Dangos 66 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau M-O

Llythyrau oddi wrth Dafydd Miles, Donald Moore, John Jenkyn Morgan, Prys Morgan, T. J. Morgan, Percy Morris, F. J. North a J. Dyfnallt Owen, 1936-1972.

Morgan, John Jenkyn, 1875-1961

Llythyrau P-S

Llythyrau oddi wrth Iorwerth Peate, D. Rhys Phillips, Edgar Phillips, Mati Rees, T. Ifor Rees, Keidrych Rhys, Brinley Richards, Melville Richards, D. O. Roberts, Elwyn Roberts, Gomer M. Roberts, Glyn Simon a J. Beverley Smith, 1937-1964.

Phillips, D. Rhys (David Rhys), 1862-1952

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, 1924-1972, oddi wrth nifer o ohebwyr gwahanol at Dr Iorwerth Hughes Jones yn bennaf (ceir rhai llythyrau at ei wraig a'i dad). Mae'r llythyrau hyn yn trafod amrywiol bynciau megis materion celfyddydol a llenyddol; pynciau hanesyddol ac archaeolegol; enwau lleoedd; materion meddygol; gwleidyddiaeth, ac yn arbennig, gwleidyddiaeth Gymreig, gan gynnwys yr ymgyrch dros Senedd i Gymru, materion Plaid Cymru a llwyddiant etholaethol Dr Iorwerth Hughes Jones; materion cyhoeddus yr oedd Dr Iorwerth Hughes Jones yn ymwneud â hwy, megis ymgyrchoedd lleol, a'i aelodaeth ag amrywiol cymdeithasau a mudiadau; ceir cyfeiriadau at yr Ail Ryfel Byd mewn rhai llythyrau; ac yn ogystal â hyn oll fe geir llythyrau sydd yn fwy personol eu naws.

Papurau Dr Iorwerth Hughes Jones

  • GB 0210 IOHUJO
  • fonds
  • 1659-1972 (crynhowyd [c.1919]-1972)

Mae'r archif yn adlewyrchu diddordebau amrywiol Dr Iorwerth Hughes Jones, ac yn cynnwys gohebiaeth, papurau personol, nodiadau, ffotograffau, torion papur newydd, a phapurau a dderbyniodd gan eraill.

Jones, Iorwerth Hughes, 1902-1972

Canlyniadau 61 i 66 o 66