Jiwbili Coleg y Brifysgol Abertawe
- M4/1
- ffeil
- 1970
Jiwbili Coleg y Brifysgol Abertawe
Papurau yn ymwneud â dathliadau jiwbili Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1970.
Papurau yn ymwneud â'r Ddeiseb Genedlaethol, [c.1937]-[c.1945], sef ymgyrch dros gael statws cyfartal â'r Saesneg i'r iaith Gymraeg mewn llysoedd.
Llythyrau a math o anerchiad yn ymwneud â chael mwy o raglenni Cymraeg ar y teledu ynghyd â llythyr yn trafod cyfarfod i drafod y pwnc yn Nhŷ'r Cyffredin, 1956.
Papurau yn ymwneud â'r ymgyrch dros Senedd i Gymru, [c.1939]-1964, gan gynnwys torion papur newydd; llythyrau; nodiadau gan Dr Iorwerth Hughes Jones; llyfryn Home Rule for Wales (y tu fewn i'r llyfryn mae poster ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964); pamffled rali Plaid Cymru yng Nghaerdydd, 1953, a llyfryn gan Dr J. Gwyn Griffiths, A Parliament in Cardiff; rhaglen i ginio 'Senedd yng Nghaerdydd' a threfn y seddau.
Parliament for Wales Campaign
Papurau yn ymwneud â'r amrywiol ymgyrchoedd gwleidyddol yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwynt, [c.1937]-1964, megis yr ymgyrch dros Senedd i Gymru; yr ymgyrch dirprwyaeth teledu a oedd yn ymgyrchu i gael rhagor o raglenni Cymraeg ar y teledu; a'r Ddeiseb Genedlaethol, oedd yn ymgyrch dros gael statws cyfartal i'r Gymraeg mewn llysoedd.
Papurau'n ymwneud â mordeithiau'r Urdd, 1933-1935, gan gynnwys pamffledi, rhaglenni, llyfrynnau, lluniau a thorion o negeseuon a yrrwyd oddi ar fwrdd yr Orduña.
Llythyrau oddi wrth R. E. Griffith a Syr Ifan ab Owen Edwards yn trafod materion yn ymwneud â'r Urdd yn bennaf, 1952-1962, er bod naws bersonol i rai o'r llythyrau hefyd. Yn ogystal ceir pamffledi ar gyfer cyfarfod anrhydeddu Syr Ifan ab Owen Edwards.
Griffith, R. E. (Robert Emrys), 1911-1975
Llythyrau yn trafod materion Cymreig a'r Urdd yn bennaf, ynghyd â phapurau'n ymwneud â mordeithiau'r Urdd, 1933-1962.
Urdd Gobaith Cymru
Llythyrau yn ymwneud â Phlaid Cymru, er bod naws lled-bersonol i rai o'r lythyrau, 1926-1945. Ceir hefyd ffurflenni aelodaeth. Mae yma lythyrau oddi wrth J. E. Jones a H. R. Jones.
Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970
Llythyrau yn ymwneud â Phlaid Cymru, 1926-1945.
Plaid Cymru lctgm -- Meetings
Papurau yn ymwneud â'r mudiadau a'r sefydliadau yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwynt, 1926-1970, sef Plaid Cymru, Yr Urdd, ymgyrchoedd gwleidyddol a Phrifysgol Cymru, Abertawe.
Llyfr cyfrifon Walter Griffiths, 1875-1890.
Ffotograffau teuluol, y rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys y Parch. Ebeneser Aman Jones, 1873x1953.
Llyfryn a ddaeth i law, neu a brynwyd gan, Dr Iorwerth Hughes Jones.
Llythyrau at Mrs. Rachel Lewis yn trafod y dollborth ym Mhentre Estyll, ynghyd â rhai tollbyrth eraill, a ffurflen i nodi faint o doll a gasglwyd mewn wythnos, [c.1865]-[c.1874].
Llawysgrif fer yn ysgrifen y diweddar Parch. H. Elvet Lewis (Elfed), [c.1938], yn cynnwys ychydig o emynau Cymraeg a Saesneg, nodiadau ar gyfer pregethu a cherdd yn dechrau gyda'r geiriau 'Within Assisi's walls two evil flames of wrath'.
Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)
Llyfr nodiadau R. Rees, cyn-ysgolfeistr y Crwys, yn llawn nodiadau ar enwau lleoedd lleol, [ar ôl 1942].
Llyfr nodiadau Howell Price, 1758-1766, bonheddwr o Lyn Llech, plwyf Ystradgynlais, Sir Frycheiniog.
Papurau o lyfrgell gweinidog Llanwrtyd
Papurau amrywiol a ddaeth o lyfrgell gweinidog Llanwrtyd, [1800]x[1900], yn cynnwys cofrestr o anerchiadau a draddodwyd gan William Rees (Gwilym Hiraethog) yn y Tabernacle, Great Crosshall Street, Lerpwl, 1843-1846; llyfr William Williams ('Willliam Williams's book of Rememberance'), Ionawr 1824, yn cynnwys tiwn gron a nodiadau pregethau; llyfr llawysgrif o donau emynau; nodiadau ar Gyngor Trent; llyfr rhifyddeg Miss (Mary) Elias (sydd yn cynnwys nodiadau pregethau ar y tudalennau gwag); llyfr nodiadau mathemateg sy'n cynnwys adysgrif o gerdd gan Philip Morgan, a gyhoeddwyd yn Seren, 1844; gweithred ('deed of gift') o chwarter acer i adeiladu ysgol a thŷ ysgol yn Llanwrtyd; rhestr o guradon Llanwrtyd, 1754-1771 a darnau allan o gofrestri plwyf Llanwrtyd 1772-1805; torion papur newydd; llyfrau nodiadau yn cynnwys darlithoedd a phregethau, a phregethau nifer ohonynt gan John Griffiths; ynghyd â dyddiadur y Parch Richard James, Llanwrtyd, yn ei law ei hun, [1874]-[1875].
Jones, Ebeneser Aman, 1873-1953