Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Jones, T. Llew (Thomas Llew)
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
- Jones, Thomas Llew
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
1915-2009
History
Ganwyd Thomas Llewelyn Jones (1915-2009), bardd ac awdur llyfrau plant, ym Mhentre-cwrt, sir Awyrlu a'r Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn hyfforddi'n athro. Bu'n brifathro ar ysgolion cynradd Tregroes a Choed-y-bryn, sir Aberteifi. Ym 1940 priododd â Margaret Jones, un o deulu'r Cilie, a thrwy hynny daeth dan ddylanwad beirdd megis Isfoel ac Alun Cilie. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, 1958, ac yng Nghaernarfon, 1959. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi, gan gynnwys Sŵn y Malu (Llandysul, 1967) a Canu'n Iach! (Llandysul, 1987). Ysgrifennodd nifer fawr o nofelau poblogaidd i blant, yn eu mysg Y Ffordd Beryglus (Llandysul, 1963), Ymysg Lladron (Llandysul, 1965) a Dial o'r Diwedd (Llandysul, 1968), Barti Ddu (Llandybïe, 1973), Un Noson Dywyll (Llandysul, 1973), Tân ar y Comin (Llandysul, 1975), Dirgelwch yr Ogof (Llandysul, 1977) a Lleuad yn Olau (Llandysul, 1989). Roedd gan T. Llew Jones ddiddordeb mawr mewn gwyddbwyll. Roedd yn aelod o Undeb Gwyddbwyll Cymru, a daeth yn Is-Lywydd ar y mudiad. Rhannodd y diddordeb yma gyda'i fab iau, Iolo Ceredig Jones (g. 1947), a bu'r ddau yn cystadlu dros Gymru yn yr Olympiad Gwyddbwyll. Ei fab hynaf yw Emyr Llewelyn (g. 1941), ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg a garcharwyd ym 1963 yn sgil ffrwydriad yng Nghwm Tryweryn, Bala. Bu farw T. Llew Jones ym Mhontgarreg, Ceredigion, ar 9 Ionawr 2009.
Places
Legal status
Functions, occupations and activities
Mandates/sources of authority
Internal structures/genealogy
General context
Relationships area
Access points area
Subject access points
Place access points
Occupations
Control area
Authority record identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Status
Level of detail
Dates of creation, revision and deletion
Language(s)
Script(s)
Sources
lcnaf