Dangos 58 canlyniad

Disgrifiad archifol
eitem
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Penillion i gyfarch Peryddon,

Penillion, 1969, gan Mathonwy Hughes i gyfarch J. H. Lloyd (Peryddon) ar ei ben-blwydd yn 86 (f. 1); a thorion papur newydd o dair cerdd o ddiddordeb i'r Bala, [1889]-[1937] (ff. 2-4). = Verses, 1969, by Mathonwy Hughes to J. H. Lloyd (Peryddon) on his 86th birthday (f. 1); and press cuttings of three poems of Bala interest, [1889]-[1937] (ff. 2-4).
Amgaeir cyflythyr oddi wrth y rhoddwr, [Ionawr 1970] (f. i). = Also enclosed is a covering letter from the donor, [January 1970] (f. i).

Hughes, Mathonwy.

Emyn Diolch,

Copi llawysgrif 'Emyn Diolch' gan y Parch. Philip Jones, Porthcawl, [1941]. Cyhoeddwyd yr emyn yn Philip Jones, Pregethau ac Emynau, gol. gan Nantlais (Llandybie, [1948]), t. 73. = A manuscript copy of the hymn 'Emyn Diolch' by the Rev. Philip Jones, Porthcawl, [1941]. It was published in Philip Jones, Pregethau ac Emynau, ed. by Nantlais (Llandybie, [1948]), p. 73.

Jones, Philip, 1855-1945.

Penillion coffa,

Penillion coffa i H. D. Jones, Bodeilian, gan Griffith Hugh Jones (Gutyn Arfon), 1874 (f. 1); i Luke Moses, Cilgeraint, gan William John Hughes (Deiniolfryn), [?1885] (f. 2); ac i William Ellis, Deiniolen, gan J. R. Morris, 1934 (ff. 3-5, teipysgrif). = Elegies to H. D. Jones, Bodeilian, by Griffith Hugh Jones (Gutyn Arfon), 1874 (f. 1); to Luke Moses, Cilgeraint, by William John Hughes (Deiniolfryn), [?1885] (f. 2); and to William Ellis, Deiniolen, by J. R. Morris, 1934 (ff. 3-5, typescript).
Cyhoeddwyd cerdd Deiniolfryn yn W. J. Parry, Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau, [1900]). = Deiniolfryn's poem was published in W. J. Parry, Eglwys Bethesda, Arfon (Dolgellau, [1900]).

Arfon, G. H. (Griffith Hugh), 1849-1919.

Aelwyd lân a gwraig lon,

Cerdd o'r enw 'Aelwyd lan a gwraig lon' gan 'Gwr Mwyn' [o Lanfair Caereinion?], anfonwyd i 'Mr W. P.', Pwllheli, Ionawr 1863. = A poem entitled 'Aelwyd lan a gwraig lon' by 'Gwr Mwyn' [of Llanfair Caereinion?], sent to 'Mr W. P.', Pwllheli, January 1863.

Gwr Mwyn

Carol,

Copi llawysgrif, [18 gan., hwyr] (dyfrnod 'Afonwen Mill'), o bedwar pennill olaf cerdd anhysbys, gyda'r pennill cyntaf ar glawr yn cychwyn 'Mae'n ddyled i ninnau mewn goleu yn ddi gyd'. Mae'r pennill olaf yn dweud i'r gerdd gael ei chyfansoddi ym 1781. = A manuscript copy, [late 18 cent.] ('Afonwen Mill' watermark), of the final four verses of an anonymous poem, the first extant verse beginning 'Mae'n ddyled i ninnau mewn goleu yn ddi gyd'. The final verse gives the year of its composition as 1781.

Cerdd i gyfarch eisteddfod,

Cerdd anhysbys i gyfarch eisteddfod, yn cychwyn 'Ha wyr hen ddifyr ddefod...', [20 gan., ¼ cyntaf]. = An anonymous poem addressing an eisteddfod, beginning 'Ha wyr hen ddifyr ddefod...', [20 cent., first ¼].

Hugh J. Owen yn ymddeol,

Chwe englyn, 1954, gan Griffith Davies (Gwyndaf) i Hugh J. Owen ar ei ymddeoliad fel Clerc Cyngor Sir Feirionnydd. = Six englyns, 1954, by Griffith Davies (Gwyndaf) to Hugh J. Owen on his retirement as Clerk of Merioneth County Council.
Cynhwysir hefyd lythyr oddi wrth Gwyndaf i'r rhoddwr, [1961]. Ceir yr ail, y pedwerydd a'r pumed pennill, gyda rhai newidiadau, yn Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, gol. gan James Nicholas (Abertawe, 1966), t. 40. = Also included is a letter from Gwyndaf to the donor, [1961]. The second, fourth and fifth verses, with some revisions, appear in Awen Gwyndaf Llanuwchllyn, ed. by James Nicholas (Swansea, 1966), p. 40.

Gwyndaf, 1868-1962.

Cŵn Cadben Spence-Jones Pantglas,

Cân i 'Cŵn Cadben Spence-Jones Pantglas' [sef C. J. H. Spence-Jones, yn ddiweddarach Spence-Colby], ysgrifennwyd yn ôl bob tebyg gan Samuel Jones, Hafod Lom, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin. Roedd y gerdd yn fuddugol yn Eisteddfod Llanfynydd, 1 Gorffennaf 1907. = Verses to the hounds of Captain [C. J. H.] Spence-Jones [later Spence-Colby] of Pantglas, probably written by Samuel Jones of Hafod Lom, Llanfynydd, Carmarthenshire. The poem was awarded a prize at Llanfynydd Eisteddfod, 1 July 1907.

Jones, Samuel, of Llanfynydd.

Carol Nadolig,

Copi, dyddiedig 19 Rhagfyr 1853, o Garol Nadolig (1785) gan David Rhys, Llanbrynmair (neu o bosib ei frawd, Thomas), wedi ei ddiwygio gan, ac yn llaw, Evan Breece (Ieuan Cadfan). = A copy, dated 19 December 1853, of a Christmas Carol (1785) by David Rhys of Llanbrynmair (or possibly his brother, Thomas), revised by, and in the hand of, E[van] Breece (Ieuan Cadfan).

Breece, Evan, 1798 or 1799-1855.

Marwnad,

Copi llawysgrif, [1860], o'r gerdd 'Llinellau a'r farwolaeth Mrs Jane Edmunds...Rhymney, yr hon a fu farw Mawrth 12fed 1860' gan Iorwerth Glan Aled, yn llaw Abel Edmunds, tad-yng-nghyfraith Jane Edmunds. = Manuscript copy, [1860], of a poem by Iorwerth Glan Aled on the death of Mrs Jane Edmunds, Rhymney, who died 12 March 1860, in the hand of Abel Edmunds, Jane Edmunds's father-in-law.

Edmunds, Abel.

Penillion,

Copi holograff, 1946, o bennill cyntaf 'Blodau Ffa' gan T. Gwynn Jones, (cyfansoddwyd 1900); a chopi holograff, [1940au], o bennill olaf 'Heddwch' gan George M. Ll. Davies. = A holograph copy, 1946, of the first verse of 'Blodau Ffa' by T. Gwynn Jones, 1946 (composed 1900); and a holograph copy, [1940s], of the final verse of 'Heddwch' by George M. Ll. Davies.
Cyhoeddwyd 'Blodau Ffa' yn T. Gwynn Jones, Manion (Wrecsam, 1932), t. 15, a 'Heddwch' yn Y Llenor, 19 (Gaeaf 1940), 172-3. = 'Blodau Ffa' was published in T. Gwynn Jones, Manion (Wrexham, 1932), p. 15, and 'Heddwch' in Y Llenor, 19 (Winter 1940), 172-3.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Barddoniaeth R. Williams Parry,

'Detholion o farddoniaeth R. Williams-Parry, MA', llyfryn ar gyfer Ysgol Uch-Safonol y Cefnfaes, Bethesda, [1918x1951], wedi ei atgynhyrchu drwy cyclostyle. = An anthology of poetry by R. Williams Parry for Cefnfaes School, Bethesda, [1918x1951], reproduced by cyclostyle.
Ymddengys y rhan fwyaf o'r cerddi yn R. Williams Parry, Yr Haf a Cherddi Eraill (Bala, 1924). = Most of the poems appear in R. Williams Parry, Yr Haf a Cherddi Eraill (Bala, 1924).

Parry, Robert Williams

Pa le mae'r clodydd gennych?,

'Pa le mae'r clodydd gennych?', [1967], cerdd gan H[uw] Ll[ewelyn] W[illiams], ynghylch Testament Newydd Cymraeg William Salesbury. = 'Pa le mae'r clodydd gennych?', [1967], a poem by H[uw] Ll[ewelyn] W[illiams], concerning Wiliam Salesbury's Welsh New Testament.
Cyhoeddwyd y gerdd yn y Traethodydd, 122 (1967), 145-6. = The poem was published in the Traethodydd, 122 (1967), 145-6.

Williams, Huw Llewelyn, 1904-1979.

Yr Iesu a'r Wraig o Samaria,

Copi Xerox, [1960au], o lawysgrif y bryddest 'Yr Iesu a'r Wraig o Samaria', [1866x1867], yn llaw John Davies (Ossian Gwent). = Xerox copy, [1960s], of a holograph manuscript of the 'pryddest' 'Yr Iesu a'r Wraig o Samaria', [1866x1867], by John Davies (Ossian Gwent).
Cynhwysir hefyd gyflythyr, [?1867], yn gyrru'r bryddest i'r Parch. William Thomas (Islwyn), golygydd Y Cylchgrawn (f. i). = Also included is a covering letter, [?1867], sending the poem to the Rev. William Thomas (Islwyn), editor of Y Cylchgrawn (f. i).

Ossian Gwent, 1839-1892.

Englyn i Philip Thomas, Castellnedd,

Copi teipysgrif, [20 gan., canol], o englyn i Philip Thomas, Castellnedd, gan R. Williams Parry, dyddiedig 20 Awst 1924. = Typescript copy, [mid 20 cent.], of an englyn to Philip Thomas of Neath by R. Williams Parry, dated 20 August 1924.
Cyhoeddwyd yr englyn yn Y Dinesydd Cymreig, 1 Hydref 1924, t. 7; Barn, Tachwedd 1963, t. 4; a Cerddi R. Williams Parry, gol. gan Alan Llwyd (Dinbych, 1998), t. 233. = The englyn was published in Y Dinesydd Cymreig, 1 October 1924, p.7; Barn, November 1963, p. 4; and Cerddi R. Williams Parry, ed. by Alan Llwyd (Denbigh, 1998), p. 233.

Parry, Robert Williams

Annerch i'r Parch. John Jones Talsarn,

'Annerch i'r Parch. John Jones Talsarn ar farwolaeth ei Eneth yn 14 oed, Hydref 1845' gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd), [1845]. = An address to the Rev. John Jones, Talsarn, on the death of his daughter, aged 14, in October 1845, by Ebenezer Thomas (Eben Fardd), [1845].
Cyhoeddwyd y gerdd yn Gweithiau Barddonol, &c, Eben Fardd (Bangor, [1873?]), t. 376. = The poem was published in Gweithiau Barddonol, &c, Eben Fardd (Bangor, [1873?]), p. 376.

Eben Fardd, 1802-1863

Englynion i Mrs Jane Rowland Roberts,

Un ymgais ar ddeg ar y testun 'Dau englyn beddargraff Mrs Jane Rowland Roberts, diweddar wraig y Parch. Wm Roberts' ar gyfer eisteddfod Cymreigyddion Blaenau Gwent, 9 Medi 1850. = Eleven attempts at composing gravestone inscriptions to Mrs Jane Rowland Roberts, late wife of the Rev. William Roberts, for the Blaenau Gwent Cymreigyddion eisteddfod, 9 September 1850.
Ymysg yr ymgeiswyr mae Robert Ellis, Sirhowy (f. 3), D. W. Jones (Dewi Glan Taf) (ff. 7-8) ac Evan Jones (Gwrwst ab Bleddyn Flaidd) (f. 9). = Amongst the entrants are Robert Ellis, Sirhowy (f. 3), D. W. Jones (Dewi Glan Taf) (ff. 7-8) and Evan Jones (Gwrwst ab Bleddyn Flaidd) (f. 9).

Penillion i Isaac Evans, Gyrn,

'Penillion Coffadwriaethol i'r diweddar Isaac Evans, Gyrn, Llanddeinol' gan 'Cyffinydd', a 'Dirwest' gan 'Teithiwr', y ddwy gerdd yn yr un llaw, [19 gan., ail ½]. = Verses in memory of Isaac Evans of Gyrn, Llanddeinol, by 'Cyffinydd', and 'Dirwest' (Temperance) by 'Teithiwr', both in the same hand, [19 cent., second ½].

Canlyniadau 41 i 58 o 58