Identity area
Type of entity
Person
Authorized form of name
Isaac, Norah.
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Yr oedd Norah Isaac (1914-2003) yn awdur, cynhyrchydd dramâu a Phrifathrawes gyntaf yr Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth yn 1939.
Fe'i ganwyd ar 3 Rhagfyr 1914 a'i magu yn 71 Heol Treharne yn y Caerau, Maesteg, yn ferch i David Isaac a'i wraig Margaret (née Jones). Yr oedd ei gwreiddiau'n ddwfn yn ardal Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Gynradd Blaenllyfni ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Maesteg yn 1924 lle bu'n Brif Ferch. Fe'i hyfforddwyd fel athrawes yng Ngholeg Y Barri gan orffen ei chwrs yn 1935. Ei swydd gyntaf oedd Trefnydd Ymarfer Corff Urdd Gobaith Cymru, 1935-1938, yn Siroedd Morgannwg a Mynwy. Bu'n gweithio ym Mhencadlys yr Urdd yn Aberystwyth, 1938-1939, gan weithio'n bennaf ar Cymru'r Plant. Fe'i penodwyd yn Brifathrawes gyntaf Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd 25 Medi 1939 gyda saith o blant yn ei gofal a bu yn y swydd tan ddiwedd 1949 gyda phedwar ugain o blant ar y gofrestr. Bu'n darlithio yn ei hen goleg yn Y Barri, 1950-1958, ac yna fe'i penodwyd yn Brif Ddarlithydd Cymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Norah Isaac sefydlodd yr Adran Ddrama Gymraeg gyntaf erioed mewn Coleg yng Nghymru.
Bu'n adroddwraig frwd mewn eisteddfodau a bu'n actio rhan 'Puck' yn A Midsummer Night's Dream. Yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pwl 1924 cafodd y wobr gyntaf am adrodd 'Y Gwynt' gan J. J. Hughes a bu hefyd yn adrodd ar lwyfan Hammersmith Palace, Llundain. Cafodd llun ohoni 'the brilliant child elocutionist' ei gynnwys yn y News Chronicle. Cyfrannodd nifer o sgriptiau radio i'r BBC ar hyd y blynyddoedd. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin yn 1974 hi oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Yn 1988 hi oedd y ferch gyntaf i'w dyrchafu yn Gymrawd o'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn 1991 fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Yn 1995 derbyniodd radd Doethur Er Anrhydedd Prifysgol Cymru. Dyfarnwyd Medal y Cymmrodorion iddi yn 2003, ond bu farw cyn ei derbyn. Cyflwynwyd y bathodyn i ofal tref Caerfyrddin mewn seremoni arbennig er cof amdani yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, 30 Tachwedd 2003.
Bu Norah Isaac farw 3 Awst 2003 a chynhaliwyd y gwasanaeth angladdol yn Amlosgfa Margam, 11 Awst, a chladdwyd ei gweddillion ym medd ei rhieni ym mynwent Llangynwyd. Cynhaliwyd rhaglen deyrnged 'Llwybrau' iddi dan ofal Cefin Roberts yn y Babell Lên, 2 Awst 2004, yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch.