
reference:GB 0210 MENFYN
Fonds
Fonds
ara
eus
bre
bul
cat
zho
ces
nld
eng
est
fra
glg
deu
ell
hin
gle
ita
jpn
lit
oci
pol
por
pan
sin
slv
spa
sve
tam
tur
ukr
vie
cym
fry