Showing 239 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Llyfrau lloffion Anthony Goulty,

  • NLW ex 2492.
  • file
  • [1949]-[1997].

Tair cyfrol yn cynnwys toriadau papur newydd o golofnau'r Faner a'r Cymro'n ymwneud â gloywi iaith a garddio. Ceir torion hefyd yn ymwneud â D. Tecwyn Evans ac o'i golofn 'Gloywi'r iaith' yn Y Faner. Yr oedd y diweddar Anthony Goulty, Sais o gyfreithiwr ym Manceinion, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Caer. Bu'n weithgar iawn yn ogystal gyda Sain Clwyd Sound, sef grŵp o weithwyr gwirfoddol, gan gynnwys y rhoddwr, a oedd yn cyfarfod yn stiwdio Sain Clwyd yn rheolaidd i wneud tapiau i'r Deillion.

Cymdeithas Gymraeg Napoli,

  • NLW ex 2490.
  • file
  • 1944-1945.

Llyfr cyfrifon ariannol, 1944-1945, Cymdeithas Gymraeg Napoli, a fu ym meddiant diweddar dad y rhoddwr pan oedd yn filwr yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cymdeithas Gymraeg Napoli.

Drama : 'Cwmcynfelin',

  • NLW ex 2434.
  • file
  • [1933].

Drama 'Cwmcynfelin' gan y Parch. Hugh Lunt ('Gwynodl'), Ystrad Fflur, i ddathlu canmlwyddiant Mudiad Rhydychen, 1833-1933.

Lunt, Hugh.

Hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams,

  • NLW Misc. Records 564.
  • file
  • 1978-1981.

Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.

Ystadegau Cronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr,

  • NLW Misc. Records 556.
  • file
  • 1945.

Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.

Papurau'r Parchedig Gwilym Morris (1910-1988),

  • NLW ex 2738.
  • file
  • [1937]-[1988].

Cyfansoddiadau’r Parch. Gwilym Morris, [1937]-[1988], enillydd cyson mewn eisteddfodau cenedlaethol ac eisteddfodau lleol ledled Cymru a sgriptiwr dramâu radio. Ceir cerddi ac ysgrifau ganddo a nodir ar y mynegeion a ddarparwyd os yw'r ysgrifau wedi'u cyhoeddi yn ei gyfrol Yr enfys drwy y glaw (Abertawe, 1981), ynghyd â bywgraffiad ohono gan ei ferch.

Morris, Gwilym.

Cerdd gan G. J. Williams, Bangor,

  • NLW Misc. Records 406.
  • file
  • [?1977].

Llungopi o gerdd mewn teipysgrif gan G. J. Williams (1854-1933), Bangor. = Photocopy of a typewritten poem by G. J. Williams, Bangor.

Englynion yn llaw 'Hydd Cyfeiliog',

  • NLW ex 2707.
  • file
  • 1933.

Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.

Rees, David John.

Marwnad i'r diweddar Mrs E. Llewelyn,

  • NLW Facs 1059.
  • file
  • 2010 /

Copi o farwnad gan Myfyr Wyn i Mrs E. Llewelyn, priod Mr Rowland Llewelyn, Clungwyn, Blaenrhondda, a fu farw 24 Mai 1887 yn 64 mlwydd oed. Fe'i hargraffwyd gan I. Jones, Treherbert.

Myfyr Wyn, 1849-1900.

Llyfrau nodiadau'r Parchedig Dan Jones a phapurau David Caronian Jones = : Reverend Dan Jones notebooks and David Caronian Jones papers,

  • NLW ex 1015.
  • file
  • 1868, 1929-1951.

Dau lyfr nodiadau'r Parch. Dan Jones (1888-1943), gweinidog Capel Bwlchgwynt, Tregaron, a ddefnyddiwyd ganddo i gofnodi manylion am gyfarfodydd eglwysig, angladdau a phriodasau, ynghyd â phapurau David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, cynghorydd ac ymgyrchydd. = Two notebooks of the Reverend Dan Jones (1888-1943), minister of Bwlchgwynt Chapel, Tregaron, used for recording details of church meetings, funeral and weddings, together with the papers of David Caronian Jones, Medical Hall, Tregaron, councillor and campaigner.

Jones, Dan. 1888-

Garthewin, 12.9.48,

  • NLW Facs 1070.
  • file
  • [2012] /

Llungopi o ddau bennill a ysgrifennwyd yn llaw Saunders Lewis mewn copi o'i ddrama Blodeuwedd yn cyfeirio at Dad y rhoddwr 'Tom' yn chwyrnu. = A photocopy of two verses containing a cheerful reference to the donor's father 'Tom' snoring written on the endpapers of Saunders Lewis's copy of his drama Blodeuwedd.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Papurau'r mudiad Cofiwn,

  • NLW ex 2493.
  • file
  • 1981-1986.

Papurau, 1981-1986, yn ymwneud â Cofiwn, gan gynnwys cylchlythyrau a thaflenni ar gyfer trefnu digwyddiadau i gofio Llywelyn ap Gruffydd. Yr oedd yn un o’r grwpiau amrywiol hynny a fu’n hyrwyddo hanes a threftadaeth Cymru a'i arwyddair oedd 'heb dreftadaeth heb enaid'. = Papers, 1981-1986, relating to Cofiwn, comprising newsletters, and leaflets relating to the movement, including papers about organising events to commemorate Llywelyn ap Gruffydd. It was one of the various solidarity groups involved with promoting the history and heritage of Wales and its motto was 'no heritage no soul'.

Papurau Cymdeithas Cymry Durham,

  • NLW ex 2483.
  • file
  • 1966-2006.

Papurau, 1966-2006, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth, papurau ariannol, rhaglenni a phapurau amrywiol eraill yn ymwneud â'r gymdeithas. Bu Dr Lewis Davies (m. 2006), diweddar ŵr y rhoddwr, yn ysgrifennydd a thrysorydd y gymdeithas am nifer o flynyddoedd. = Papers of the Durham Welsh Society, 1966-2006, including minutes of meetings, correspondence, financial papers, programmes and various other papers, relating to the society. Dr Lewis Davies (d. 2006), the donor’s late husband, was secretary and treasurer of the society for many years.

Durham Welsh Society.

Papurau Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed Papers,

  • NLW ex 2753.
  • file
  • 1998-2011.

Deunydd hyrwyddo, rhaglenni a phapurau eraill, 1998-2011, yn ymwneud â chystadleuaeth Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed a drefnir gan Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed. = Advertising material, programmes and other papers relating to the Young Composer of Dyfed competition organised by Cerddorion Ifanc Dyfed / Young Music Makers of Dyfed.

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, Drefach, Llanelli,

  • NLW Misc. Records 561.
  • file
  • 1927-1932.

Deuddeg emyn dôn gan John Harris, glöwr o Drefach, Llanelli, a dreuliodd ei flynyddoedd olaf yn ei gadair gornel yn diodde o fogfa'r glöwr. Mae geiriau'r cyfan ond un gan y rhoddwr, a geiriau'r llall gan y Parch. R. M. Rhys, Drefach. Rhaglenni Cyngerdd y Plant, Gŵyl Ddewi, yng Nghapel Esgairlas, Ffaldybrenin, 1927-1932, trefnydd Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, hen ewythr i'r rhoddwr, gyda llythyron ynglŷn â'r cyngherddau at Daniel Williams oddi wrth Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan a D. T. Owen, 1929-1930, a phenillion gan D. O. Jenkins a 'Glantegwen'. = Twelve hymn tunes by John Harris, a miner from Drefach, Llanelli, who spent his last years confined to his chair by silicosis. The words of eleven of them are by the donor, and the words of the other by the Rev. R. M. Rhys, Drefach. Programmes of St David's Day children's concerts held at Esgairlas Chapel, Ffaldybrenin, 1927-1932, organised by Daniel Williams, Pantmaen, Cellan, an old uncle of the donor, with letters concerning the concerts to Daniel Williams from Ben Davies, 'Glantegwen', B. Morgan, D. Lloyd Morgan and D. T. Owen, 1929-1930, and verses by D. O. Jenkins and 'Glantegwen'.

Results 41 to 60 of 239