Ffeil NLW MS 23969F. - Llyfr Melyn Tyfrydog

Open original Gwrthrych digidol

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW MS 23969F.

Teitl

Llyfr Melyn Tyfrydog

Dyddiad(au)

  • 1763-1769 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

179 ff. (tudalenwyd i-xxx a 1a yn LlGC o flaen y tudaleniad gwreiddiol o 1-326; tt. 6-9, 16-17, 22-23, 26-27, 48a-b, 93-96, 297-298, 305-306, 311-312 o'r tudaleniad gwreiddiol ar goll) ; 320 x 205 mm.

Trwsiwyd, digidwyd ac ail-rwymwyd y llawysgrif yn LlGC, Hydref 2008-Mawrth 2009. Plygwyd un ddalen (tt. xxiii-xxiv) cyn ei rhwymo. Diogelwyd y cloriau lledr gwreiddiol gyda'r gyfrol, ynghyd â chopi o ewyllys Hugh Hughes, dyddiedig 27 Chwefror 1776, a dau ddernyn o lythyrau, 19 ganrif.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Evan Evans (Ieuan Fardd or Ieuan Brydydd Hir, 1731-1788), scholar, poet and critic, was born in the parish of Lledrod, Cardiganshire. Even before he entered Merton College, Oxford, in 1750 Evans had made the acquaintance of such prominent literary and antiquarian figures as the Morris brothers - Lewis, Richard and William - of Anglesey, William Wynn of Llangynhafal and Goronwy Owen. Throughout his clerical career - he was ordained in 1755 - Evans would spend much of his time collecting and copying Welsh manuscripts of literary and historical interest, including poetry from the Red Book of Hergest, all the while making contact with others engaged in the same pursuit such as David Jones of Trefriw, Rhys Jones of Blaenau and John Powel of Llansannan, as well as English antiquaries such as Daines Barrington. In 1764 Evans published his seminal work Some specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, in which he attempted to interpret the substantial output of Welsh poetry, much of it produced at court, from the sixth to the sixteenth century. Arguably the greatest Welsh scholar of his age, Evans possessed an in-depth knowledge of the contents of Welsh manuscripts in the various private libraries of the time and was well acquainted with the works of the great Welsh scholars from the Renaissance onwards. He realised that the chief requirement of Welsh scholarship in his day and age was the publication of the texts of the principal manuscripts which related to the history and literature of Wales. Although Evans himself ultimately failed in his endeavours to achieve this goal, the brilliant work he did accomplish earned him a position of unquestioned importance within the field of Welsh scholarship.

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Hanes archifol

'Hugh Hughes Ty Mawr Llandyfrydog Ner Llanner[chymedd]' (t. v), 'Y Llyfr Hwn wyf yn ei hodi i fy mab Dafydd Hughes ar ôl i mi derfynu or Byd yma' (t. vii). Ychwanegwyd englyn mewn pensil 'i Lyfr y Bardd Coch' gan 'G. Caledfryn', dyddiedig 29 Rhagfyr 1828, ar t. xxix (bu William Williams, 'Caledfryn', yn weinidog yn Llannerch-y-medd, 1829-1832).

Ffynhonnell

Mr John Iwan Parry Hughes, disgynnydd i Hugh Hughes; Dinbych-y-pysgod; Pryniad; Hydref 2007; 004488308.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Cyfrol o achau, cerddi a nodion hynafiaethol, dyddiedig 1766 (ond a luniwyd tua 1763-1769), yn llaw Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), ac sy'n dwyn y teitl 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (t. xxv). Canolbwyntia rhan gyntaf y gyfrol ar achau disgynyddion Pymtheg Llwyth Gwynedd, y mwyafrif yn deuluoedd o Fôn (tt. 1-91; rhestrir y teuluoedd ar tt. xxvii-xxix). Ychwanegwyd arfbais liwiedig teulu Llwydiarth Esgob i gyd-fynd ag ach Hugh Hughes ei hunan ar t. 40. = A volume of pedigrees, poems and antiquarian notes, dated 1766 (but compiled around 1763-1769), in the hand of Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), and entitled 'Llyfr Melyn Tyfrydog [ne]u'r Gell Gymmysg' (p. xxv). Pedigrees of the descendants of the Fifteen Tribes of North Wales, mostly Anglesey families, fill the first part of the volume (pp. 1-91; the families are listed on pp. xxvii-xxix). The coloured arms of the family of Llwydiarth Esgob are appended to the pedigree of Hugh Hughes himself (p. 40).
Cynhwysa'r gyfrol hefyd nodiadau hynafiaethol (t. 97 passim), trioedd a chynghorion (tt. 107-110, 116-119), ynghyd â nifer helaeth o gerddi Cymraeg (t. xiii passim), rhai wedi eu copïo o 'Delyn Ledr' William Morris, Caergybi (bellach BL Add. MS 14873) (tt. xvi, 119), ac eraill o gyfrol Evan Evans, Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (t. 182). Ymysg cerddi cyfoes y llawysgrif, ceir rhai gan David Ellis (t. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (t. 269), Hugh Hughes (tt. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (t. 235), a Goronwy Owen (t. 263). Diweddarwyd rhai o nodiadau hynafiaethol y gyfrol mewn dwylo diweddarach, hyd oddeutu 1858 (t. 50). Am restr o gynnwys y gyfrol, yn llaw Hugh Hughes, gweler t. xvii. = The volume also contains antiquarian notes (p. 97 passim), triads and wisdom (pp. 107-110, 116-119), together with a great number of Welsh poems (p. xiii passim), some copied from the 'Telyn Ledr' of William Morris of Holyhead (now BL Add. MS 14873) (pp. xvi, 119), and others from Evan Evans' Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards (London, 1764) (p. 182). Amongst contemporary poems in the manuscript are compositions by David Ellis (p. 282), Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir) (p. 269), Hugh Hughes (pp. 260, 272, 275), Robert Hughes (Robin Ddu yr Ail o Fôn) (p. 235), and Goronwy Owen (p. 263). Antiquarian notes of a later period were added to the manuscript, until c. 1858 (p. 50). For a list of the volume's contents, in the hand of Hugh Hughes, see p. xvii.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Mynediad at y llawysgrif wreiddiol trwy ganiatad yn unig. Cyfeirir defnyddwyr ar gopiau dirprwyol.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir casgliad Hughes o'i gerddi ei hunan ar gyfer eu cyhoeddi yn Wynnstay MS 8, a cheir copi diweddarach o achau'r Llyfr Melyn yn NLW MS 825D. Copïwyd dogfennau perthnasol sydd ym meddiant teulu'r gwerthwr, a chedwir hwy bellach yn NLW ex 2579.

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Maredudd ap Huw, 'Diogelu "Llyfr Melyn Tyfrydog"', Tlysau'r Hen Oesoedd, 26 (Hydref 2009), 3.

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl gwreiddiol.

Nodiadau

Cyfeirir at gyflwr drylliedig y llawysgrif yng nghyfrol Richard Parry (Gwalchmai), Enwogion Mon (Amlwch, 1877), 56-57.

Nodiadau

Preferred citation: NLW MS 23969F.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004488308

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Mawrth 2011.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw;

Gwrthrych digidol (External URI) ardal hawliau

Gwrthrych digidol (Reference) ardal hawliau

Gwrthrych digidol (Thumbnail) ardal hawliau

Ardal derbyn