Dangos 66 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones
Rhagolwg argraffu Gweld:

Mudiadau a sefydliadau

Papurau yn ymwneud â'r mudiadau a'r sefydliadau yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwynt, 1926-1970, sef Plaid Cymru, Yr Urdd, ymgyrchoedd gwleidyddol a Phrifysgol Cymru, Abertawe.

Papurau Ceri Richards

Papurau'n ymwneud â'r arlunydd Ceri Richards, 1938-1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Ceri Richards a Frances Richards at Dr Iorwerth Hughes Jones, ei wraig Elizabeth a'i dad W. Glasnant Hughes Jones, ynghyd â llythyrau gan bobl eraill at Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â Ceri Richards; cardiau nadolig gwreiddiol oddi wrth Ceri a Frances Richards at Dr Iorwerth Hughes Jones a'i wraig; gwahoddiadau i arddangosfeydd; nodiadau ar hanes Ceri Richards a'i deulu; a negatif o lun o Ceri Richards yn Rhoshili.

Richards, Ceri, 1903-1971

Torion papur newydd

Llyfr torion yn cynnwys torion papur newydd a rhai llythyrau yn ymwneud â'r artist Ceri Richards, ei weithiau a'i arddangosfeydd, [1946]-[1971].

Papurau Evan Walters

Papurau yn ymwneud â'r arlunydd Evan Walters, 1926-1971, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ac at Evan Walters; brasluniau inc a phensil; torion papur newydd yn ymwneud yn bennaf â'i farwolaeth; deunydd printiedig, megis rhaglenni arddangosfeydd, cerdyn aelodaeth ei dad i'r 'Amalgamated Society of Woodworkers' a'i gerdyn yn nodi cyfraniadau i'r 'Loyal Treboeth Lodge'; mae yma hefyd ffotograff o un o luniau Evan Walters.

Walters, Evan, 1893-1951

Hanes meddyginiaeth a meddygon

Papurau yn ymwneud â hanes meddyginiaeth a meddygon, [c.1946]-1970, gan gynnwys papurau ymchwil; llyfrynnau; copïau o erthyglau amrywiol; nodiadau ymchwil y Dr Iorwerth Hughes Jones; llythyrau; torion papur newydd; lluniau o wahanol feddygon a chopi o sgwrs radio a draddodwyd ar y rhaglen Gwyddoniaeth Heddiw. Ceir yma hefyd gopi o'r llyfryn The Character of Early Welsh Immigration to the United States, A. H. Dodd, sydd o bosib yma oherwydd y cysylltiad â'r meddyg John Morgan a aeth i'r Unol Daleithiau a sefydlu yr ysgol feddygol gyntaf yno.

Hanes Lady Barham a'i theulu

Papurau yn ymwneud â hanes Lady Barham (Diana Noel, 1762-1923) a'i theulu, 1823-1971, gan gynnwys llythyrau oddi wrth amrywiol ohebwyr, deunydd ymchwil, nodiadau amrywiol, nodiadau sydd ddim yn llaw y Dr Iorwerth Hughes Jones, copïau teipysgrif a llawysgrif o hen lythyrau, ffotogopïau o hen lythyrau, llythyr gwreiddiol at Julia Noel, 1823, a lluniau o wrthrychau yn ymwneud â hanes y teulu Barham.

Hanes lleol

Papurau yn ymwneud ag ymchwil ar hanes lleol, [1919]-1970, gan gynnwys nodiadau amrywiol ar bynciau a phobl lleol; cerdyn â darlun o dad Ceri Richards arno; nodiadau a llythyr ar y Parch. Isaac Williams; nodiadau ar academi Crwys; nodiadau ar gyfer anerchiad ar hen lyfr eglwys Cilfwnwr (nid yn llaw y Dr Iorwerth Hughes Jones); rhaglen cyfarfodydd sefydlu yn Eglwys Annibynnol y Crwys; llyfr nodiadau ar wahanol gapeli yn cynnwys Ebeneser, Dunvant, yn llaw y Parch. W. Glasnant Jones o bosibl; pennill traddodiadol ar Gastell Ystumllwynarth; nodiadau ar y teulu Mansel; nodiadau ar Cila a'r enw Cila; llun o deulu Lewis, Cila; nodiadau ar Wernllath; nodiadau ar, a lluniau o, Gellihir; cynllun o Gellihir; bwndel o achau teulu; hanes y diwidiant copr yn Abertawe; erthygl papur newydd ar hanes Abertawe wedi'i hysgrifennu gan y Dr Iorwerth Hughes Jones; llyfrau nodiadau, un â nodiadau wedi eu cymryd o lyfr R. Rees, hen ysgolfeistr y Crwys ac un ar hanes achos yr Annibynnwyr yn y Crwys; lluniau o Ysgol John Evans y Crwys; amlenni yn cynnwys lluniau a nodiadau ar, a gan, R. Lewis John; lluniau o Sgwd Gwladys; a thorion papur newydd yn ymwneud â hanes lleol.

Hanes

Papurau yn ymwneud â gwahanol feysydd hanesyddol yr oedd y Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymddiddori ynddynt, 1823, [1919]-[1972], sef hanes lleol, enwau lleoedd, hanes gwrthrychau, hanes Lady Barham a hanes meddygon a meddyginiaeth. Mae yma gymysgedd o ddeunydd megis llythyrau, nodiadau ymchwil, torion papur newydd, llawysgrifau, llyfrynnau a lluniau.

Diddordebau

Papurau yn ymwneud â diddordebau'r Dr Iorwerth Hughes Jones, 1823, [1919]-1972, megis hanes, celfyddyd a llenyddiaeth.

Llythyrau oddi wrth sefydliadau

Llythyrau oddi wrth sefydliadau Cymreig, 1943-1972, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Werin Cymru, Coleg Prifysgol Abertawe, Adran Llyfrgelloedd Cyhoeddus Bwrdeistref Sir Abertawe, Ysbyty Morriston, ac E. D. Jones a David Jenkins, cyn-lyfrgellwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r llythyrau hyn yn bennaf yn diolch i Dr Iorwerth Hughes Jones am ei gyfraniadau i'r sefydliadau hyn, er bod naws lled-bersonol i rai o'r llythyrau hefyd.

Jones, E. D. (Evan David)

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau gyda nifer o ohebwyr gwahanol yn trafod carchariad Saunders Lewis a'i iechyd tra yn y carchar, ynghyd â chopi o gwestiynau a holwyd iddo mewn cyfarfod yn Nhŷ Cyfarfod y Crynwyr, yn Heol Fawr, Abertawe, yng nghanol y 1930au, [1935]-[1937].

Llythyrau David Bell

Llythyrau oddi wrth David Bell, 1951, 1958-1959, yn trafod materion celfyddydol a'i iechyd; llythyrau oddi wrth meddygon, ei wraig a'i deulu, yn trafod ei salwch, 1958-1959; ynghyd â threfn ei wasanaeth angladd, a thaflenni teipysgrif yn ymwneud â materion celfyddydol.

Bell, David, 1915-1959

Llythyrau T-W

Llythyrau oddi wrth Ceinwen Thomas, I. R. Thomas, John Ormond Thomas (at y Parch. W. Glasnant Jones), D. J. Williams, Gwilym Owen Williams, Ifor Williams, John L. Cecil Williams a Stephen J. Williams, 1933-1971.

Thomas, Ceinwen H. (Ceinwen Hannah)

Canlyniadau 41 i 60 o 66