Dangos 58 canlyniad

Disgrifiad archifol
eitem
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Helynt Transvaal,

Llawysgrif 'Helynt Transvaal', dyddiedig Ionawr 1900, gan 'I. ap Huw', Abersoch, yn ymwneud ag Ail Ryfel y Boer. = Manuscript of 'Helynt Transvaal', dated January 1900, by 'I. ap Huw', Abersoch, concerning the Second Boer War.

I. ap Huw, of Abersoch.

Hugh J. Owen yn ymddeol,

Chwe englyn, 1954, gan Griffith Davies (Gwyndaf) i Hugh J. Owen ar ei ymddeoliad fel Clerc Cyngor Sir Feirionnydd. = Six englyns, 1954, by Griffith Davies (Gwyndaf) to Hugh J. Owen on his retirement as Clerk of Merioneth County Council.
Cynhwysir hefyd lythyr oddi wrth Gwyndaf i'r rhoddwr, [1961]. Ceir yr ail, y pedwerydd a'r pumed pennill, gyda rhai newidiadau, yn Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, gol. gan James Nicholas (Abertawe, 1966), t. 40. = Also included is a letter from Gwyndaf to the donor, [1961]. The second, fourth and fifth verses, with some revisions, appear in Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, ed. by James Nicholas (Swansea, 1966), p. 40.

Gwyndaf, 1868-1962.

Llawysgrif Ehedydd Iâl,

Dwy gerdd, 'Traethodl ar ganu' a 'Hyder am y Nef', gan William Jones (Ehedydd Iâl), [19 gan., ail ½]. = Two poems, 'Traethodl ar ganu' and 'Hyder am y Nef', by William Jones (Ehedydd Iâl), [19 cent., second ½].
Ni ymddengys y cerddi yn ei gyfrol Blodau Iâl (Treffynnon, 1898). = Neither poem appears in his volume Blodau Iâl (Holywell, 1898).

Jones, William, 1815-1899.

Marwnad Eleanor Howell,

Marwnad i Eleanor Howell gan W[illiam] W[illiams] (Gwilym Cyfeiliog) yn cychwyn 'Rhyw newydd dieithrol a draidd yr awelon...', [19 gan., canol]. = An elegy for Eleanor Howell by William Williams (Gwilym Cyfeiliog) beginning 'Rhyw newydd dieithrol a draidd yr awelon...', [mid 19 cent.].
Ceir englyn ar f. 2. = An englyn is on f. 2.

Gwilym Cyfeiliog, 1801-1876

Marwnad Richard Hughes

Copi o 'Marwnad Richard Hughes' gan Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 gan.]. = A copy of an elegy, 'Marwnad Richard Hughes', by Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 cent.].

Edwards, Thomas, 1739-1810

Marwnad,

Copi llawysgrif, [1860], o'r gerdd 'Llinellau a'r farwolaeth Mrs Jane Edmunds...Rhymney, yr hon a fu farw Mawrth 12fed 1860' gan Iorwerth Glan Aled, yn llaw Abel Edmunds, tad-yng-nghyfraith Jane Edmunds. = Manuscript copy, [1860], of a poem by Iorwerth Glan Aled on the death of Mrs Jane Edmunds, Rhymney, who died 12 March 1860, in the hand of Abel Edmunds, Jane Edmunds's father-in-law.

Edmunds, Abel.

Pa le mae'r clodydd gennych?,

'Pa le mae'r clodydd gennych?', [1967], cerdd gan H[uw] Ll[ewelyn] W[illiams], ynghylch Testament Newydd Cymraeg William Salesbury. = 'Pa le mae'r clodydd gennych?', [1967], a poem by H[uw] Ll[ewelyn] W[illiams], concerning Wiliam Salesbury's Welsh New Testament.
Cyhoeddwyd y gerdd yn y Traethodydd, 122 (1967), 145-6. = The poem was published in the Traethodydd, 122 (1967), 145-6.

Williams, Huw Llewelyn, 1904-1979.

Penillion coffa,

Penillion coffa i H. D. Jones, Bodeilian, gan Griffith Hugh Jones (Gutyn Arfon), 1874 (f. 1); i Luke Moses, Cilgeraint, gan William John Hughes (Deiniolfryn), [?1885] (f. 2); ac i William Ellis, Deiniolen, gan J. R. Morris, 1934 (ff. 3-5, teipysgrif). = Elegies to H. D. Jones, Bodeilian, by Griffith Hugh Jones (Gutyn Arfon), 1874 (f. 1); to Luke Moses, Cilgeraint, by William John Hughes (Deiniolfryn), [?1885] (f. 2); and to William Ellis, Deiniolen, by J. R. Morris, 1934 (ff. 3-5, typescript).
Cyhoeddwyd cerdd Deiniolfryn yn W. J. Parry, Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau, [1900]). = Deiniolfryn's poem was published in W. J. Parry, Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau, [1900]).

Arfon, G. H. (Griffith Hugh), 1849-1919.

Penillion gan Gwallter Myrnach,

Dwy gerdd gan Walter Hugh James (Gwallter Myrnach), yn cynnwys 'Canu i Hen Gapel Glandwr', 12 Ionawr 1866 (ff. 1-2), a 'Penillion gan Gwallter Myrnach', Mai 1868 (f. 2 verso). = Two poems by Walter Hugh James (Gwallter Myrnach), comprising 'Canu i Hen Gapel Glandwr', 12 January 1866 (ff. 1-2), and verses composed in May 1868 (f. 2 verso).
Roedd yr awdur, yn wreiddiol o Lanfyrnach, sir Benfro, erbyn y cyfnod yma wedi ymfudo i Seland Newydd. Ceir copi printiedig o fersiwn o'r gerdd gyntaf, gyda'r teitl 'Hen Gapel Glandwr, Swydd Benfro', yn NLW MS 11614E. = The author, originally from Llanfyrnach, Pembrokeshire, was by this time living in New Zealand. A printed copy of a version of the first poem, entitled 'Hen Gapel Glandwr, Swydd Benfro', may be found in NLW MS 11614E.

Gwallter Myrnach.

Penillion i gyfarch Peryddon,

Penillion, 1969, gan Mathonwy Hughes i gyfarch J. H. Lloyd (Peryddon) ar ei ben-blwydd yn 86 (f. 1); a thorion papur newydd o dair cerdd o ddiddordeb i'r Bala, [1889]-[1937] (ff. 2-4). = Verses, 1969, by Mathonwy Hughes to J. H. Lloyd (Peryddon) on his 86th birthday (f. 1); and press cuttings of three poems of Bala interest, [1889]-[1937] (ff. 2-4).
Amgaeir cyflythyr oddi wrth y rhoddwr, [Ionawr 1970] (f. i). = Also enclosed is a covering letter from the donor, [January 1970] (f. i).

Hughes, Mathonwy.

Penillion i Isaac Evans, Gyrn,

'Penillion Coffadwriaethol i'r diweddar Isaac Evans, Gyrn, Llanddeinol' gan 'Cyffinydd', a 'Dirwest' gan 'Teithiwr', y ddwy gerdd yn yr un llaw, [19 gan., ail ½]. = Verses in memory of Isaac Evans of Gyrn, Llanddeinol, by 'Cyffinydd', and 'Dirwest' (Temperance) by 'Teithiwr', both in the same hand, [19 cent., second ½].

Penillion,

Copi holograff, 1946, o bennill cyntaf 'Blodau Ffa' gan T. Gwynn Jones, (cyfansoddwyd 1900); a chopi holograff, [1940au], o bennill olaf 'Heddwch' gan George M. Ll. Davies. = A holograph copy, 1946, of the first verse of 'Blodau Ffa' by T. Gwynn Jones, 1946 (composed 1900); and a holograph copy, [1940s], of the final verse of 'Heddwch' by George M. Ll. Davies.
Cyhoeddwyd 'Blodau Ffa' yn T. Gwynn Jones, Manion (Wrecsam, 1932), t. 15, a 'Heddwch' yn Y Llenor, 19 (Gaeaf 1940), 172-3. = 'Blodau Ffa' was published in T. Gwynn Jones, Manion (Wrexham, 1932), p. 15, and 'Heddwch' in Y Llenor, 19 (Winter 1940), 172-3.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Siop Jack Edwards,

Englyn, 1951, i Siop Jack Edwards, Aberystwyth, yn llaw T. H. Parry-Williams. = A holograph englyn, 1951, to Siop Jack Edwards, Aberystwyth, by T. H. Parry-Williams.

Parry-Williams, T. H. (Thomas Herbert), Sir, 1887-1975

Swynion Salem, Coedgruffydd,

Adysgrif, [?20 gan., cynnar], o'r gerdd 'Swynion Salem, Coedgruffydd' gan 'Gwan o Geredigion', sef John Ll. Nuttall (Llwyd Fryniog). = Transcript, [?early 20 cent.], of the poem 'Swynion Salem, Coedgruffydd' by 'Gwan o Geredigion', namely John Ll. Nuttall (Llwyd Fryniog).
Cyhoeddwyd y gerdd yn llyfr Nuttall, Telyn Trefeurig, 2il argraffiad (Llundain, [1908]), tt. 65-67; fodd bynnag mae'n bosib y copïwyd yr adysgrif presennol allan o rifyn o'r Faner. = The poem was published in Nuttall's book Telyn Trefeurig, 2nd edn (London, [1908]), pp. 65-67; this transcript, however, may have been copied from an issue of Y Faner.

Nuttall, J. Ll. (John Lloyd), 1858?-1929.

Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg,

'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', cerdd ynghylch ffoaduriaid Ail Ryfel Byd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, [1950au]. = 'Y plant cadw a ddysgodd Gymraeg', a poem concerning Second World War evacuees, possibly in the hand of John Davies, Goginan, [1950s].
Ysgrifenwyd y gerdd ar gefn cylchlythyr ymgyrch Senedd i Gymru, dyddiedig 3 Hydref 1949. = The poem was written on the reverse of a Parliament for Wales campaign circular, dated 3 September 1949.

Davies, John, of Goginan.

Yr Iesu a'r Wraig o Samaria,

Copi Xerox, [1960au], o lawysgrif y bryddest 'Yr Iesu a'r Wraig o Samaria', [1866x1867], yn llaw John Davies (Ossian Gwent). = Xerox copy, [1960s], of a holograph manuscript of the 'pryddest' 'Yr Iesu a'r Wraig o Samaria', [1866x1867], by John Davies (Ossian Gwent).
Cynhwysir hefyd gyflythyr, [?1867], yn gyrru'r bryddest i'r Parch. William Thomas (Islwyn), golygydd Y Cylchgrawn (f. i). = Also included is a covering letter, [?1867], sending the poem to the Rev. William Thomas (Islwyn), editor of Y Cylchgrawn (f. i).

Ossian Gwent, 1839-1892.

[Lance Corporal & three civilians]

Studio portrait of a Lance Corporal wearing what appears to be a Territorial Force War Medal ribbon on his tunic. He is sitting next to a woman displaying what appear to be an engagement and wedding rings. Behind them are two older men in dark suits. Possibly a wedding photograph. The Territorial Force medal was not awarded until April 1920.

D C Harries, Rhosmaen Street, Llandilo.

Canlyniadau 41 i 58 o 58